Polisi Niwroamrywiaeth - Gorffennaf 2026
Yn yr adran hon
3. Diffinio Niwroamrywiaeth
Mae niwroamrywiaeth yn derm ymbarél sy'n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at y gwahanol ffyrdd y mae ymennydd unigolyn yn prosesu ac yn dysgu gwybodaeth. Rydym yn sefydliad niwroamrywiol gan fod gennym unigolion niwronodweddiadol a niwroamrywiol yn gweithio yma.
Mae cyflyrau niwroamrywiol yn cynnwys y canlynol:
Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), a all achosi anawsterau o ran canolbwyntio, gorfywiogrwydd a byrbwylltra.
Awtistiaeth/Syndrom Asperger (y cyfeirir atynt gyda'i gilydd fel Cyflwr Sbectrwm Awtistig (ASC) neu Anhwylder Sbectrwm Awtistig (ASD)), sy'n effeithio ar sut mae pobl yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio â'r byd.
Dyscalcwlia, sy'n effeithio ar y gallu i brosesu rhifau ac yn arwain at heriau o ran rhifyddeg a dweud yr amser.
Dysgraffia, sy'n effeithio ar fynegiant ysgrifenedig ac sy'n cyflwyno anawsterau o ran sillafu a gramadeg, llawysgrifen wael a chael anhawster trefnu meddyliau ar bapur.
Dyslecsia, sy'n achosi heriau o ran darllen, ysgrifennu a sillafu.
Dyspracsia (sydd hefyd yn cael ei alw'n anhwylder cydsymud datblygiadol (DCD)), sy'n effeithio ar gydsymud corfforol.
Syndrom Tourette, sy'n cael ei nodweddu gan ymddygiadau corfforol fel ticiau.
Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr ar unrhyw gyfrif.
Mae llawer o fathau o niwrowahaniaethau yn rhan gynhenid o sut mae'r ymennydd yn datblygu ac yn gweithredu. Er y gall y gwahaniaethau hyn fynd heb eu hadnabod neu heb eu diagnosio yn ystod plentyndod, nid yw hynny'n golygu nad oeddent yno; efallai eu bod wedi bod yn bresennol ers plentyndod.
Hefyd gall cyflyrau niwrolegol a gaffaelwyd, fel anafiadau trawmatig i'r ymennydd, strôc, a chlefyd Alzheimer, arwain at niwroamrywiaeth.
Rydym yn gwerthfawrogi bod cyflyrau niwroamrywiol yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd, a gall rhai unigolion gael diagnosis o un neu fwy o gyflyrau niwroamrywiol sy'n cynnwys symptomau sy'n gorgyffwrdd.
