Cwsg ac Iechyd Meddwl

50 diwrnod yn ôl

Ar gyfer Diwrnod Cwsg y Byd, 15 Mawrth 2024 y thema a'r slogan yw Quality Sleep, Sound Mind, Happy World.  Mae cwsg yn rhan annatod o fywyd, ond mae'n hawdd anwybyddu ei bwysigrwydd; dydyn ni byth yn meddwl am gwsg iawn nes ein bod ni'n ei golli. Gan fod ystadegau'n dangos bod cymaint â 16 miliwn o oedolion yn dioddef o nosweithiau di-gwsg ac mae 4 o bob 10 oedolyn yn cyfaddef bod cwsg gwael wedi gwneud iddynt deimlo dan fwy o straen a bod pethau'n eu llethu. Nid yw'n syndod bod perthynas agos rhwng cwsg ac iechyd meddwl.

Gall ambell noson wael o gwsg wneud i chi deimlo'n flinedig ac yn bigog y diwrnod wedyn, ond ni fydd yn niweidio eich iechyd. Fodd bynnag, gall cwsg gwael rheolaidd gael effaith enfawr ar eich iechyd a gall effeithio ar eich corff, eich meddyliau, eich emosiynau a'ch ymddygiad. Gall byw gyda phroblem iechyd meddwl effeithio ar ba mor dda rydych chi'n cysgu; yn yr un modd gall cwsg gwael gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl.

Sut allwch chi wella eich iechyd meddwl?

Cofiwch ei bod yn bosibl y bydd yr awgrymiadau hyn helpu un person ac nid pob un. Rhowch gynnig ar rai awgrymiadau rydych chi'n teimlo'n gyfforddus â nhw, peidiwch â rhoi gormod o bwysau arnoch chi'ch hun, rhowch gynnig ar rywbeth arall neu ceisiwch eto ar adeg arall.

  • Crëwch drefn: ceisiwch fynd i'r gwely a deffro ar yr un amser bob dydd, gan ddefnyddio dyddiadur cwsg i olrhain a rhoi sgôr ar eich cwsg.
  • Ymlaciwch cyn mynd i'r gwely: rhowch gynnig ar ymarferion anadlu neu fyfyrio, gall canolbwyntio ar rywbeth atal gorfeddwl.
  • Defnyddio dyfeisiau cyn mynd i'r gwely: gall defnyddio sgriniau cyn amser gwely effeithio'n negyddol ar eich cwsg.
  • Eich deiet: ystyriwch sut mae eich deiet yn effeithio arnoch chi, er enghraifft, eich caffein neu'ch siwgr.
  • Gweithgaredd corfforol: mae astudiaethau'n dangos bod bod yn yr awyr agored a bod yn egnïol gael effaith gadarnhaol ar eich patrwm cysgu.

Ewch i'n Ymlacio a Chysgu'n Dda i gael mwy o gynghorion ynghylch gwella ansawdd eich cwsg a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eich iechyd meddwl a'ch iechyd corfforol.