Cyflwyno ein mantais newydd i weithwyr

363 diwrnod yn ôl

Ydych chi'n aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol?

Os felly, mae gennych gyfle gwerthfawr i ddysgu mwy am ein cynllun ildio cyflog newydd, sef y cynllun Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVC).

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gydag AVC Wise i hwyluso'r fantais gost-effeithlon hon, fel y gallwch baratoi ar gyfer ymddeoliad mwy cyfforddus.*

Mae gan AVC Wise dîm o arbenigwyr a fydd yn eich helpu i ddeall manteision Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol yn eu gweminarau, a sut y gallwch ymddeol yn gynnar neu gyda mwy o arian.

Sut i ymddeol yn gynnar a gyda mwy o arian:

  • Dydd Mercher, Mai 24 2023 am 12.30pm
  • Dydd Iau, Mai  25 2023 am 5.30pm


Esbonio eich opsiynau ymddeol:

  • Dydd Mercher, Mai 17 2023 am 5.30pm
  • Dydd Mawrth, Mai 23 2023 am 12.30pm

Peidiwch â cholli allan, archebwch eich lle nawr! Cofrestrwch ar y wefan www.avcwise.co.uk/book
 
*Buddsoddiad tymor hir yw pensiwn a gall gwerth y gronfa amrywio a gostwng. Gall eich incwm yn y pen draw ddibynnu ar faint y gronfa ar ôl ymddeol, y gyfradd llog yn y dyfodol a deddfwriaeth trethi.