Rhoi Gwybod am Ddamweiniau / Digwyddiadau / Ddamwain Agos

Diweddarwyd y dudalen: 11/09/2024

Mae’n RHAID i’r holl Reolwyr sicrhau bod yr HOLL staff yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau am Iechyd a Diogelwch fel y’u diffinnir yn y Polisi Iechyd a Diogelwch Corfforaethol. 

Mae’n rhaid i’r HOLL staff hysbysu eu Rheolwr Llinell ynghylch unrhyw Ddamweiniau, Ddigwyddiadau neu Ddamwain Agos. Fodd bynnag, dim ond rheolwyr llinell neu *aelod awdurdodedig o staff all logio damwain/digwyddiad ar-lein.

*Aelod awdurdodedig o staff: Rhywun a enwebwyd gan y Rheolwr i fewnbynnu damweiniau/digwyddiadau.

Os ceir damwain/digwyddiad/damwain agos i gyflogai mewn lleoliad ac eithrio yn ei weithle, yna mae’n rhaid i’r sawl a anafwyd roi gwybod i’w reolwr. Wedyn byddai rheolwr y sawl a anafwyd yn cysylltu â’r rheolwr/aelod o staff awdurdodedig o’r safle lle cafwyd y ddamwain/digwyddiad/ddamwain agos.

Os ceir Damwain/Digwyddiad/Ddamwain Agos i rywun nad yw’n gweithio i’r Cyngor, yna cyfrifoldeb y rheolwr/aelod o staff awdurdodedig o’r safle hwnnw fyddai logio’r digwyddiad.

Enghraifft: Mae disgybl yn llithro wrth ymyl y pwll nofio mewn canolfan hamdden; mae’n rhaid i Reolwr/Aelod o staff awdurdodedig y Ganolfan Hamdden hysbysu ynghylch hyn ar-lein. Os yw’n ymwneud â disgybl, mae dyletswydd ar yr ysgol i hysbysu’r rhiant/gwarcheidwad ynghylch y ddamwain/digwyddiad/ddamwain agos.

Os yw damwain/digwyddiad/damwain agos yn ymwneud ag aelod o’r cyhoedd, y rheolwr/aelod o staff awdurdodedig o’r adran benodol lle digwyddodd ddylai gofnodi’r ddamwain/digwyddiad/ddamwain agos.

Dylid hysbysu ynghylch yr holl ddamweiniau a digwyddiadau sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • cyflogeion
  • disgyblion
  • defnyddwyr gwasanaethau
  • contractwyr
  • ymwelwyr
  • tenantiaid
  • cynghorwyr
  • gweithwyr asiantaeth
  • pobl sydd ar brofiad gwaith
  • hyfforddeion
  • aelodau o’r cyhoedd

Dylid hysbysu ynghylch yr holl Ddamweiniau/Digwyddiadau o fewn 10 niwrnod.

Dylid hysbysu ar unwaith ynghylch unrhyw farwolaethau trwy gysylltu â’r Uned Iechyd a Diogelwch. Unwaith y mae’r ffurflen wedi cael ei chyflwyno, os yw absenoldeb cyflogai’n fwy na 7 niwrnod, yna dylid cysylltu â’ch Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch adrannol gan y byddai angen hysbysu’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ynghylch hyn.

Mae’n rhaid hysbysu ynghylch yr holl ddamweiniau/digwyddiadau/ddamwain agos gan ddefnyddio ein e-ffurflen.

Er mwyn hysbysu ynghylch Damwain/Digwyddiad/Damwain Agos, bydd yr wybodaeth ganlynol yn ofynnol:

  • Enw Cyntaf, Cyfenw a Dyddiad Geni’r sawl a anafwyd, ynghyd â’i Rif Gweithiwr (lle y bo’n berthnasol)
  • Cymaint o wybodaeth â phosibl am y Ddamwain/Digwyddiad/Damwain Agos: e.e.
    • Pwy a anafwyd?
    • Beth ddigwyddodd?
    • Ble y digwyddodd y Ddamwain/Digwyddiad/Ddamwain Agos?
    • Pryd y digwyddodd?
    • Pam y digwyddodd?
  • Ffotograffau, tystiolaeth a datganiadau tystion, asesiadau risg (lle y bo’n berthnasol a.y.b.

YBydd angen i chi glicio ar ‘cadw (save)’ wrth gwblhau’r ffurflen; yna gallwch fynd yn ôl at sgrîn yr hafan, clicio ar ‘Fy namweiniau/digwyddiadau wedi’u cadw (My saved Accidents/Incidents)’ ac yma gallwch lanlwytho ffotograffau, Asesiadau Risg a thystiolaeth tystion fel y bo’n briodol.

I ailgyflwyno unrhyw ddogfennau a gadwyd cliciwch ar ‘Fy Namweiniau/Digwyddiadau wedi’u Cadw (My saved Accidents/Incidents)’ ar sgrîn yr hafan, yna cliciwch ar ‘gweld (view)’, gweithiwch hyd at ddiwedd y ffurflen a chliciwch ar ‘ailgyflwyno (resubmit)’.

Lle y bo’n bosibl, dylid cofnodi cyfeiriad y sawl a anafwyd.

Os ydych i ffwrdd o’ch desg neu os nad chi yw un o’r gweinyddwyr penodedig mewn ysgol mae’n dal yn ofynnol ichi gofnodi manylion damwain neu ddigwyddiad. Rydym wedi darparu templed (ffurflen AIR) i chi ei lawrlwytho i gofnodi manylion y ddamwain neu’r digwyddiad. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau o ran yr wybodaeth y mae angen ichi ei darparu.

Sylwer: Mae’n rhaid i’r wybodaeth yr ydych yn ei chofnodi ar y daflen hon gael ei lawrlwytho i’n e-ffurflen cyn gynted â phosibl.

Adnodd i’w Lawrlwytho: Templed Ffurflen AIR (.doc)

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’r ffurflen, byddwch yn cael neges e-bost gyda’r ffurflen wedi’i hatodi mewn fformat PDF. Dylech gadw copi o’r ffurflen mewn lleoliad canolog fel bod yr aelod o staff awdurdodedig yn gallu cael mynediad ati os nad ydych chi ar gael, e.e. ar Gynllun Ffeiliau’r Cyngor.

Mae copi o’r ffurflen a gyflwynwyd hefyd ar gael i’w weld/ei argraffu mewn fformat PDF trwy glicio ar y botwm ‘docs’ ar bwys ffurflenni damweiniau a gyflwynwyd.

Mae’n rhaid i’r holl gyflogeion sydd wedi cael anaf sy’n gysylltiedig â’r gwaith gael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yn dilyn ymgynghori â’r Ganolfan Iechyd a Diogelwch.

Dylech hefyd gysylltu â hwy os oes arnoch angen cyngor ynghylch unrhyw ddyletswyddau diwygiedig neu addasiadau rhesymol cyn neu ar ôl i gyflogai ddychwelyd i’r gwaith.

Gallant hefyd gynnig cyngor a chymorth os oes gennych bryderon ynghylch cyflogai sydd wedi bod yn dyst i ddamwain/digwyddiad.

Sylwer: Os byddwch yn profi gwall terfyn amser cymhwysiad wrth hysbysu ynghylch damwain neu ddigwyddiad, copïwch y ddolen i mewn i’ch porwr.

Os oes angen cyngor pellach arnoch cysylltwch â’ch ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch adrannol.

Bydd angen i Benaethiaid neu eraill mewn ysgolionl sydd angen rhoi gwybod am ddamwain / digwyddiad, angen wedi cofrestru gyda system Azure cyn mewngofnodi ar yr e-ffurflen ar PORTH.

Gweler Cofrestrwch ar gyfer system Azure am gyfarwyddiadau pellach.

Nid oes angen rhoi gwybod i'r ALl am rai digwyddiadau drwy'r system ar-lein a dylid eu cofnodi'n lleol (trwy Lyfr Cofnodi Damweiniau’r Ysgol neu ddull arall).

Mae digwyddiadau nad oes angen adrodd arnynt i’r ALl drwy’r system ar-lein yn cynnwys:

  • Anafiadau mân i ddisgyblion sydd fel arfer angen triniaeth cymorth cyntaf yn unig.
  • Damweiniau sy'n amlwg yn ganlyniad o weithgareddau chwarae.
  • Afiechydon Plentyndod.
  • Anafiadau o ganlyniad frwydro rhwng disgyblion.
  • Digwyddiadau sy'n ymwneud â bwlio neu aflonyddu ar ddisgyblion.

Os ydych yn cael anhawster cael mynediad i'r System Adrodd Damweiniau ar-lein, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth TG ar 01267 246789.  Os oes gennych fynediad ond na allwch weld eicon y system Damweiniau, bydd angen i chi gysylltu â'r Ddesg Gymorth TG a gofyn am hyn.

Y digwyddiadau y mae’n rhaid hysbysu yn eu cylch dan RIDDOR yw’r digwyddiadau y mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol hysbysu’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn eu cylch. Mae hyn yn berthnasol i gyflogeion, pobl hunangyflogedig, hyfforddeion a chontractwyr. Mae unrhyw farwolaeth neu anaf i aelod o’r cyhoedd sy’n arwain at driniaeth feddygol oddi ar y safle’n ddigwyddiad y mae’n rhaid hysbysu yn ei gylch hefyd.

Beth sy'n adroddadwy?

  • Damwain fawr
  • Achosion o glefyd diwydiannol y rhoddwyd diagnosis ohono
  • Digwyddiad peryglus (digwyddiadau trwch blewyn)
  • Anaf sy’n arwain at golli mwy na 7 niwrnod yn y gwaith Marwolaeth

 phwy y dylid cysylltu

Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Ganolfan Iechyd a Diogelwch ar unwaith ar 01267 246088. Dylech hefyd gwblhau’r ffurflen damwain yn y ffordd arferol a bydd Ymgynghorydd Diogelwch yn hysbysu’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch lle y bo’n briodol.

Rhoi gwybod am ddamwain, digwyddiad neu ddamwain agos ar-lein