Newyddion Archif

Diweddarwyd y dudalen: 16/04/2024

Gweithleoedd dan do

Dylai'r tymheredd mewn gweithleoedd dan do fod yn gyfforddus. Nid oes isafswm tymheredd cyfreithiol, ond mae canllawiau'n awgrymu y dylai'r tymheredd fod o leiaf 16 gradd Celsius fel arfer. Os yw gwaith yn cynnwys ymdrech gorfforol galed, dylai'r tymheredd fod o leiaf 13 gradd Celsius. Fodd bynnag, efallai na fydd y tymereddau hyn o reidrwydd yn rhesymol gyfforddus, gan ddibynnu ar ffactorau eraill fel symudiad aer, lleithder cymharol, a dillad gweithwyr.

Dylai thermomedrau fod ar gael yn rhwydd i asesu tymheredd. Dylid cymryd darlleniadau tymheredd yn agos at weithfannau, ar uchder gwaith ac i ffwrdd o ffenestri.

Os nad yw'r tymereddau hyn yn cael eu cyflawni:

  • Gwiriwch fod tymheredd y boeler / system wresogi wedi'i osod yn gywir (adrodd i Gynorthwywyr Cyfleusterau lle bo hynny'n berthnasol).
  • Defnyddiwch wres lleol ychwanegol os na ellir cyflawni'r tymheredd gan y system wres sydd wedi'i gosod (os yw'r rhain yn cael eu defnyddio, sicrhewch eu bod mewn cyflwr da, dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a chofiwch eu diffodd pan nad oes eu hangen).
  • Os nad yw tymheredd rhesymol yn cael ei gyflawni o hyd, dylech ystyried gweithio o leoliadau amgen (swyddfeydd eraill, lleoliadau hybrid neu gartref) - dylid cytuno ar hyn rhwng gweithwyr a rheolwyr llinell i sicrhau bod anghenion busnes yn cael eu hystyried a bod gweithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain yn cael eu rheoli.
  • Gall tymheredd oerach effeithio'n andwyol ar rai cyflyrau iechyd - dylai gweithwyr a rheolwyr llinell drafod sut i reoli'r achosion hyn yn unigol. I gael cymorth gydag addasiadau am resymau meddygol gellir gwneud atgyfeiriad i'r uned Iechyd Galwedigaethol.
  • Dylid annog gweithwyr i roi gwybod am unrhyw bryderon neu faterion i'w rheolwr llinell a all gyfeirio'r mater i'r tîm Eiddo / y Person sy'n Gyfrifol am y Safle i gymryd camau gweithredu lle bo angen.

 

Gweithio yn yr Awyr Agored

Wrth weithio yn yr awyr agored, gall y tywydd gael effaith ddifrifol ar iechyd gweithwyr os nad yw'r risgiau wedi cael eu rheoli'n iawn. Gall y tywydd hefyd effeithio ar allu gweithiwr i gadw'n ddiogel, er enghraifft wrth drin peiriannau.

Mae'r mesurau y gellir eu cymryd i ddiogelu gweithwyr yn yr awyr agored yn cynnwys:

  • Ystyried a yw'r gwaith yn hanfodol neu y gellir ei oedi nes bod y tymheredd yn gwella.
  • Sicrhau bod asesiadau risg wedi nodi cyfarpar diogelu personol priodol/dillad tywydd oer.
  • Cynghori staff i wisgo haenau priodol o ddillad o dan gyfarpar diogelu personol i helpu i gynnal tymheredd y corff. Mae haenau'n well nag eitemau mwy trwchus gan y gellir eu tynnu neu eu hychwanegu yn ôl y gofyn.
  • Cymryd seibiannau ychwanegol mewn lleoliadau cynnes a galluogi mynediad i ardal lle gellir paratoi bwyd a diodydd poeth.
  • Lle bo'n bosibl, cylchdroi tasgau fel bod llai o amser yn cael ei dreulio gan ddefnyddio peiriannau neu offer sy'n dirgrynu mewn tymheredd oerach.
  • Hysbysu a diweddaru'r holl weithwyr ar arwyddion a symptomau straen oer, megis peswch neu achau'r corff
  • Gall tymheredd oerach effeithio'n andwyol ar rai cyflyrau iechyd - dylai gweithwyr a rheolwyr llinell drafod sut i reoli'r achosion hyn yn unigol. I gael cymorth gydag addasiadau am resymau meddygol gellir gwneud atgyfeiriad i'r uned Iechyd Galwedigaethol.
  • Dylid annog gweithwyr i roi gwybod am unrhyw bryderon neu faterion i'w rheolwr llinell a all gymryd camau pellach lle bo angen.

Dolenni defnyddiol:

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Tymheredd yn y gweithle

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Gweithio yn yr awyr agored

Os ydych chi'n gweithio dan do mewn swyddfa/gwasanaeth cyngor neu gartref – beth allwch chi ei wneud i gadw'n oer?

Cadwch y gwres allan:

  • Cadwch lenni ffenestri sy'n wynebu'r haul ar gau tra bo'r tymheredd y tu allan yn uwch nag y mae y tu mewn. Pan fydd y tymheredd y tu allan wedi gostwng yn is na'r tymheredd y tu mewn, agorwch y ffenestri.

Cadwch dymheredd y corff i lawr:

  • Gwisgwch ddillad cotwm llac
  • Yfwch ddigon o ddŵr drwy gydol y diwrnod
  • Bwytewch fwyd oer – salad a ffrwythau i ginio
  • Os ydych chi'n teimlo'n arbennig o boeth ac anghyfforddus, ysgeintiwch ddŵr dros eich dillad a'ch wyneb. Gall tywel/tywel papur llaith ar gefn y gwddf helpu i reoleiddio tymheredd.
  • Os ydych yn mynd allan i'r haul, defnyddiwch eli haul sydd â ffactor amddiffyn rhag yr haul (SPF) o 15 o leiaf (gan wneud hynny 20-30 munud cyn mynd allan) ar unrhyw groen sydd yn y golwg. Dylech fod yn hynod ofalus os oes gennych frychni haul neu groen golau nad yw'n troi'n frown, neu sy'n cochi neu'n llosgi cyn troi'n frown; gwallt golau neu goch a llygaid lliw golau; a llawer o fannau duon;
  • Rhowch ddŵr i blanhigion allanol a mewnol, a chwistrellwch ddŵr ar y ddaear y tu allan i ffenestri (osgoi creu perygl o lithro) i helpu i oeri'r aer

Os oes angen i chi deithio mewn cerbydau:

  • Cofiwch wirio lefelau olew a'r oerydd cyn teithio i sicrhau eu bod yn uchel a'u llenwi yn ôl yr angen
  • Wrth yrru ar gyflymder sy'n llai na 50 mya, trowch y system aerdymheru i lawr neu ei diffodd er mwyn arbed ynni sy'n cael ei wastraffu gan yr injan. Mae gyrru'n arafach yn golygu bod yn rhaid i'r injan weithio'n galetach i gynhyrchu'r aer oer, a allai achosi cerbyd i dorri i lawr mewn gwres eithafol
  • Gwiriwch fod gennych yswiriant torri i lawr
  • Cariwch ddŵr ychwanegol gyda chi rhag ofn eich bod yn cael eich dal mewn traffig
  • Ceisiwch barcio ceir yn y cysgod
  • Os oes un gennych, rhowch orchudd ar y ffenestr flaen i atal yr haul rhag disgleirio'n uniongyrchol ar offer rheoli'r cerbyd

Os ydych yn gweithio yn yr awyr agored - beth allwch chi ei wneud i ddiogelu eich hun?

  • Cadwch eich dillad amdanoch – gwisgwch ddillad sy'n eich amddiffyn rhag yr haul megis crysau t llewys hir a throwsus hir.
  • GWISGWCH EICH CYFARPAR DIOGELU PERSONOL - RHAID GWISGO HETIAU CALED A SIACEDI LLACHAR BOB AMSER (fel y nodir mewn asesiadau risg)
  • Lle bo'n bosibl arhoswch yn y cysgod pan fyddwch ar egwyl, yn enwedig amser cinio.
  • Os yw'n ddiogel gwneud hynny ac nad yw'n torri unrhyw reolau safle neu ofynion asesiad risg, gallwch dynnu cyfarpar diogelu personol yn ystod egwyliau i'ch helpu i oeri.
  • Defnyddiwch eli haul sydd â ffactor amddiffyn rhag yr haul (SPF) o 15 o leiaf (gan wneud hynny ryw 20–30 munud cyn mynd allan) ar unrhyw groen sydd yn y golwg. Dylech fod yn hynod ofalus os oes gennych frychni haul neu groen golau nad yw'n troi'n frown, neu sy'n cochi neu'n llosgi cyn troi'n frown; gwallt golau neu goch a llygaid lliw golau; a llawer o fannau duon;
  • Yfwch ddigon o ddŵr / diodydd oer i osgoi dadhydradu. Wrth weithio'n galed yn y gwres dylai gweithwyr yfed tua 250 ml (hanner peint) bob 15 munud neu 500 ml (peint) bob 30 munud.
  • Bydd rheolwyr yn trafod gyda thimau gweithredol unigol a ellir addasu amseroedd gwaith (os yw hyn yn bosibl yn ymarferol) e.e. i ddechrau'n gynharach, dechrau'n hwyrach neu gymryd seibiant i osgoi'r haul canol dydd.
  • Cadwch lygad allan am symptomau cynnar o straen gwres a chadwch lygad barcud ar gydweithwyr am arwyddion o salwch gwres. Ymhlith y symptomau arferol y mae:
    1. Methu â chanolbwyntio;
    2. Cramp yn y cyhyrau;
    3. Brech gwres;
    4. Syched difrifol – un o symptomau hwyr straen gwres;
    5. Llewygu;
    6. Blinder gwres – blinder, pendro, teimlo'n gyfoglyd, pen tost, croen llaith;
    7. Trawiad gwres – croen sych a thwym, dryswch, confylsiynau, ac yn y pen draw mynd yn anymwybodol;

Dolenni Defnyddiol

HSE: Straen Gwres

HSE: Gweithio yn yr Awyr Agored

Wrth i fwy o staff ddychwelyd i weithio mewn swyddfeydd a mannau eraill mewn ffordd hybrid ar ôl llacio cyfyngiadau COVID-19, mae'n bwysig ystyried sut i leihau lledaeniad COVID-19 ac afiechydon anadlol eraill. 

Mae hylendid da – gan gynnwys sychu desgiau a rennir, cynnal hylendid dwylo da a chadw pellter diogel - i gyd yn ffyrdd da o atal feirysau rhag lledaenu.

Yn ogystal, mae awyru'n chwarae rhan bwysig iawn o ran rheoli'r risg o ddal heintiau anadlol fel y ffliw a COVID-19. Gall gadael i awyr iach ddod i mewn i fannau dan do helpu i gael gwared ag aer sy'n cynnwys gronynnau feirws ac atal heintiau rhag lledaenu. Mae awyru da hefyd wedi'i gysylltu â manteision iechyd megis gwell cwsg a chanolbwyntio, a llai o ddiwrnodau salwch o'r gwaith neu'r ysgol. Po fwyaf o awyr iach sy'n dod i mewn, y cyflymaf y bydd unrhyw feirws sy'n cael ei drosglwyddo drwy'r awyr yn gadael yr ystafell.

Mae gan rai adeiladau/gweithleoedd systemau awyru mecanyddol e.e., systemau aerdymheru sy'n dod ag awyr iach o'r tu allan i mewn i'r adeilad. Mae adeiladau/gweithleoedd eraill yn dibynnu ar 'awyru naturiol', sef llif awyr drwy ffenestri, drysau a fentiau awyr. Pan fydd eich adeilad/gweithfannau wedi'u hawyru'n naturiol, mae'n bwysig cynnal llif awyr da drwy agor sawl ffenestr i greu drafft a chylchredeg aer. Dylid agor y ffenestri o leiaf un fodfedd a'u cadw ar agor tra bydd pobl yn y gweithle hwnnw. 

Os nad ydych yn gwybod a oes gennych awyru mecanyddol neu naturiol yn eich gweithle, siaradwch â'ch rheolwr llinell neu'r Person sy'n Gyfrifol am y Safle a all gadarnhau hyn.

Newyddion Cyfredol