Polisi Gwyliau Blynyddol a Thâl Gwyliau - Gorffennaf 2026
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Cyffredinol
- 3. Tâl yn lle Gwyliau
- 4. Gwyliau Cyhoeddus a Gwyliau Banc
- 5. Hawl i Wyliau ym Mlwyddyn Cychwyn yn eich Swydd
4. Gwyliau Cyhoeddus a Gwyliau Banc
Mae'r Cyngor yn cydnabod wyth o wyliau banc/cyhoeddus y flwyddyn, y mae eu dyddiadau'n amrywio o flwyddyn i flwyddyn (gweler isod):
Dydd Calan
Gwener y Groglith
Llun y Pasg
Gŵyl Banc Calan Mai
Gŵyl Banc y Gwanwyn
Gŵyl Banc Awst
Dydd Nadolig
Gŵyl San Steffan
Caniateir yr holl wyliau cyhoeddus a banc fel gwyliau â thâl yn ogystal â'r gwyliau blynyddol y gellir eu hawlio fel y nodwyd uchod (pro-rata yn achos staff rhan amser). Gall fod gofyn bod rhai aelodau o staff yn gweithio ar wyliau cyhoeddus a banc cydnabyddedig. Mae'r tâl am weithio ar ddiwrnodau o'r fath a/neu'r trefniadau i gael amser o'r gwaith yn eu lle yn unol â'u telerau a’u hamodau cyflogaeth penodol eu hunain.
