Mae Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin yn dathlu ymroddiad gofalwyr maeth Sir Gaerfyrddin y Pythefnos Gofal Maeth hwn

725 diwrnod yn ôl

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae teuluoedd ledled y wlad wedi cael eu taro’n galed gan effaith y pandemig.

Gyda phobl yn methu â gweld anwyliaid, ysgolion yn cau a llinellau cymorth yn anodd eu cyrchu, mae cymunedau ledled Cymru wedi dod o hyd i ffyrdd eraill o gefnogi ei gilydd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae hyn hyd yn oed yn wir am deuluoedd maethu.

Mae llawer wedi defnyddio’r cyfnod anodd hwn fel cyfle i greu ‘arfer newydd’ cwbl fwy cadarnhaol – nid yn unig yn eu bywydau ond ym mywydau plant lleol. Yn ôl Maethu Cymru, dechreuodd dros 350 o deuluoedd yng Nghymru faethu gyda’u hawdurdod lleol yn ystod pandemig Covid-19.

Y Pythefnos Gofal Maeth hwn (9-22 Mai) mae Maethu Cymru am ddathlu'r gwahaniaeth y mae gofalwyr maeth wedi'i wneud i fywydau plant yn Sir Gaerfyrddin. O ofalwyr maeth sydd wedi dangos ymroddiad dros nifer o flynyddoedd i'r rhai sydd newydd ddechrau eu taith faethu i helpu i roi dyfodol gwell i blant.

Pythefnos Gofal Maeth yw ymgyrch codi ymwybyddiaeth gofal maeth fwyaf y DU, a ddarperir gan yr elusen faethu flaenllaw, The Fostering Network. Thema eleni yw ‘maethu cymunedau’ a bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar ymrwymiad, angerdd ac ymroddiad gofalwyr maeth.

Mae’n gobeithio taflu goleuni ar y ffyrdd niferus y mae pobl yn y gymuned faethu wedi cefnogi ei gilydd yn ystod pandemig Covid-19 – ac i dynnu sylw at yr angen am fwy o ofalwyr maeth ymroddedig.

Mae Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin yn un o 22 o dimau awdurdodau lleol yng Nghymru, sy'n gweithio gyda'i gilydd fel Maethu Cymru, rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu dielw.

Mae Maethu Cymru eisiau annog mwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth ar gyfer eu hawdurdod lleol fel y gall plant aros yn eu hardal leol, yn agos at eu ffrindiau a’u teulu ac aros yn eu hysgolion. Gall hyn helpu plant a phobl ifanc i gadw eu synnwyr o hunaniaeth yn ystod cyfnod sydd fel arall yn un cythryblus.

Mwy o wybodaeth am faethu yn Sir Gaerfyrddin