Polisi Achwyniadau - Adolygwyd: Mehefin 2026

5. Rolau a Chyfrifoldebau

Darperir y canlynol fel canllaw yn unig. Gall fod amgylchiadau a fydd yn golygu bod rolau a chyfrifoldebau gwahanol yn ofynnol. Dylai’r holl swyddogion sy’n debygol ymwneud â chamau anffurfiol neu wrandawiadau achwyniadau gael hyfforddiant a/neu gymorth priodol. Cysylltwch â’r Tîm Adnoddau Dynol – Rheoli Pobl a Pherfformiad i gael cyngor.

Partner Busnes Adnoddau Dynol. Er mwyn sicrhau cysondeb, bydd y Partner Busnes Adnoddau Dynol yn rhoi cyngor ar bob cam o’r weithdrefn ac yn monitro ac yn adrodd ar y modd y cymhwysir y Polisi. Bydd y Partner Busnes Adnoddau Dynol hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod cofnodion ysgrifenedig yn cael eu cadw ar ffeiliau personol am y cyfnod priodol a dilyn egwyddorion y Ddeddf Diogelu Data a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Dylai Cyflogeion godi eu hachwyniad yn brydlon a hynny fel arfer gyda’u rheolwr llinell, gan esbonio’n glir beth yw’r broblem neu’r pryder ac awgrymu sut y gellir ei d(d)atrys ar y cam anffurfiol, lle y bo’n briodol. Wrth egluro’r achwyniad dylai cyflogeion gofio cadw at y ffeithiau ac osgoi sylwadau goddrychol neu ymfflamychol. Anogir cyflogeion i weithio gyda’u rheolwr llinell i geisio datrys eu hachwyniad yn anffurfiol er mwyn cynnal perthnasoedd gweithio cadarnhaol. Lle mae’r achwyniad yn ymwneud ag ymddygiad annerbyniol honedig rhaid i’r cyflogai felly gyfeirio at ‘Ganllawiau'r Awdurdod ar Safonau Ymddygiad yn y Gweithle’. Os yw’r achwyniad yn ymwneud â rheolwr llinell y cyflogai yna dylai’r cyflogai godi ei bryder gyda’r lefel reoli nesaf.

Rheolwyr Llinell sydd fel arfer yn gyfrifol am ymdrin â’r achwyniad a godwyd gan y cyflogai. Mae’r rheolwr llinell yn gyfrifol am weithredu’n brydlon, cael eglurhad o’r achwyniad a godwyd, canfod y ffeithiau a chadarnhau penderfyniadau wrth y cyflogai (gyda chyngor gan y Partner Busnes Adnoddau Dynol). Dylai’r rheolwr llinell gymryd gofal i wrando ar yr achwyniad mewn modd digynnwrf, teg a gwrthrychol ac archwilio pob opsiwn rhesymol ar gyfer datrysiad anffurfiol, lle y bo’n briodol. Lle mae’r achwyniad yn ymwneud ag ymddygiad annerbyniol honedig rhaid i’r cyflogai gyfeirio at ‘Ganllawiau’r Awdurdod ar Safonau Ymddygiad yn y Gweithle’. Os ystyrir ei bod yn amhriodol i’r rheolwr llinell archwilio’r achwyniad gall rheolwr arall arwain (Dylid siarad â’r Partner Busnes Adnoddau Dynol i gael cyngor). Dylai unrhyw gofnodion ysgrifenedig a ddelir gan y rheolwr ddilyn egwyddorion y Ddeddf Diogelu Data a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. 

Cydymaith. Gall cyflogai ddod â chydymaith i gyfarfodydd ar bob cam ffurfiol yn y weithdrefn hon. Gall y cydymaith fod yn swyddog neu gynrychiolydd undeb llafur2, neu’n gydweithiwr. Gweler Rôl y Cydymaith Atodiad A.

 

2.Rhaid i’r cynrychiolydd Undeb Llafur nad yw’n un o swyddogion cyflogedig undeb llafur feddu ar ardystiad ysgrifenedig gan ei Undeb sy’n cadarnhau ei fod yn meddu ar brofiad neu ei fod wedi cael hyfforddiant mewn gweithredu fel cydymaith. Gall hyn fod ar ffurf cerdyn neu lythyr.