Canllawiau i gyflogeion yn ystod y cyfnod sy'n arwain at yr etholiadau

63 diwrnod yn ôl

Bydd Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal ddydd Iau, 2 Mai 2024.

Bydd yr Hysbysiad Etholiad yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, 25 Mawrth 2024,  a chaiff y cyfnod rhwng yr hysbysiad hwn a'r etholiad ei alw'n gyfnod cyn yr etholiad.

Yn ystod y cyfnod hwn mae angen i'r cyngor sicrhau ei fod yn parhau'n ddiduedd - rhaid i'r holl aelodau a staff gymryd gofal ychwanegol i sicrhau bod y cyngor yn cymryd safiad niwtral ac nad yw'n rhoi amlygrwydd na chyhoeddusrwydd i unrhyw ymgeisydd neu barti penodol.

Er mwyn cefnogi'r aelodau a'r staff yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi cytuno ar brotocol rhanbarthol cyn yr etholiad.

Er y daw hyn i rym ddydd Llun, 25 Mawrth 2024, cymerwch y cyfle cynnar hwn i ymgyfarwyddo â'r canllawiau ac adolygu unrhyw gynlluniau sydd gennych yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.

Mae'r protocol canllawiau yn ymdrin â materion fel cyhoeddusrwydd, digwyddiadau, cyhoeddiadau a briffiau, a sut y dylid rheoli'r rhain yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.

Mae hefyd yn cynghori ynghylch defnyddio adnoddau'r cyngor, gohebiaeth ag ymgeiswyr, cyfarfodydd a defnyddio adeiladau'r cyngor, a chanllawiau penodol ar gyfer aelodau a gweithwyr sy'n sefyll yn yr etholiad.

Sylwer bod y canllawiau'n berthnasol i holl aelodau'r cyngor, cyflogeion a chontractwyr sy'n gwneud gwaith ar ran y cyngor.

Darllenwch y canllawiau cyhoeddusrwydd cyn yr etholiad