Y Polisi a’r Weithdrefn Anghydfodau Torfol - Mehefin 2026
Yn yr adran hon
- 10. Datrysiad y Cytunir arno
- 11. Cyfrinachedd
- 12. Cyfarfodydd Achwyniad Torfol
- 13. Achwyniadau gweithwyr sydd wedi gadael yr Awdurdod neu syn’n gadael yr Awdurdod yn ystod y Weithdrefn
- 14. Cadw cofnodion
- 15. Hyfforddiant a Chymorth
- 16. Monitro’r Polisi hwn a’r Weithdrefn hon
- 17. Sicrhau Cyfle Cyfartal
14. Cadw cofnodion
Rhaid cadw cofnodion ysgrifenedig ar hyd y broses achwyniad torfol, gan gynnwys:
- Copi o'r achwyniad ysgrifenedig ac apeliadau dilynol lle bo hynny'n berthnasol.
- Copïau o nodiadau cyfarfodydd.
- Copi o'r ymateb(ion) ysgrifenedig a roddwyd i'r gweithiwr.
- Manylion y camau gweithredu a gymerwyd.
Dylid cadw cofnodion ar gyfer pob gweithiwr sy'n ymwneud â'r achwyniad torfol yn eu ffeiliau personol.
Dylid trin y cofnodion fel dogfennau cyfrinachol a'u cadw'n unol â Deddf Diogelu Data a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
Anfonir copïau o hysbysiadau'r cyfarfodydd achwyniad torfol, nodiadau'r cyfarfodydd, y llythyr ymateb etc. at y swyddog Undeb Llafur sy'n cynrychioli'r achwyniad torfol ar ran y gweithwyr dan sylw, oni bai eu bod yn nodi fel arall yn ysgrifenedig.
