Sicrhau bod eich manylion cyswllt yn gyfredol
33 diwrnod yn ôl
Mae'n bwysig eich bod yn cymryd munud i sicrhau bod eich manylion yn gyfredol ar ein cyfeirlyfr cyswllt ar MyView – yn enwedig eich ffôn a'ch cyfeiriad e-bost, gan fod hyn yn diweddaru eich proffil / gwybodaeth gyswllt ar Microsoft Outlook.
Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod eich cydweithwyr yn gallu cysylltu â chi yn ogystal â staff y ganolfan gyswllt i gynorthwyo cwsmeriaid gyda'u hymholiadau.
Gallwch wneud hyn drwy fynd i mewn i'ch cyfrif MyView, clicio ar y botwm 'Manylion Cyswllt' o dan yr adran Manylion Personol a 'golygu'r manylion hyn’. Sylwch na fydd y newidiadau'n digwydd ar unwaith a gallent gymryd dros nos i brosesu'r newid, felly cofiwch gwirio bod unrhyw ddiweddariadau a wnaed gennych wedi cael eu diwygio ar ôl ychydig ddyddiau
Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, sicrhewch fod eich ffôn swyddfa yn cael ei ddargyfeirio i rif perthnasol. Ni ddylid dargyfeirio galwadau i'r ganolfan gyswllt heb gytuno ar hynny ymlaen llaw.
Mae hefyd yn werth cofio agor eich calendr a sicrhau bod eich presenoldeb bob amser wedi'i ddiweddaru.