Wythnos Ymwybyddiaeth Haul 2022

730 diwrnod yn ôl

Gweithio'n Ddiogel yn yr Haul!

Os yw eich gwaith yn golygu eich bod yn treulio llawer o'ch amser yn yr awyr agored, mae angen ichi geisio osgoi salwch sy'n gysylltiedig â gwres megis llosg haul, cramp gwres, blinder gwres, a thrawiad gwres. Isod mae rhywfaint o gyfarwyddyd a chyngor ynghylch sut mae osgoi hyn.

Beth allwch chi ei wneud i ddiogelu eich hun?

  • Cadwch eich dillad amdanoch – gwisgwch ddillad sy'n eich amddiffyn rhag yr haul megis crysau llewys hir a throwsus hir.
  • GWISGWCH EICH OFFER DIOGELU PERSONOL - RHAID GWISGO HETIAU CALED A SIACEDI LLACHAR BOB AMSER (fel yr amlinellwyd mewn asesiadau risg)
  • Lle bo'n bosibl arhoswch yn y cysgod pan fyddwch ar egwyl, yn enwedig amser cinio.
  • Os yw'n ddiogel i wneud hynny ac nad yw'n torri unrhyw reolau safle neu ofynion asesu risg, gallwch gael gwared ar offer diogelu personol yn ystod egwyliau i helpu i annog colli gwres.
  • Defnyddiwch eli haul (gan wneud hynny ryw 20–30 munud cyn mynd allan) ar unrhyw groen sydd yn y golwg. Dylech fod yn hynod ofalus os oes gennych frychni haul neu groen golau nad yw'n troi'n frown, neu sy'n cochi neu'n llosgi cyn troi'n frown; gwallt golau neu goch a llygaid lliw golau; a llawer o fannau duon;
  • Yfwch ddigon o ddŵr neu ddiodydd oer i osgoi dadhydradu. Wrth weithio'n galed mewn amodau lle mae straen gwres dylai gweithwyr yfed tua 250 ml (hanner peint) bob 15 munud neu 500 ml (peint) bob 30 munud.
  • Cadwch olwg ar eich croen yn rheolaidd am unrhyw smotiau neu fannau duon anarferol. Ewch at y meddyg yn syth os dewch o hyd i unrhyw beth sy'n newid siâp, maint, yn cosi neu'n gwaedu.
  • Edrychwch allan am symptomau cynnar o straen gwres a chadwch lygad barcud ar gydweithwyr am arwyddion o salwch gwres.. Ymhlith y symptomau arferol y mae:
    1. Methu â chanolbwyntio;
    2. Cramp yn y cyhyrau;
    3. Brech gwres;
    4. Syched difrifol – un o symptomau hwyr straen gwres;
    5. Llewygu;
    6. Blinder gwres – blinder, pendro, teimlo'n gyfoglyd, pen tost, croen llaith;
    7. Trawiad gwres – croen sych a thwym, dryswch, confylsiynau, ac yn y pen draw mynd yn anymwybodol;
    8. Os ydych yn ansicr beth i'w wneud, ffoniwch 999 i gael cymorth.

Rhowch wybod am unrhyw bryderon i'ch goruchwyliwr neu reolwr llinell.

 

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy ddilyn y dolenni isod:

Cadwch eich top ymlaen (hse.gov.uk)

Taflen Rhad ac Am Ddim - Diogelu rhag yr haul, cyngor i gyflogwyr (hse.gov.uk)

Straen Gwres - Tymheredd - HSE

Dadhydradu (hse.gov.uk)

Tymheredd -Gweithio Yn Yr Awyr Agored - HSE 

Haul, UV a Cancer | Ymchwil Cancer y DU

Erthygl gan: Iechyd a Llesiant / Iechyd & Diogelwch