Gweithio Hyblyg Polisi - Ebrill 2024
Yn yr adran hon
3. Egwyddorion
Caiff pob cais am weithio hyblyg ei ystyried yn ôl ei haeddiant ac yn amodol ar y meini prawf perthnasol.
Bydd y gweithwyr yn cael gwybodaeth a chymorth priodol yn ystod eu cais gan eu rheolwr llinell, a fydd yn cael cyngor gan y Tîm Adnoddau Dynol.
Gall gweithiwr ofyn am i naill ai swyddog neu gynrychiolydd undeb llafur cydnabyddedig, neu gydweithiwr ddod i’r cyfarfod neu i’r cyfarfod apelio fel cydymaith.
Gall gweithwyr ddisgwyl i'w cais gael ei ystyried yn deg yn unol â'r weithdrefn a bennwyd.
Eir i’r afael â cheisiadau yn unol â’r terfynau amser a bennir oni bai bod y naill ochr a’r llall yn cytuno ar estyniad.
Bydd ceisiadau'n cael eu gwrthod dim ond pan fo sail fusnes glir dros wneud hynny. Bydd y rhesymau dros wrthod y cais yn cael eu hegluro'n glir.
Caiff pob amrywiad i'r contract y cytunir arno o dan y weithdrefn hon ei gofnodi ar bapur.
Bydd cais sy’n llwyddiannus yn golygu y bydd telerau ac amodau gwaith y gweithiwr yn newid yn barhaol.


