Polisi Gwyliau Blynyddol a Thâl Gwyliau - Gorffennaf 2026

8. Hawl i Wyliau ac Absenoldeb Salwch Tymor Hir

Bydd gweithiwr sy'n absennol oherwydd salwch yn dal i gronni ei hawl statudol llawn i wyliau yn unol â Rheoliadau Amser Gweithio'r DU, h.y. 28 diwrnod y flwyddyn, yn cynnwys yr 8 Gŵyl Banc a restrir ym mharagraff 7 uchod. Fodd bynnag, ni fydd hawl contractiol i wyliau (fel y manylir ym mharagraff 2 uchod) dros ben yr isafswm o ran hawl i wyliau statudol yn cronni yn ystod unrhyw gyfnod o absenoldeb salwch gyda neu heb dâl unwaith bydd gweithiwr wedi bod yn absennol yn ddi-dor am gyfnod o 4 wythnos. At ddiben cyfrifo'r cyfnod o absenoldeb di-dor, bydd y Cyngor yn diystyru dychwelyd i'r gwaith am gyfnod sy'n llai na 10 niwrnod gwaith, neu gyfnod o wyliau gyda thâl yn ystod absenoldeb salwch.

* Lle bo'r gweithiwr yn dychwelyd i'r gwaith wedi absenoldeb salwch tymor hir, dylid cymryd y gwyliau statudol a gronnwyd yn yr un flwyddyn wyliau lle bo hynny'n ymarferol bosibl. Gall y Cyngor ofyn bod gweithiwr yn cymryd y cyfan neu ran o'r gwyliau a gronnwyd ar ddiwrnodau penodol, fel y pennir gan y rheolwr llinell a gofynion y gwasanaeth. (Gweler paragraff 17 am y cyfnodau o rybudd mewn achosion o'r fath).

Lle bo'r gweithiwr yn absennol am y flwyddyn wyliau gyfan, neu lle nad oes digon o amser i'r gwyliau gael eu cymryd yn yr un flwyddyn, caniateir i'r gweithiwr drosglwyddo elfen statudol unrhyw wyliau a gronnwyd i'r flwyddyn wyliau nesaf.

Gall gweithiwr sydd ar absenoldeb salwch gyda neu heb dâl gyflwyno cais am gymryd y gwyliau â thâl a gronnwyd y gellir eu hawlio yn ystod yr absenoldeb salwch. Rhaid i ddyddiadau'r gwyliau gael eu cymeradwyo'n unol â'r polisi hwn. At ddibenion rheoli absenoldeb salwch bydd hyn yn cael ei ystyried fel cyfnod di-dor o absenoldeb salwch, ac ni fydd yn newid hawl gweithiwr i absenoldeb salwch na thâl yn ystod salwch.

Mae hawl gan weithwyr sydd ar absenoldeb salwch gyda neu heb dâl i deithio ar gyfer gwyliau neu at ddibenion eraill, ond dylent fod yn ymwybodol, os gwnânt rywbeth sy'n anghyson â'r rhesymau a nodwyd ganddynt am eu habsenoldeb salwch neu rywbeth sy'n gwaethygu eu salwch neu'n estyn eu habsenoldeb, fod y Cyngor yn cadw'r hawl i ddod â thâl salwch statudol a/neu dâl salwch galwedigaethol i ben, ac mewn rhai achosion gall hyn arwain at gamau disgyblu.