Lansio fersiwn newydd o Microsoft Teams
31 diwrnod yn ôl
O ddydd Sul, 31 Mawrth byddwn yn trosglwyddo i'r fersiwn newydd o Microsoft Teams ar draws y sefydliad.
Beth sy'n wahanol yn y fersiwn newydd?
- Nodweddion Gwell - Mae'r fersiwn newydd o Teams yn llawn nodweddion newydd cyffrous a fydd yn ein helpu i weithio'n fwy clyfar ac yn fwy effeithlon gyda'n gilydd. O well proses rhannu ffeiliau i well offer rheoli cyfarfodydd, mae rhywbeth i bawb elwa arno.
- Gwell Perfformiad - Gallwch anghofio am amseroedd llwytho araf a mwynhau profiad llyfnach, cyflymach. Mae'r rhyngwyneb Teams newydd yn gyflymach, gan sicrhau y gallwch gyrchu popeth sydd ei angen arnoch heb unrhyw oedi.
- Diogelwch Tynnach - Mae'r fersiwn newydd o Teams yn cynnwys mesurau diogelwch ychwanegol i gadw data'n ddiogel.
- Integreiddio Llyfn - Un o'r pethau gorau am y fersiwn newydd o Teams yw'r ffordd mae'n integreiddio'n llyfn ag apiau a gwasanaethau Microsoft 365 eraill. P'un a ydych chi'n cydweithio ar ddogfennau yn SharePoint neu'n trefnu cyfarfodydd yn Outlook, bydd popeth yn gweithio gyda'i gilydd yn llyfn.
- Rhyngwyneb sy'n hawdd ei ddefnyddio - Mae'r rhyngwyneb Teams newydd yn fwy greddfol ac yn haws ei ddefnyddio nag erioed o'r blaen. Bydd yn hawdd defnyddio'r platfform, gan eich galluogi i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf – gwneud gwaith.
Gallwch weld rhagor o nodweddion a gwelliannau yma.
Beth sydd angen i mi ei wneud ar gyfer y fersiwn newydd o Teams?
Bydd y broses uwchraddio yn dechrau yn y cefndir wrth i chi barhau i weithio.
Pan fydd y platfform newydd ar gael i'w ddefnyddio, byddwch yn derbyn y neges ganlynol. Gallwch ddewis trosglwyddo pan fo'n gyfleus - a dyna ni!
Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau yn ystod y broses uwchraddio, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth TG drwy ffonio 01267 246789 neu drwy gofnodi galwad drwy’r Porth Hunanwasanaeth TGCh