Y Polisi a’r Weithdrefn Anghydfodau Torfol - Mehefin 2026
Yn yr adran hon
- 10. Datrysiad y Cytunir arno
- 11. Cyfrinachedd
- 12. Cyfarfodydd Achwyniad Torfol
- 13. Achwyniadau gweithwyr sydd wedi gadael yr Awdurdod neu syn’n gadael yr Awdurdod yn ystod y Weithdrefn
- 14. Cadw cofnodion
- 15. Hyfforddiant a Chymorth
- 16. Monitro’r Polisi hwn a’r Weithdrefn hon
- 17. Sicrhau Cyfle Cyfartal
6. Cwmpas
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i’r holl weithwyr gan gynnwys athrawon a gyflogir yn ganolog ond nid yw’n cynnwys staff sy'n rhan o weithlu ysgolion a reolir yn lleol, y mae gweithdrefn ar wahân yn berthnasol iddynt. Yn absenoldeb polisi a gytunwyd yn lleol gan yr ysgolion unigol dylid dilyn egwyddorion y polisi hwn.
Nid yw'n cynnwys: achwyniadau unigol, graddio swyddi, materion disgyblu, peidio â chadarnhau cyflogaeth yn ystod cyfnodau prawf, achwyniadau cyflog cyfartal, materion y byddai'n fwy priodol delio gyda nhw o dan bolisi neu weithdrefn arall, nac unrhyw faterion torfol y mae trefniadau bargeinio torfol mwy helaeth yn bodoli ar eu cyfer, e.e. y Grŵp Cysylltiadau â'r Gweithwyr (ERG).
Dylid ymdrin â chwynion am fwlio neu aflonyddu o dan Ganllawiau Safonau Ymddygiad yr Awdurdod yn y Gweithle. Dylai gweithwyr sy'n mynegi pryder o dan Ddeddf Datgelu er Budd y Cyhoedd gyfeirio at y Polisi Datgelu Camarfer.
Ni dderbynnir unrhyw anghydfodau torfol sy'n ymwneud â materion dros dri mis yn ôl na rhai a fu'n destun anghydfod rhwng Undeb Llafur ac unrhyw un o Adrannau'r Cyngor ar unrhyw adeg yn ystod y 12 mis blaenorol, oni bai bod unrhyw gamau y penderfynwyd arnynt gan y rheolwyr i ymdrin â'r anghydfod hwnnw heb gael eu gweithredu.
