Rôl y Cydymaith yn ystod y Broses Ddisgyblu ac Achwyniadau

3. Pwy all fod yn gydymaith?

Gall y cydymaith fod yn:
  • cydweithiwr
  • swyddog a gyflogir gan undeb llafur.
  • cynrychiolydd undeb llafur yn y gweithle, cyhyd â'i fod wedi cael ei ardystio'n rhesymol yn ysgrifenedig gan ei undeb fel un sydd â phrofiad o fod yn gydymaith i weithiwr mewn gwrandawiadau disgyblu neu achwyniadau, neu sydd wedi cael hyfforddiant i wneud hynny. Gall ardystiad fod ar ffurf cerdyn neu lythyr.
Oni bai bod amgylchiadau eithriadol, dim ond un cydymaith fydd yn cael bod yn bresennol mewn gwrandawiad.
Gall cyflogeion ofyn i swyddog o unrhyw undeb llafur fynd gyda hwy i wrandawiad disgyblu neu achwyniad, ni waeth a yw’r undeb yn un cydnabyddedig ai peidio.  Fodd bynnag, lle mae undeb yn cael ei gydnabod mewn gweithle, mae'n arfer da i gyflogeion ofyn i swyddog o'r undeb hwnnw fod yn gydymaith iddynt. 
Nid oes rhaid i gydweithwyr na swyddogion undebau llafur dderbyn cais i fod yn gydymaith i gyflogai, ac ni ddylid rhoi pwysau arnynt i wneud hynny.