Amharu ar Drefniadau Gwaith - Hydref 2024

1. Cyflwyniad

Derbynnir na allwn gynllunio ar gyfer popeth a all ddigwydd, ac o bryd i'w gilydd gall amgylchiadau godi a fydd yn amharu ar gyfran sylweddol o'r gweithlu. Gallai'r rheswm dros yr amharu fod yn un mewnol megis lefelau staffio is, colli safleoedd, methiant TG / colli data, methiant cyfleustod neu ddylanwad allanol fel tywydd eithafol, llifogydd, tân neu ffrwydriad, pandemig ffliw neu ddamwain drafnidiaeth, ac nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol.

Ym mhob achos o amharu ar drefniadau gwaith, diben y polisi yw pennu sut y bydd y Cyngor yn ymdrin â goblygiadau staffio bryd hynny.

Mewn achos o amharu ar y gweithlu, bwriedir i'r polisi hwn gael blaenoriaeth ar y polisïau a'r arferion cyflogaeth sy’n bodoli eisoes.


2. Cwmpas

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i'r holl weithwyr, heb gynnwys staff a gyflogir gan ysgolion a reolir yn lleol, lle bydd y corff llywodraethu’n pennu’r polisi.


3. Egwyddorion

Mewn achosion o amharu, mae'r Cyngor yn ceisio sicrhau bod cysondeb o ran y ffordd y rheolir gweithwyr, gan sicrhau ar yr un pryd bod adnoddau digonol gan y meysydd gwasanaeth sy'n cael blaenoriaeth.

Mae'r Polisi yn ceisio helpu rheolwyr llinell i gael cydbwysedd rhwng yr angen am gynnal gwasanaethau hanfodol a rheoli'r materion pobl sy'n deillio o'r amharu. Mae'r Polisi yn darparu opsiynau i'w hystyried o ran cefnogi'r egwyddor hon a sicrhau tegwch a chysondeb wrth ei chymhwyso.


4. Rolau a chyfrifoldebau

Gwall yn llwytho sgript Rhan-Wedd (ffeil: ~/Views/MacroPartials/GenerateFAQPageContentPagination.cshtml)

 


5. Polisi

Mae'r adran hon yn bwrw golwg gyffredinol ar y polisïau a'r gweithdrefnau Adnoddau Dynol allweddol y bydd angen ichi gyfeirio atynt efallai fel rheolwr llinell neu weithiwr oherwydd yr amharu. Gellir cael golwg ar y dogfennau yn eu cyfanrwydd ar y fewnrwyd.

 

Gwall yn llwytho sgript Rhan-Wedd (ffeil: ~/Views/MacroPartials/GenerateFAQPageContentPagination.cshtml)

 


6. Sicrhau cyfle cyfartal

Rhaid i bawb fabwysiadu agwedd gadarnhaol, agored a theg a gofalu y cedwir at Polisi Cydroddoldeb ac Amrywiaeth yr Awdurdod ac y caiff ei weithredu’n gyson heb ystyried hil, lliw, cenedligrwydd, gwreiddiau ethnig neu genedlaethol, iaith, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oed, rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth neu fynegiant o ran rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, mamolaeth, statws o ran bod yn rhiant neu o ran priodas/partneriaeth sifil. 
 
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â chymhwyso’r polisi a’r weithdrefn a geir yma, cysylltwch ag aelod o’r Tîm Rheoli Pobl a fydd, os oes angen, yn sicrhau bod y polisi/y weithdrefn yn cael ei (h)adolygu’n briodol.

Os oes angen copi o'r cyhoeddiad hwn arnoch mewn fformat arall, cysylltwch â Pobl, Digidol a Pholisi drwy anfon e-bost at CHR@sirgar.gov.uk  (neu mewnflwch tîm arall fel y bo'n briodol).