Polisi Gwyliau Blynyddol a Thâl Gwyliau - Gorffennaf 2026

6. Tâl Gwyliau Wrth Ddod â Chyflogaeth i Ben

Os bydd y gweithiwr yn gadael cyflogaeth y Cyngor ran o'r ffordd drwy flwyddyn wyliau, gall ef/hi hawlio tâl am unrhyw wyliau blynyddol sydd wedi cronni am y flwyddyn wyliau honno nad yw wedi cael ei gymryd erbyn y dyddiad pan ddaw'r gyflogaeth i ben.

Os yw'r gweithiwr, ar y dyddiad pan ddaw ei swydd i ben, wedi cymryd gwyliau blynyddol â thâl dros ben yr hyn y gellid ei hawlio ar y pryd, bydd gofyn iddo/iddi dalu'n ôl i'r Cyngor (gan ddidynnu o'i g/chyflog os bydd angen) am y gwyliau hynny.

Ni wneir unrhyw daliad yn lle gwyliau contractiol a gronnwyd i'r gweithiwr (a lle bo hynny'n briodol, didynnir o'r cyflog) os bydd ef/hi yn colli ei swydd am gamymddygiad difrifol neu os na fydd gweithiwr yn rhoi rhybudd digonol ynghylch terfynu ei swydd neu'n ymadael cyn bod y cyfnod contractiol o rybudd wedi dod i ben. I'r dibenion hyn ystyr gwyliau contractiol yw pob hawl i wyliau ac unrhyw hawl i wyliau y darperir ar eu cyfer yng nghontract y gweithiwr sydd dros ben yr isafswm statudol o wyliau y darperir ar ei gyfer yn Rheoliadau Amser Gweithio 1998 (h.y. 5.6 wythnos neu uchafswm o 28 niwrnod).