Clwb Clebran Mai

734 diwrnod yn ôl

Mae gyda ni Glwb Clebran prysur a bywiog i chi y mis hwn. Ar y 10fed o Fai am 12:30 bydd Catrin Heledd, y newyddiadurwraig chwaraeon yn ôl i holi tri o aelodau o staff mwyaf ffit y Cyngor am eu campau yn y byd triathlon. Mae Noelwyn Daniel, Pennaeth TG a Pholisi, Guto Morgans, ein Swyddog Datblygu Triathlon a Hefin Lloyd, Rheolwr Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid yn athletwyr profiadol ac wedi cymryd rhan mewn nifer fawr o gystadlaethau triathlon amrywiol. Fe fyddwn yn clywed am eu hanturiaethau a’u straeon difyr a hynny drwy gyfweliad gan un o newyddiadurwyr mwyaf amlwg Cymru, Catrin Heledd.

Trowch mewn am awr fach i glywed a defnyddio’r Gymraeg gyda’ch cydweithwyr. Ewch i dudalen Be Sy Mlaen ar y fewnrwyd am fwy o wybodaeth ac am ddolen i’r cyfarfod TEAMS.