Polisi Gwyliau Blynyddol a Thâl Gwyliau - Gorffennaf 2026
Yn yr adran hon
- 6. Tâl Gwyliau Wrth Ddod â Chyflogaeth i Ben
- 7. Salwch a Gwyliau
- 8. Hawl i Wyliau ac Absenoldeb Salwch Tymor Hir
- 9. Defnyddio Gwyliau Blynyddol i ddychwelyd i'r Gwaith yn Raddol wedi Absenoldeb Salwch Tymor Hir
- 10. Sicrhau Triniaeth Gyfartal
9. Defnyddio Gwyliau Blynyddol i ddychwelyd i'r Gwaith yn Raddol wedi Absenoldeb Salwch Tymor Hir
* Defnyddir dychwelyd i’r gwaith yn raddol am amrywiaeth a resymau pan fo rhywun wedi bod yn absennol oherwydd salwch, a gall bara am wahanol gyfnodau yn ôl rhesymau'r unigolyn dros fod yn absennol. Lle deuir i gytundeb ynghylch dychwelyd i'r gwaith yn raddol wedi salwch tymor hir, rheolir hynny yn ôl sefyllfa'r gweithiwr unigol, yn unol â Pholisi Rheoli Absenoldeb Salwch y Cyngor. Cydnabyddir nad yw'n briodol gofyn bod gweithwyr yn defnyddio eu gwyliau blynyddol yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, gall y gweithiwr a'r Cyngor gytuno bod modd defnyddio gwyliau blynyddol a gronnwyd i drefnu cyfnod o weithio'n rhan amser ar ddiwedd y cyfnod o ddychwelyd i'r gwaith yn raddol.
