Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
Diweddarwyd y dudalen: 16/01/2025
Gall Cymorth Cyntaf achub bywydau ac atal mân anafiadau rhag bod yn anafiadau difrifol ac mae'n ymwneud â rheoli unrhyw anaf neu salwch yn y lle cyntaf.
Yn ôl Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981, mae'n rhaid i'r holl weithleoedd ddarparu ar gyfer sicrhau bod cymorth cyntaf ar gael ar bob adeg i weithwyr, gan gynnwys dyletswydd i:
- Darparu offer a chyfleusterau cymorth cyntaf digonol a phriodol
- Darparu nifer digonol a phriodol o ddarparwyr cymorth cyntaf.
- Rhoi gwybod i weithwyr am drefniadau cymorth cyntaf.
Gall rheolwyr gael mwy o wybodaeth yn y Canllawiau Cymorth Cyntaf yn y Gwaith.
Asesiad o Anghenion Cymorth Cyntaf
Mae’n ofynnol ar Gyngor Sir Caerfyrddin o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974 a Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981 i ddarparu offer, cyfleusterau, a phersonél digonol a phriodol i sicrhau bod gweithwyr yn cael sylw yn syth os ydynt yn cael eu hanafu neu’n mynd yn sâl yn y gwaith.
Hefyd, mae gan yr awdurdod ddyletswydd foesol i roi ystyriaeth i anghenion cymorth cyntaf pobl nad ydynt yn gyflogedig gan y Cyngor, e.e., aelodau’r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaethau, disgyblion ac ati.
Cynhaliwyd yr asesiad blaenorol o anghenion cymorth cyntaf sawl blwyddyn yn ôl. Roedd angen ei adolygu, a dyna bwrpas darparu’r adroddiad hwn.
Mae’n hanfodol felly fod yr asesiad blaenorol o anghenion cymorth cyntaf yn cael ei adolygu a’i fod yn cadarnhau a yw’r lefelau hyfforddiant a argymhellir ar hyn o bryd yn parhau’n ddigonol i gyflawni’r dyletswyddau sydd gan yr awdurdod erbyn hyn.
Gall rheolwyr gael mwy o wybodaeth yn y dogefn Asesiad o Anghenion Cymorth Cyntaf.
Iechyd a Diogelwch
Mwy ynghylch Iechyd a Diogelwch