Polisi Achwyniadau - Adolygwyd: Mehefin 2026

7. Codi Achwyniad – Y Weithdrefn Ffurfiol

Cam 1

Gwneir pob ymdrech a bydd pob bwriad i ddatrys cwynion a phryderon ar y cam anffurfiol gan ei bod yn anorfod bod hyn yn dwyn canlyniadau gwell a mwy cynaliadwy i bawb sy’n gysylltiedig â’r achwyniad. Fodd bynnag, efallai y bydd achlysuron lle na ellir datrys y digwyddiad neu’r mater yn anffurfiol ac os felly, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau gall y cyflogai godi’r achwyniad yn ffurfiol ac yn ysgrifenedig ar y lefel reoli nesaf trwy gwblhau Ffurflen y Weithdrefn Achwyniadau Ffurfiol Atodiad B.

Lle mae gan gyflogai achwyniad yn erbyn ei reolwr llinell a bod yr achwyniad heb gael ei ddatrys yn foddhaol ar y cam anffurfiol ar y lefel reoli nesaf, dylai’r cyflogai godi’r mater yn ffurfiol gyda’r Pennaeth Gwasanaeth.

Lle mae gan gyflogai achwyniad yn erbyn y Prif Weithredwr, dylai’r cyflogai godi’r mater yn ysgrifenedig gyda’r Swyddog Monitro.

Rhaid i’r Rheolwr/Pennaeth Gwasanaeth gydnabod derbyn yr achwyniad ffurfiol o fewn 14 diwrnod calendr. Dylai’r Rheolwr/Pennaeth Gwasanaeth (neu gynrychiolydd enwebedig) wahodd y cyflogai i o leiaf un cyfarfod ar amser rhesymol ac mewn lle rhesymol fel bod modd trafod yr achwyniad. Dylai hwn ddigwydd cyn gynted â phosibl a dylai’r cyflogai gymryd pob cam rhesymol i fod yn bresennol.    

Dylai’r cyflogai gael ei hysbysu’n ysgrifenedig ynghylch canlyniad y cyfarfod o fewn 14 diwrnod calendr.

Cam 2

Os nad yw’r cyflogai’n fodlon ar y canlyniad, gall godi’r achwyniad yn ffurfiol ac yn ysgrifenedig gyda’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) o fewn 14 diwrnod calendr i gael penderfyniad ffurfiol y Rheolwr/Pennaeth Gwasanaeth (neu gynrychiolydd enwebedig). Dylid gwneud hyn trwy gwblhau Ffurflen y Weithdrefn Achwyniadau Ffurfiol  Atodiad B.  Rhaid i’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) gydnabod derbyn yr achwyniad ffurfiol o fewn 14 diwrnod calendr.

Bydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) yn gwahodd y cyflogai i o leiaf un cyfarfod cam 2 ar amser rhesymol ac mewn lle rhesymol fel bod modd trafod yr achwyniad. Bydd yr achwyniad cam 2 yn cael ei hystyried gan Gyfarwyddwr (neu ei gynrychiolydd enwebedig) a Phartner Busnes Adnoddau Dynol. Dylai’r cyfarfod gael ei gynnal ar amser rhesymol ac mewn lle rhesymol. Dylai hwn ddigwydd cyn gynted â phosibl a dylai’r cyflogai gymryd pob cam rhesymol i fod yn bresennol.     

Bydd y penderfyniad yn y cyfarfod cam 2 yn derfynol a dylai’r cyflogai gael ei hysbysu yn ei gylch o fewn 14 diwrnod calendr.