Polisi Achwyniadau - Adolygwyd: Mehefin 2026
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Diffiniad
- 3. Cwmpas
- 4. Egwyddorion Cyffredinol
- 5. Rolau a Chyfrifoldebau
- 6. Codi Achwyniad – Y Weithdrefn Anffurfiol
- 7. Codi Achwyniad – Y Weithdrefn Ffurfiol
- 8. Cyfarfodydd Achwyniadau
- 9. Achwyniadau gan gyflogeion sydd wedi gadael yr Awdurdod neu sy’n ei adael yn ystod y Weithdrefn
- 10. Cadw Cofnodion
- 11. Hyfforddiant a Chymorth
- 12. Monitro’r Polisi a’r Weithdrefn a geir yma
- 13. Sicrhau Cyfle Cyfartal
- ATODIAD A - Rôl y Cydymaith
- ATODIAD B - Gweithdrefn Achwyniad Ffurfiol
- ATODIAD C - Paratoi ar gyfer Cyfarfod Achwyniad Ffurfiol – Canllawiau i Reolwyr
6. Codi Achwyniad – Y Weithdrefn Anffurfiol
Dylai cwynion gael eu datrys yn anffurfiol, yn gyflym ac yn sensitif pryd bynnag y bo’n bosibl.
Dylai cyflogeion sy’n credu eu bod wedi dioddef ymddygiad amhriodol, wedi bod yn dyst i ymddygiad amhriodol neu yr honnir iddynt fod wedi ymddwyn yn amhriodol gyfeirio at y Canllawiau ar Safonau Ymddygiad yn y Gweithle. Mae’r canllawiau hyn yn egluro barn yr Awdurdod ynghylch y safonau ymddygiad y mae gan gyflogeion hawl i’w disgwyl ac y disgwylir iddynt eu dangos i eraill. Maent hefyd yn dangos sut i adnabod ac ymdrin ag ymddygiad amhriodol.
Dylai’r cyflogai a’i reolwr llinell wneud pob ymdrech i geisio datrys yr achwyniad yn anffurfiol. Felly dylai’r cyflogai drafod y mater gyda’i reolwr llinell yn y lle cyntaf. Lle mae gan gyflogai achwyniad yn erbyn ei reolwr llinell, dylai’r cyflogai godi’r mater yn anffurfiol ar y lefel reoli nesaf.
Os yw cyflogai’n cael anhawster egluro’i achwyniad oherwydd anawsterau ieithyddol neu anawsterau eraill yna fe’i hanogir i geisio cymorth gan gynrychiolydd neu swyddog undeb llafur, cyflogai arall neu Bartner Busnes Adnoddau Dynol.
