Y Polisi a’r Weithdrefn Anghydfodau Torfol - Mehefin 2026
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Diffiniad
- 3. Cefndir Cyfreithiol
- 4. Datganiad Polisi
- 5. Cymhwyso
- 6. Cwmpas
- 7. Gweithdrefn Ffurfiol ar gyfer Datrys Anghydfodau Torfol
- 8. Ystyriaethau cyffredinol
- 9. Cam Cymodi o’r tu allan
- 10. Datrysiad y Cytunir arno
- 11. Cyfrinachedd
- 12. Cyfarfodydd Achwyniad Torfol
- 13. Achwyniadau gweithwyr sydd wedi gadael yr Awdurdod neu syn’n gadael yr Awdurdod yn ystod y Weithdrefn
- 14. Cadw cofnodion
- 15. Hyfforddiant a Chymorth
- 16. Monitro’r Polisi hwn a’r Weithdrefn hon
- 17. Sicrhau Cyfle Cyfartal
7. Gweithdrefn Ffurfiol ar gyfer Datrys Anghydfodau Torfol
Cam 1
Lle na fu modd datrys materion yn anffurfiol, bydd y cynrychiolydd undeb llafur sy'n gweithredu ar ran y grŵp o weithwyr sydd ag achwyniad yn codi'r achwyniad torfol gyda'r rheolwr llinell perthnasol sy'n gyfrifol am y gweithwyr dan sylw, trwy gwblhau'r Atodiad-1-gweithdrefn-ffurfiol-anghydfod-torfol.pdf, gan nodi natur a chwmpas y mater a'r datrysiad a gynigir. Dylid anfon copi at y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) er gwybodaeth. Rhaid i'r rheolwr gydnabod ei fod wedi derbyn yr anghydfod torfol cyn pen 7 diwrnod calendr.
Wrth archwilio'r cyflwyniad ysgrifenedig, bydd y rheolwr llinell perthnasol yn ystyried a yw'r mater yn effeithio ar unrhyw adeiniau eraill o fewn yr Adran honno, ac yn ceisio cyngor gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) neu'r cynrychiolydd a enwebir ganddo/ganddi.
Os na fydd y mater yn effeithio ar fwy nag un Adain, rhaid i'r rheolwr llinell perthnasol alw cyfarfod gyda'r undeb llafur. Dylai hyn ddigwydd fel arfer cyn pen 21 diwrnod calendr i dderbyn yr anghydfod ffurfiol, gyda'r amcan o geisio sicrhau datrysiad. Bydd cynrychiolydd yr undeb llafur yn derbyn ymateb ysgrifenedig yn cadarnhau'r canlyniad a'r rhesymau am y penderfyniad cyn pen 14 diwrnod calendr arall wedi'r cyfarfod. Dylid anfon copi at y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) er gwybodaeth.
Os yw'r mater yn effeithio ar fwy nag un Adain yn yr un adran, bydd y rheolwr llinell yn trafod y mater gyda'r rheolwyr adain perthnasol cyn cynnull cyfarfod. Lle bo hynny'n briodol, gall rheolwyr adain perthnasol fynychu'r cyfarfod gyda chynrychiolydd yr undeb llafur yn ogystal.
Wedi trafod gyda'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) neu gynrychiolydd enwebedig, os deuir i'r casgliad bod y mater yn effeithio ar Adrannau eraill, bydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) yn trefnu cyfarfod o swyddogion perthnasol yr adrannau dan sylw a'r undeb(au) llafur, gyda'r amcan o geisio sicrhau datrysiad. Bydd yr amserau ymateb yn unol â 6.3 uchod. Fel arall, gellir cyfeirio'r mater at Fforwm Corfforaethol Cysylltiadau â'r Gweithwyr i'w ystyried/ddatrys.
Os nad yw'r grŵp o weithwyr yn fodlon ar y canlyniad, gallant godi'r anghydfod torfol yn y cam nesaf trwy eu cynrychiolydd undeb llafur. Dylid gwneud hyn yn ysgrifenedig i'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) cyn pen 14 diwrnod calendr i dderbyn penderfyniad y rheolwr.
Os na dderbynnir ymateb ysgrifenedig gan gynrychiolydd/gynrychiolwyr achrededig yr undeb llafur o fewn yr amser a bennwyd, gellir cyfeirio'r mater hefyd at ail gam y weithdrefn.
Cam 2
Gall cynrycholydd/cynrychiolwyr achrededig yr undeb llafur godi'r anghydfod torfol yn ysgrifenedig gyda'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi). Dylid gwneud hyn trwy lenwi'r Atodiad-1-gweithdrefn-ffurfiol-anghydfod-torfol.pdf. Dylid amgáu copïau o unrhyw ohebiaeth gyda'r llythyr. Lle bo'r partïon wedi cytuno nad yw trafod yn y cam cynharach yn briodol, ac y dylid cofrestru'r anghydfod yn uniongyrchol yn yr ail gam, dylai cynrychiolydd/cynrychiolwyr achrededig yr undeb llafur ysgrifennu mewn modd tebyg at y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl), a fydd yn cydnabod ei fod wedi derbyn yr anghydfod torfol cyn pen 7 diwrnod calendr.
Bydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) neu gynrychiolydd enwebedig yn cynnull Panel Apeliadau i ystyried yr apêl gyda'r cynrychiolydd/cynrychiolwyr undeb llafur, mewn ymgais i gael hyd i ddatrysiad i'r mater sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr. Bydd y Panel Apeliadau yn cynnwys dau Gyfarwyddwr (neu'r Pennaeth Gwasanaeth a enwebwyd ganddynt). Dylid cynnal y Gwrandawiad Apêl ar adeg resymol ac mewn man rhesymol. Dylai hyn ddigwydd cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol, a dylai cynrychiolydd/cynrychiolwyr yr undeb llafur gymryd pob cam rhesymol i fod yn bresennol. Bydd Partner Busnes Adnoddau Dynol yn cynghori’r Panel.
Rhoddir sylw llawn i'r wybodaeth a gyflwynwyd gan y ddwy ochr i gefnogi eu safbwyntiau a'u cynigion ar y mater(ion) dan sylw ac os yw hynny'n briodol, gellir gofyn am ddatganiadau ysgrifenedig a'u cyfnewid cyn y cyfarfod.
Bydd penderfyniad y Panel Apeliadau yn derfynol a bydd manylion unrhyw gytundeb y deuir iddo, neu grynodeb o safbwynt y partïon dan sylw, fel y'u cyflwynir gan y naill ochr a'r llall, ynghyd â'r penderfyniad a'r argymhellion a wnaed gan y Panel Apeliadau, yn cael eu cofnodi'n ffurfiol a'u cyflwyno i'r ddau barti cyn pen 7 diwrnod calendr i'r cyfarfod.
