Gweithio Hyblyg Polisi - Ebrill 2024
Yn yr adran hon
15. Rhoi Gwybod i’r Gweithiwr am y Canlyniad
Caiff y gweithiwr wybod am benderfyniad y cyfarfod apelio ar ôl ei gynnal. Bydd y Cyfarwyddwr priodol neu gynrychiolydd enwebedig yn cyfleu hyn yn ysgrifenedig i'r gweithiwr drwy gwblhau Ffurflen FW (E). Bydd penderfyniad yr apêl yn derfynol ac yn dod â'r weithdrefn fewnol i ben.
Os caiff yr apêl ei chadarnhau mae'n rhaid i'r penderfyniad ysgrifenedig:
- Cynnwys disgrifiad o'r patrwm gweithio newydd.
- Nodi'r dyddiad y bydd y patrwm gweithio newydd yn dechrau; a
- Bod wedi'i ddyddio.
Os yw'r apêl yn cael ei gwrthod mae'n rhaid i'r penderfyniad ysgrifenedig:
- dros y penderfyniad yng nghyd-destun seiliau'r gweithiwr ei hun dros wneud yr apêl.
- Egluro pam y mae'r rheswm dros wrthod yn berthnasol o dan yr amgylchiadau; a
- Bod wedi'i ddyddio.


