Camddefnyddio Alcohol a Sylweddau
Diweddarwyd y dudalen: 22/05/2023
Y diffiniad o gamddefnyddio sylweddau yw defnydd cyson neu achlysurol o alcohol neu sylwedd arall sy’n achosi niwed i iechyd unigolyn, ei weithrediad cymdeithasol neu ei berfformiad yn y gwaith. Yn aml gall amharu ar ddiogelwch yr unigolyn ei hun neu ddiogelwch pobl eraill ac effeithio ar bresenoldeb, prydlondeb, effeithlonrwydd neu ymddygiad. Mae camddefnyddio hefyd yn golygu meddu ar gyffuriau anghyfreithlon, eu defnyddio neu gyflenwi eraill â hwy (rheolir hyn gan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971).
Rydym yn gorfodi polisi dim goddefgarwch tuag at yfed alcohol a chamddefnyddio sylweddau yn yr awdurdod.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob un ohonoch chi, i wirfoddolwyr sy’n gweithredu ar ein rhan, contractwyr, ymwelwyr, gweithwyr asiantaeth ac aelodau o’r cyhoedd sy’n cael mynediad at safleoedd neu’n defnyddio safleoedd a berchenogir neu a feddiannir gennym ni.
Caiff Cyrff Llywodraethu pob ysgol eu hannog i fabwysiadu'r polisi hwn i gynnwys digwyddiadau cymdeithasol mewn ysgolion, gydag argymhelliad y gall ysgolion fod yn dymuno datblygu geiriad priodol i gynnwys disgyblion neu gyfeirio at y polisi neu'r canllawiau priodol ar gyfer disgyblion. Rhaid i dimau rheoli ysgolion sicrhau bod cytundeb addas yn cael ei fabwysiadu y tu allan i oriau arferol yr ysgol pryd y gellir llogi'r cyfleusterau i drydydd parti.
- Ewch â'r gweithiwr i ardal breifat a chyfrinachol i drafod y pryderon a rhoi cyfle i'r gweithiwr esbonio'r cefndir i'r sefyllfa.
- Rhowch wybod i'r gweithiwr na all barhau gyda'i ddyletswyddau gwirioneddol ar y diwrnod hwnnw ac y bydd yn cael ei atal o'i ddyletswyddau, wrth aros am asesiad meddygol ac ymgynghori â'r adran Adnoddau Dynol.
- Cofnodwch fanylion perthnasol y digwyddiad yn ffeil bersonél y gweithiwr h.y. dyddiad, amser, arwyddion, symptomau, ymddygiad, canlyniad a'r camau a gymerwyd.
- Sicrhewch fod gan y gweithiwr fynediad i ffurf briodol o drafnidiaeth er mwyn gallu teithio adref yn ddiogel, ac y bydd trefniadau'n cael eu gwneud i sicrhau bod ei ddull trafnidiaeth ei hun yn cael ei gludo adref yn ddiogel ar ei gyfer.
- Os yw'r gweithiwr yn gwrthod derbyn dull trafnidiaeth arall ac yn mynd i mewn i'w gerbyd, ffoniwch yr Heddlu ar 999 ar unwaith.
- Yn dilyn hyn ysgrifennwch ynghylch yr ataliad ac esboniwch y bydd rhaid cynnal cyfarfod ffurfiol mewn perthynas â'r digwyddiad.
- Dylai'r cyfarfod hwn helpu i nodi p'un a all fod gan y gweithiwr broblem dibyniaeth a bod angen cymorth pellach arno trwy ei gyfeirio at y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol neu trwy asiantaethau cymorth allanol neu p'un a ddylid cymryd camau disgyblu.
- Caiff camau perthnasol eu rhoi ar waith yn dilyn asesiad meddygol a chanlyniad yr ymchwiliad.
- Monitro ac adolygu'n rheolaidd.
- Ewch â'r gweithiwr i ardal breifat a chyfrinachol i drafod y pryderon a rhoi cyfle i'r gweithiwr esbonio'r cefndir i'r sefyllfa.
- Sefydlwch p'un a fydd angen amser i ffwrdd o'r gwaith ar y gweithiwr neu a yw'n gallu parhau gyda'i ddyletswyddau ar y diwrnod hwnnw.
- Cynigiwch gymorth ble bo'n berthnasol trwy wasanaethau cymorth allanol (e.e. Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, DAN 24/7 - Nodyn Cyfarwyddo 4) a chynghori'r gweithiwr i ofyn am gyngor gan ei feddyg teulu. Rhaid cyfeirio'r gweithiwr at y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol o ran ffitrwydd i weithio ac os oes yna unrhyw faterion yn ymwneud â pherfformiad gwaith. Bydd pawb sy'n ymwneud â'r mater yn cadw cyfrinachedd llwyr.
- Cofnodwch fanylion perthnasol y digwyddiad yn ffeil bersonél y gweithiwr h.y. dyddiad, amser, arwyddion, symptomau, ymddygiad, canlyniad a'r camau a gymerwyd.
- Lle cytunir i dderbyn triniaeth, dylid trefnu amser o’r gwaith ar gyfer triniaeth allanol yn unol â gofynion y Polisi Amser o’r Gwaith.
- Os oes yna unrhyw bryderon pellach, cysylltwch â'r Ganolfan Iechyd Galwedigaethol a'r Adran Adnoddau Dynol am gyngor pellach.
- Dylid gwneud gweithwyr yn ymwybodol o'r canlyniadau tebygol os nad ydynt yn derbyn y cynnig o gael cymorth o dan y polisi.
- Annog gweithwyr i ofyn am gymorth a chefnogaeth os ydynt yn cael problemau o ganlyniad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau.
- Fel rheol ni fyddai camau disgyblu'n ymwneud â chamddefnyddio alcohol a sylweddau yn cael eu cymryd ar unwaith yn erbyn gweithwyr sydd yn derbyn help oddi wrth eu cyflogwr, oni bai bod materion disgyblu eraill ynghlwm wrth y mater.
- Lle mae'r defnydd neu'r camddefnydd o alcohol a sylweddau gan weithiwr yn cyfrannu at berfformiad neu bresenoldeb gwael yn y gwaith, er gwaethaf unrhyw gymorth a ddarperir gan y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol neu asiantaethau allanol, cymerir camau i ymdrin â'r gweithiwr yn unol â'n Polisïau/Gweithdrefnau Rheoli Perfformiad Adnoddau Dynol priodol gyda chyngor gan Swyddogion Adnoddau Dynol (e.e. absenoldeb salwch, gweithdrefnau galluogrwydd ac ati).
- Gellir terfynu cyflogaeth mewn achosion o gamddefnyddio alcohol a sylweddau lle mae'r camau dilynol yn arwain at golli cymhwyster sydd yn ofynnol er mwyn cyflawni'r swydd e.e. cofrestriad proffesiynol, trwydded yrru.
- HR Policies should be referred to in conjunction with this Policy. In all cases where our disciplinary/sickness or capability procedure is used in relation with alcohol/substance misuse, the person concerned will be offered appropriate help at each stage.
- Dylid cyfeirio at y Polisïau Rheoli Perfformiad Adnoddau Dynol ar y cyd â'r Polisi hwn. Ym mhob achos lle defnyddir gweithdrefn ddisgyblu/salwch neu alluogrwydd yr Awdurdod mewn perthynas â chamddefnyddio alcohol/sylweddau, cynigir help priodol i'r unigolyn dan sylw ar bob cam.
Enghraifft lle mae Camau Disgyblu yn berthnasol
Gallai camau disgyblu godi o ganlyniad uniongyrchol neu anuniongyrchol i ddefnyddio alcohol neu sylweddau yn achos gweithwyr sydd:
- Yn dod i'r gwaith dan ddylanwad alcohol a sylweddau, sydd yn effeithio ar eu gallu i gyflawni dyletswyddau gwaith arferol yn ddiogel.
- Yn meddu ar sylweddau, yn eu defnyddio ac yn eu gwerthu yn y gwaith.
- Yn camddefnyddio meddyginiaethau ar bresgripsiwn yn y gwaith.
- Wedi yfed alcohol tra oeddent mewn rôl lle'r oedd diogelwch yn hanfodol (e.e. bod yn gyfrifol am gerbyd, gweithredu peiriannau peryglus neu offer symudol, trin neu ddefnyddio, gan gynnwys gwaredu, unrhyw sylwedd sydd yn beryglus i iechyd, gweithio mewn, ar neu gerllaw dŵr, goruchwylio plant ac oedolion agored i niwed).
- Wedi bod yn ymosodol tuag at aelodau o'r cyhoedd/defnyddwyr gwasanaeth o ganlyniad i ddefnyddio alcohol.
- Wedi mynd ati'n fwriadol i ddiystyru cyfarwyddiadau cyfreithlon i beidio ag yfed alcohol neu gymryd sylweddau yn y gwaith.
- Â materion ymddygiad sy'n codi o achosion unigol o oryfed alcohol neu ddefnyddio sylweddau.
Rhai enghreifftiau yw'r uchod ond nid yw'n rhestr hollgynhwysfawr. Os credir bod gweithiwr yn prynu ac yn gwerthu sylweddau, neu'n meddu ar sylweddau anghyfreithlon yn ystod oriau gwaith, bydd Pennaeth y Gwasanaeth neu Swyddog dirprwyedig yn rhoi gwybod i'r heddlu.
Iechyd Galwedigaethol
Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cynnal cyfrinachedd y gweithiwr drwy gydol y broses o reoli'r polisi hwn. Ni ddylai gweithwyr sydd â phroblem yn ymwneud â chamddefnyddio alcohol neu sylweddau fod ag unrhyw ofnau ynghylch gofyn am gyngor a help er mwyn cael adferiad. Dylai'r rheolwr roi cymorth parod iddynt a gwneud hynny'n gwbl gyfrinachol. Gall y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol a rheolwyr gyfeirio gweithiwr at y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau isod am gyngor ac arweiniad.
Mae natur gyfrinachol unrhyw gofnodion neu ohebiaeth yn ddarostyngedig i amddiffyniad statudol Deddf Diogelu Data 1998, Deddf Mynediad i Adroddiadau Meddygol 1988, Deddf Mynediad i Gofnodion Meddygol 1990 a Deddf Mynediad i Gofnodion Iechyd 1990.
Gwneud cais am Atgyfeiriad Iechyd Galwedigaethol
Deddf Cydraddoldeb 2010
Caiff caethiwed i, neu ddibyniaeth ar, alcohol neu unrhyw sylwedd arall ei hepgor yn benodol o gwmpas y Ddeddf oni bai bod y gaethiwed yn wreiddiol o ganlyniad i roi sylweddau ar bresgripsiwn meddygol neu driniaeth feddygol arall. Er hynny, bydd gweithwyr â namau sydd o ganlyniad i gaethiwed, er enghraifft difrod i'r afu wedi'i achosi gan alcohol, yn dal i ddod o dan gwmpas y Ddeddf.
Felly, gellir ystyried bod gweithwyr sydd â chlefyd cydnabyddedig yn ymwneud ag alcohol neu glefyd cysylltiedig arall yn anabl o dan y Ddeddf. Os felly, bydd polisi'r Cyngor ar anabledd yn berthnasol a dylai rheolwyr ofyn am gyngor gan eu swyddog cyfle cyfartal neu Adnoddau Dynol cyn bwrw ymlaen gydag unrhyw addasiadau rhesymol.
- Pobl dros 18 oed: Ffoniwch y Tîm Camddefnyddio Sylweddau ar: 01554 744343 neu 0300 333 2222.
- Pobl o dan 18 oed: Cysylltwch â DDAS a Choices drwy ffonio: 0330 363 9997
Gallant gynnig cyngor cyfrinachol i chi dros y ffôn a threfnu eich bod yn gweld gweithiwr os dymunwch er mwyn trafod eich problemau a chael y cymorth y mae ei angen arnoch.
Ceir llawer o adnoddau ar-lein sy'n rhoi cyngor a gwybodaeth am alcohol, gan gynnwys rhai adnoddau hunangymorth. Dyma rai safleoedd defnyddiol:
- Gwybodaeth am Alcohol gan Galw Iechyd Cymru
- Gwybodaeth am Alcohol Concern | Ffôn: 0300 123 1110 (diwrnodau'r wythnos 9am – 8pm, penwythonsau 11am – 4pm).
- Dan 24/7 | Ffôn: 0808 808 2234
- Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (DDAS) | Ffôn: 03303 639997
- Alcoholics Anonymous | Ffôn: 0800 9177 650
Iechyd a Diogelwch
Mwy ynghylch Iechyd a Diogelwch