Polisi Achwyniadau - Adolygwyd: Mehefin 2026

4. Egwyddorion Cyffredinol

Dylai achwyniadau gael eu codi ar y cyfle cynharaf wedi i’r digwyddiad neu’r mater godi a dylai’r cyflogai a’i reolwr llinell wneud pob ymdrech i weithio tuag at ddatrys y pryderon yn brydlon ac yn anffurfiol lle y bo’n bosibl ac yn briodol. Mae’r dull gweithredu hwn yn cynnig nifer o fanteision gan ei fod yn ei gwneud yn bosibl cael datrysiad cynnar ac effeithiol ac yn sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu yn y gwaith. Y nod yw datrys pryderon a gwella perthnasoedd gweithio ar y cyfle cynharaf. 

Mae disgwyl i’r holl bartïon gymryd pryderon o ddifrif, cydnabod eu cyfraniad hwy eu hunain i’r sefyllfa a gweithio tuag at ddatrysiad cadarnhaol ac adeiladol. Bydd pryderon yn cael eu hystyried mewn modd diduedd a theg, ac yn cael eu datrys trwy gymryd camau unioni priodol yn brydlon. 

Lle na all achwyniad gael ei ddatrys ar y cam anffurfiol gall cyflogai symud ei bryderon ymlaen i gam ffurfiol y Weithdrefn Achwyniadau. Ar holl gamau ffurfiol y weithdrefn bydd gan y cyflogai hawl i ddod â chydymaith i unrhyw gyfarfod. Gall cydymaith fod yn gynrychiolydd neu swyddog undeb llafur neu’n gydweithiwr1.

Dylai cyflogeion a rheolwyr ddarllen Canllawiau Addasiadau Rhesymol yr Awdurdod lle mae gan gyflogai sy'n codi'r achwyniad anabledd ac ystyried pa addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen i'w galluogi i gymryd rhan lawn ym mhob cam o'r weithdrefn achwyniadau. Er enghraifft, os nad yw cyflogai’n gallu cyfleu’r achwyniad yn ysgrifenedig (er enghraifft oherwydd anabledd neu anhawster mynegi ei hun yn ysgrifenedig) dylid cynnig cymorth i’w alluogi i lunio achwyniad ysgrifenedig neu dylid ystyried dull arall o ddatgan ei achwyniad. Er enghraifft, gall cyflogai geisio cymorth gan swyddog undeb llafur neu gydweithiwr.    

Os nad yw’r cyflogai’n gallu bod yn bresennol mewn cyfarfod(ydd) achwyniad ffurfiol rhaid i’r cyflogai hysbysu ynghylch y rhesymau cyn gynted â phosibl. Os yw’r rheswm y tu hwnt i reolaeth y cyflogai ac yn anrhagweladwy ar yr adeg y trefnwyd y cyfarfod (e.e. salwch), bydd cyfarfod arall yn cael ei drefnu. Os nad yw’r cynrychiolydd Undeb Llafur neu gydweithiwr yn gallu bod yn bresennol, gellir trefnu dyddiad arall, ar yr amod ei fod yn ddim hwyrach na saith diwrnod calendr ar ôl y dyddiad gwreiddiol. 

Os penderfynir bwrw ymlaen â chyfarfod achwyniad ffurfiol heb i’r cyflogai fod yn bresennol, dylai gael y cyfle i anfon cynrychiolydd i fod yn bresennol yn y cyfarfod ar ei ran neu i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig y gellir eu hystyried yn y cyfarfod.

Lle nad yw cyflogai wedi cael ei hysbysu ynghylch y penderfyniad yn dilyn y naill neu’r llall o’r cyfarfodydd a ddiffinnir ym mhwynt 6, gall y cyflogai apelio ar gam nesaf y weithdrefn.

Yn ystod unrhyw broses ddisgyblu, os yw cyflogai’n codi achwyniad, rhaid i’r Cyfarwyddwr Adrannol neu ei gynrychiolydd ystyried a yw’n briodol atal y broses ddisgyblu dros dro i ymdrin â’r achwyniad. Lle mae cysylltiad rhwng yr achos disgyblu a’r achos achwyniad gall fod yn briodol ymdrin â’r ddau ar yr un pryd. Ni ddylid atal y broses am gyfnod rhy faith heb fod angen a phan fo’r broses yn cael ei hatal dylai hynny ei gwneud yn bosibl ymdrin â’r achwyniad mor gyflym â phosibl. Dylid ceisio cyngor gan y Tîm Adnoddau Dynol a chyfeirio at Ganllawiau ACAS.

Lle mae achwyniad yn ymwneud â mwy nag un cyflogai yn yr un adran bydd y Weithdrefn Anghydfodau Torfol yn berthnasol. Mae’r Weithdrefn Achwyniadau yn ymwneud yn benodol ag achwyniadau unigol ac ar wahân.

Mae’r Weithdrefn Achwyniadau yn berthnasol yn uniongyrchol i unigolyn a chan hynny bydd telerau ac amodau presennol y cyflogai a gyflwynodd yr achwyniad yn cael eu diogelu nes bod y weithdrefn achwyniadau wedi cael ei disbyddu (nid yw hyn i fod i awgrymu bod newid yn sicr o ddigwydd) ac eithrio lle byddai hyn yn creu perygl, neu lle mae rhwymedigaethau statudol yn berthnasol. Ni fydd y cymal uchod yn berthnasol ychwaith mewn sefyllfaoedd lle gwneir newidiadau i drefniadau gweithio a bod y newid yn unol â chontractau cyflogaeth neu broffiliau swyddi megis newid man gweithio er enghraifft.

Rhaid caniatáu amser rhesymol i gyflogeion a rheolwyr baratoi ar gyfer cyfarfod achwyniad; felly, dan rai amgylchiadau, gellir rhoi estyniad ar y graddfeydd amser y cyfeirir atynt yn y weithdrefn trwy gytundeb rhwng y ddwy ochr.

Gellir cynnig Cymorth Iechyd Galwedigaethol i gyflogeion sy’n rhan o ymchwiliadau a chyfarfodydd achwyniadau. Cysylltwch â’r Tîm Adnoddau Dynol – Rheoli Pobl a Pherfformiad i gael cyngor.  

Rhaid i Reolwyr Llinell, Swyddogion Ymchwilio ac aelodau o Banelau Gwrandawiadau Achwyniadau ystyried anghenion cyflogeion anabl yn ystod y broses a gwneud addasiadau rhesymol fel y bo angen. Er enghraifft, sicrhau bod gan leoliadau fynediad priodol, bod gwybodaeth ysgrifenedig yn cael ei darparu mewn fformat addas, a.y.b.

 

1.Rhaid i’r cynrychiolydd Undeb Llafur nad yw’n un o swyddogion cyflogedig undeb llafur feddu ar ardystiad ysgrifenedig gan ei Undeb sy’n cadarnhau ei fod yn meddu ar brofiad neu ei fod wedi cael hyfforddiant mewn gweithredu fel cydymaith. Gall hyn fod ar ffurf cerdyn neu lythyr.