Polisi Gwyliau Blynyddol a Thâl Gwyliau - Gorffennaf 2026
Yn yr adran hon
7. Salwch a Gwyliau
Pan fydd gweithiwr yn cael ei daro'n wael neu'n cael ei anafu ar wyliau, bydd y Cyngor yn caniatáu i'r gweithiwr drosglwyddo i absenoldeb salwch a chymryd gwyliau yn lle’r cyfnod dan sylw yn ddiweddarach. Mae'r polisi hwn yn dilyn yr amodau caeth canlynol:
Rhaid i'r holl gyfnod o analluedd gael ei ardystio’n llawn gan ymarferydd meddygol cymwysedig.
Rhaid i'r gweithiwr gysylltu â'r rheolwr llinell dros y ffôn ar ddiwrnod cyntaf unrhyw gyfnod hysbys o analluedd yn ystod gwyliau.
Rhaid i'r gweithiwr gyflwyno cais ysgrifenedig i'r rheolwr llinell heb fod yn hwyrach nag 14 diwrnod calendr ar ôl dychwelyd i'r gwaith, yn nodi faint o'r gwyliau yr effeithiodd y salwch arno, a faint o wyliau mae'r gweithiwr yn dymuno cymryd ar adeg arall.
Lle bo'r gweithiwr dramor pan gaiff ei daro'n wael neu ei anafu, rhaid dal i ddarparu tystiolaeth bod y gweithiwr yn sâl trwy gyfrwng tystysgrif feddygol neu brawf o hawliad ar bolisi yswiriant am driniaeth feddygol a dderbyniwyd yn y lleoliad tramor.
Y gweithiwr sydd i dalu am holl gostau'r ardystiad meddygol.
Lle bo'r gweithiwr yn bodloni'r holl amodau uchod, bydd y Cyngor yn rhoi i'r gweithiwr yr un nifer o ddiwrnodau o wyliau yn y flwyddyn wyliau gyfredol yn gyfnewid am y nifer a gollwyd oherwydd salwch neu anaf. Rhaid cymryd y diwrnodau o wyliau amnewid a roddwyd ym mlwyddyn wyliau gyfredol y gweithiwr, lle bynnag y bo hynny'n ymarferol bosibl. Lle bo angen cario gwyliau ymlaen oherwydd bod diwrnodau o wyliau wedi'u rhoi yn lle rhai a gollwyd, dim ond yr elfen statudol o unrhyw wyliau nas cymerwyd y gellir eu trosglwyddo (a rhagdybir mai'r gwyliau blynyddol statudol a gymerwyd gyntaf mewn unrhyw flwyddyn wyliau).
Os bydd gweithiwr yn sâl neu wedi ei anafu cyn dechrau cyfnod o wyliau a gynlluniwyd, bydd y Cyngor yn cytuno i'r gweithiwr ohirio'r dyddiadau gwyliau tan adeg arall y cytunir arno o’r ddeutu (yn y flwyddyn wyliau honno lle bynnag y bo modd). Wedyn bydd unrhyw gyfnod o absenoldeb salwch yn cael ei drin yn unol â Pholisi Rheoli Absenoldeb Salwch y Cyngor. Rhaid i'r gweithiwr gyflwyno cais ysgrifenedig am ohirio'r gwyliau a gynlluniwyd i'r rheolwr llinell, ynghyd â llythyr gan ei feddyg yn cadarnhau nad yw iechyd yn caniatáu iddo/iddi gymryd y gwyliau, neu bod hynny'n debygol o ddal i fod yn wir.
Rhaid i weithiwr ofyn am gymryd unrhyw wyliau amnewid yn unol â'r polisi hwn, a dylai ymdrechu i gymryd y gwyliau amnewid yn yr un flwyddyn wyliau ag y'i cronnwyd ynddi. Fodd bynnag, lle bo'r rheolwr llinell yn derbyn bod rheswm da pam na all gweithiwr wneud hynny, bydd y Cyngor yn caniatáu i'r gweithiwr drosglwyddo elfen statudol unrhyw wyliau nas cymerwyd i'r flwyddyn wyliau nesaf. Gall y Cyngor ofyn bod gweithiwr yn cymryd y cyfan neu ran o'r gwyliau amnewid ar ddiwrnodau penodol, fel y pennir gan y rheolwr llinell a gofynion y gwasanaeth. Rhoddir o leiaf yr isafswm o rybudd o dan y Gyfarwyddeb Amser Gweithio mewn achosion o'r fath (h.y. dwywaith cynifer o ddiwrnodau o rybudd â hyd y cyfnod o wyliau).
