Rôl y Cydymaith yn ystod y Broses Ddisgyblu ac Achwyniadau
Yn yr adran hon
- 4. Beth yw Cais Rhesymol?
- 5. Hyfforddiant ac Amser o’r Gwaith i Weithredu fel Cydymaith
- 6. Gweithredu'r Hawl
4. Beth yw Cais Rhesymol?
Wrth ddewis cydymaith dylai cyflogai gofio na fyddai’n rhesymol mynnu cael cwmni cydweithiwr y byddai ei bresenoldeb yn niweidiol i’r gwrandawiad neu a allai fod â gwrthdaro buddiannau. Ni fyddai'n rhesymol ychwaith ofyn i gydweithiwr o leoliad anghysbell fod yn gydymaith pan fydd rhywun â chymwysterau addas ar gael ar y safle. Nid oes rhaid i'r cais am gydymaith gael ei wneud yn ysgrifenedig.
