Gweithio Hyblyg Polisi - Ebrill 2024
Yn yr adran hon
Atodiad 2 - Arweiniad i Weithwyr
Meddyliwch yn ofalus am y patrwm gweithio cyn ichi wneud eich cais. Ni fydd hawl gennych i ddychwelyd i'ch oriau gwaith blaenorol.
Byddwch yn eglur ynghylch y dyddiad yr hoffech i’r patrwm gweithio newydd ddechrau. Caniatewch ddigon o amser i fynd drwy'r weithdrefn.
Llenwch Ffurflen FW (A) bob amser wrth gyflwyno’ch cais. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn darparu’r holl wybodaeth berthnasol ac angenrheidiol i’r Awdurdod fel y gall ystyried eich cais yn briodol.
Po fwyaf o rybudd y byddwch yn ei roi yn eich cais, y mwyaf tebygol y bydd eich rheolwr llinell yn gallu bodloni'r dyddiad dechrau a ffafrir gennych.
Ystyriwch oblygiadau ariannol eich cais cyn ei gyflwyno.
Mae o fantais i chi ddarparu cymaint o fanylion ag sy’n bosibl am y patrwm gweithio yr hoffech ei gael.
Ystyriwch yr effaith ar eich cydweithwyr os bydd eich patrwm gweithio yn newid.
Cefnogwch eich cais trwy restru’r manteision i’r busnes o gymeradwyo cais am weithio’n hyblyg, er enghraifft, dangos sut y byddai’ch cais yn rhoi sicrwydd ychwanegol yn ystod oriau brig gan wella gwasanaeth cwsmeriaid.
Sicrhewch eich bod yn cyflwyno’ch cais i’r swyddog priodol i’w ystyried.
Os ydych ar fin dechrau cyfnod mamolaeth neu rannu absenoldeb rhiant meddyliwch yn ofalus ynghylch pryd i gyflwyno eich cais. Os ydych yn bwriadu i'ch cais, os cymeradwywyd ef, ddechrau pan fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith, bydd angen i chi gwrdd â'ch rheolwr llinell yn ystod eich cyfnod mamolaeth neu rannu absenoldeb rhiant.
Byddwch yn barod i ymhelaethu ar unrhyw bwyntiau yn eich cais.
Byddwch yn barod i fod yn hyblyg – er enghraifft, ystyried patrymau gwaith eraill, cyfnodau prawf neu ddyddiadau dechrau eraill.
Os ydych yn bwriadu gwneud cais am gael cwmni yn y cyfarfod, sicrhewch fod eich cydymaith wedi cael brîff llawn am eich cais.


