Twyll a Llygredd
Diweddarwyd y dudalen: 06/01/2026
Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin agwedd dim goddefgarwch at bob math o dwyll, arferion llwgr a dwyn, oddi mewn i’r cyngor ac o ffynonellau allanol. Rydym yn cydnabod y gall twyll:
- Danseilio’r safonau gwasanaeth cyhoeddus mae’r Cyngor yn ceisio eu cyrraedd;
- Lleihau’r adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael i breswylwyr Sir Gaerfyrddin; ac
- Arwain at ganlyniadau o bwys sy’n lleihau hyder y cyhoedd yn y Cyngor.
Nid yw twyll yn drosedd lle nad oes neb yn dioddef, a gall effeithio arnom ni i gyd:
- Y gost ariannol – Mewn termau ariannol, mae twyll yn costio biliynau o bunnoedd i’r wlad bob blwyddyn. Mae hefyd yn effeithio ar faint o arian sydd gennym i’w wario ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
- Y gost ddynol – Mae yna gostau eraill nad ydynt mor amlwg o ganlyniad i rai mathau o dwyll. e.e, un canlyniad i Dwyll Tenantiaethau Tai Cyngor yw bod llai o leoedd ar gael gan amddifadu teuluoedd a phobl agored i niwed sydd ar y rhestr aros.
Diwylliant o fod yn agored sydd gan y Cyngor erioed ac mae’r gwerthoedd craidd, sef Uniondeb, Cymryd Cyfrifoldeb a Rhagoriaeth, yn cefnogi hyn. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i’r safonau moesegol a moesol uchaf ac yn benderfynol mai diwylliant o onestrwydd, uniondeb a thryloywder fydd gan y sefydliad. Yn sylfaenol i’r gwerthoedd craidd hyn mae ei ymrwymiad i frwydro yn erbyn twyll ac arferion llwgr.
Mae cysylltiad agos rhwng y Strategaeth Atal Twyll ac Arferion Llwgr a pholisïau cyfredol yn yr awdurdod sy’n darparu canllawiau i’r staff ac Aelodau ar atal a rhoi gwybod am dwyll ac arferion llwgr. Mae’r rhain yn cynnwys Rheolau Gweithdrefnau Ariannol, Rheolau Gweithdrefnau Ariannol ar gyfer Ysgolion, Polisi Datgelu Camarfer, Codau Ymddygiad a Safonau’r awdurdod, a Codau Ymddygiad Swyddogion ac Aelodau.
Os ydych yn amau bod twyll yn digwydd yn erbyn Cyngor Sir Caerfyrddin, riportiwch eich amheuon ar unwaith i'r Swyddogion perthnasol:
| Math o Dwyll: | Cysylltwch â: |
| Budd Tal Tai, Treth Gyngor neu Fathodynnau Glas: | SWYDDOG YMCHWILIO TWYLL fraud@sirgar.gov.uk |
| Pob Twyll arall: | PENNAETH REFENIW A CHYDYMFFURFIAETH ARIANNOL TwyllCorfforaethol@sirgar.gov.uk neu HLPugh@sirgar.gov.uk |
Mwy ynghylch Cyllid a Thaliadau

