Ailgylchu yn y gweithle – newidiadau o 6 Ebrill
26 diwrnod yn ôl
Dim ond dau ddiwrnod sydd i fynd nes bydd y gyfraith newydd ynghylch ailgylchu yn y gweithle yn dod i rym.
Mae'n golygu o 6 Ebrill 2024, y bydd angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus ddidoli eu gwastraff i'w ailgylchu yn yr un ffordd ag y mae'r rhan fwyaf o aelwydydd yn ei wneud nawr.
Cyfrifoldeb pawb yw rhoi'r gwastraff cywir yn y bin cywir. Ni chaniateir rhoi eich holl wastraff mewn un bin - rhaid i chi ddidoli'ch gwastraff yn iawn.
Er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru, byddwch yn sylwi ar newid o ran lleoliadau biniau a byddwn yn cael gwared ar rai biniau gwastraff ac ailgylchu.
Rydym wedi gosod mannau ailgylchu dynodedig mewn lleoliadau strategol mewn adeiladau, yn lle biniau unigol ar draws y gweithle, gan ei gwneud yn haws i chi waredu'ch gwastraff yn gyfrifol.Bydd posteri gwybodaeth yn lleoliadau blaenorol y biniau yn eich tywys i'r 'mannau ailgylchu' newydd.
Bydd yn rhaid i bob gweithle wahanu'r deunyddiau canlynol i'w casglu:
- Bwyd ar gyfer eiddo sy'n cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd yr wythnos
- Papur a Chardbord
- Gwydr
- Metelau, plastigau a chartonau
Gallai methu â chydymffurfio â'r gyfraith arwain at ddirwy.
Os nad yw’r newidiadau wedi cael eu gwneud i’ch swyddfa erbyn dydd Llun, 8 Ebrill, cysylltwch â workplacerecycling@sirgar.gov.uk. Cofiwch nodi cyfeiriad eich swyddfa er mwyn i ni sicrhau bod yr holl drefniadau angenrheidiol yn cael eu gwneud.
Ceir rhagor o wybodaeth am y newidiadau a pha fin dylid ei ddefnyddio ar y tudalennau Ailgylchu yn y Gweithle.