Polisi Amser o’r Gwaith - Chwefror 2026
1. Cyflwyniad
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i wella cydbwysedd gwaith a bywyd ei gyflogeion. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod rhai achlysuron/adegau pryd y mae cyfnodau byr neu hir o amser o'r gwaith yn angenrheidiol, y tu hwnt i'r hawl i wyliau blynyddol. Bydd y Cyngor yn gwneud ei orau glas i gefnogi'r staff i gydbwyso eu gwaith â'u hymrwymiadau personol.
Y PRIF EGWYDDORION
• Mae'r Polisi hwn yn weithredol yn amodol ar anghenion y gwasanaeth.
• Mae'n rhaid rhoi rhybudd cymaint ymlaen llaw ag sy’n bosibl.
• Os camddefnyddir y polisi hwn, ymdrinnir â hynny o dan Weithdrefn Ddisgyblu'r Cyngor.
• Rhaid arfer cysondeb yn y modd y gweithredir y polisi hwn wrth ymdrin â phob un, heb ystyried hil, lliw, cenedl, tarddiad ethnig neu genedlaethol, iaith, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oedran, rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws o ran cyfrifoldebau magu plant, statws priodasol neu statws partneriaeth sifil (gan gynnwys partneriaid o'r un rhyw).
2. Cwmpas
Mae'r weithdrefn hon yn cwmpasu pob cyflogai, ac eithrio staff mewn Ysgolion a Reolir yn Lleol, y mae gweithdrefn ar wahân yn bodoli ar eu cyfer.
3. Egwyddorion
Mae'r Cyngor wedi ymroi i sicrhau:
• Bod amgylchedd gwaith hyblyg yn cael ei ddatblygu, ar yr un pryd â chynnal darpariaeth gwasanaethau o safon.
• Bod cyflogeion yn cael cefnogaeth yn ystod cyfnodau argyfwng, gan gynnwys amgylchiadau annisgwyl a brys.
• Bod rheolwyr yn cydnabod pwysigrwydd cydbwyso bywyd cartref a gwaith, ac yn gweld bod hyblygrwydd yn elfen hanfodol er mwyn recriwtio, ysgogi a chadw staff o safon uchel a hynny ar bob haen.
• Bod pob cyflogai yn cael ei drin yn deg ac â chysondeb.
• Y cydymffurfir â deddfwriaeth statudol a hawliau contractiol.
4. Rolau a chyfrifoldebau
Rheolwyr
• Rheolwyr sy'n gyfrifol am ystyried ceisiadau cyflogeion am amser o'r gwaith a all effeithio ar berfformiad y cyflogai unigol, y tîm dan sylw a'r sefydliad.
• Rhaid i bob cais am amser o'r gwaith gael ei ystyried yn ofalus gan ystyried anghenion y sefydliad ac amgylchiadau'r cyflogai unigol; gan sicrhau ar yr un pryd fod yr Awdurdod yn cyflawni ei rwymedigaethau statudol (fel a nodir yn y polisi hwn a pholisïau cysylltiedig).
• Rheolwyr sy'n gyfrifol am fonitro presenoldeb aelodau eu tîm; mae hyn yn cynnwys absenoldebau sy'n gysylltiedig â'r polisi hwn. Felly dylid delio ag absenoldebau sy’n fynych, sy’n ormodol, neu sy’n rhai a/neu heb eglurhad, yng nghyd-destun cofnod presenoldeb cyffredinol y cyflogai.
• Dylai Rheolwyr annog presenoldeb dibynadwy gan yr holl gyflogeion.
Gweithwyr
• Mae cyflogeion yn gyfrifol am fod yn bresennol yn y gwaith yn unol ag oriau gwaith eu contract, ac am gyflawni eu contract cyflogaeth. I'r perwyl hwn, mae disgwyl i'r holl staff drefnu eu bywyd personol a delio â sefyllfaoedd cartref neu ddomestig heb fod angen amser ychwanegol o'r gwaith; ac felly, heb i hynny gael effaith ar eu swydd. Pan fo angen 'amser o'r gwaith', rhaid i gyflogeion ddilyn y prosesau priodol a gyflwynir yn y polisi hwn ac mewn polisïau a gweithdrefnau cysylltiedig.
Adnoddau Dynol
• Rhoi cyngor ac arweiniad i Reolwyr a chyflogeion ynghylch y polisi Amser o'r Gwaith a pholisïau a chanllawiau cysylltiedig.
• Sicrhau cysondeb wrth roi'r polisi hwn a'r weithdrefn hon ar waith.
5. Categorïau amser o'r gwaith
Mae'r rhestr ganlynol yn nodi'r Amser o'r Gwaith a ganiateir o dan y gyfraith a'r Amser o'r Gwaith anstatudol y mae'r Awdurdod yn ei ddarparu i gyflogeion. Yn achos pob categori, eglurir diben yr amser o'r gwaith, ac a ydyw gyda thâl neu heb dâl. Gweler yr adran berthnasol. Mae Pwynt 6 o'r Polisi yn egluro'r effaith ar gyfraniadau pensiwn lle bo cyfnod o Absenoldeb Heb Dâl.
Gwall yn llwytho sgript Rhan-Wedd (ffeil: ~/Views/MacroPartials/GenerateFAQPageContentPagination.cshtml)
6. Effaith amser o'r gwaith heb dâl ar gyfraniadau pensiwn y cynllun pensiwn llywodraeth leol
Ni fydd y cyfnod Absenoldeb Heb Dâl yn cael ei gyfrif yn aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol oni bai fod y cyflogai yn talu er mwyn i hynny ddigwydd. Gall cyflogeion dalu cyfraniadau ar gyfer cyfnod cyfan eu habsenoldeb, hyd at uchafswm o dair blynedd, a chadw eu buddion llawn.
Er mwyn i'r cyfnod gyfrif tuag at yr aelodaeth, rhaid i'r cyflogeion ddewis talu'r cyfraniadau y byddent wedi'u talu pe buasent yn y gwaith.
Os bydd y cyflogai'n dewis gwneud hyn, rhaid iddo roi gwybod i'r gwasanaeth Adnoddau Dynol, yn ysgrifenedig, cyn pen 30 niwrnod ar ôl dychwelyd i'r gwaith (neu cyn pen 30 niwrnod ar ôl ymadael, oni fydd yn dychwelyd i'r gwaith).
7. Ceisiadau am amser o'r Gwaith
Oni nodir fel arall, neu oni chyfeirir at Bolisi ar wahân sy'n nodi manylion y cais am amser o'r gwaith, dylai ceisiadau am amser o'r gwaith gael eu cyflwyno, drwy’r rheolwr llinell, i'r Cyfarwyddwr neu i'r cynrychiolydd enwebedig, gan ddefnyddio'r ffurflen yma.
Rhaid i geisiadau am amser o'r gwaith ac am absenoldeb gael eu cyflwyno trwy ddefnyddio cyfleuster hunan-wasanaeth resource link yn achos y cyflogeion sy'n gallu cyrchu’r cyfleuster hwnnw.
8. Adolygu'r broses
Os bydd cyflogai’n credu nad yw ei gais am absenoldeb (a wnaed o dan unrhyw un o'r categorïau a gynhwyswyd yn y polisi hwn) wedi derbyn sylw teg, rhaid iddo drafod ei bryderon yn llawn gyda'i reolwr llinell yn gyntaf. Os yw'r mater yn parhau heb ei ddatrys, gall y cyflogai ofyn am gyngor gan y tîm Adnoddau Dynol.
Oni cheir hyd i ateb boddhaol yn anffurfiol, gall y cyflogai godi hyn yn unol â Pholisi Achwyniadau'r Awdurdod. Fel arall, lle bo'r Polisi y cyfeirir ato’n cynnwys hawl i apelio a phroses ragnodedig, byddai angen dilyn y llwybr hwnnw wrth apelio.
9. Sicrhau triniaeth gyfartal
Rhaid arfer cysondeb yn y modd y gweithredir y polisi hwn wrth ymdrin â phob un, heb ystyried hil, lliw, cenedl, tarddiad ethnig neu genedlaethol, iaith, anabledd, crefydd, cred neu ddiffyg cred, oedran, rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws o ran cyfrifoldebau magu plant, statws priodasol neu statws partneriaeth sifil.
Os oes gennych bryderon ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â gweithredu'r polisi a'r weithdrefn, cysylltwch ag aelod o'r Tîm Adnoddau Dynol a fydd yn sicrhau, os bydd angen, fod y polisi neu'r weithdrefn yn cael eu hadolygu yn unol â hynny.
