Digwyddiadau Critigol

Diweddarwyd y dudalen: 22/06/2023

Ystyr digwyddiad critigol yw digwyddiad a allai fod yn ddamwain difrifol / digwyddiad difrifol sy’n ymwneud ag un neu nifer o gyflogeion, defnyddwyr gwasanaethau, contractwyr neu aelodau o’r cyhoedd ar neu oddi ar safle’r Cyngor a hynny wedi arwain at farwolaeth neu anaf a allai olygu bod ‘bywyd yn y fantol’.

Ceir cysylltiadau a chamau gweithredu a ddylai ddigwydd ar unwaith yn dilyn unrhyw farwolaeth neu anaf sylweddol; cyfeiriwch at y Protocol Digwyddiadau Critigol a Chamau 1 – 6 ar gyfer canllawiau ynghylch sut i reoli digwyddiad critigol isod.

Nid yw’r wybodaeth hon wedi’i bwriadu i gynnig canllawiau ar gyfer damweiniau rheolaidd yn y gweithle, gan gynnwys damweiniau RIDDOR.

  1. Os ydych ar safle lle bu digwyddiad critigol dylech gysylltu â’r gwasanaethau brys perthnasol a’ch rheolwr llinell / goruchwylydd neu uwch reolwr arall.
  2. Dylai’r rheolwr llinell / goruchwylydd / uwch reolwr gysylltu â’i Bennaeth Gwasanaeth ac Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch gan nodi ffeithiau hysbys y digwyddiad.
  3. Bydd y Pennaeth Gwasanaeth, mewn ymgynghoriad gyda’r Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch, yn penderfynu a oes angen gwneud cysylltiadau pellach ac a ddylid rhoi’r protocol digwyddiadau critigol ar waith. Bydd angen iddynt gysylltu ag ymgynghorwyr cyfreithiol i roi gwybod iddynt y gall digwyddiad critigol fod wedi digwydd.
  1. Os ydych ar safle lle bu digwyddiad critigol dylech gysylltu â’r gwasanaethau brys perthnasol a’r Swyddog Ymateb Arweiniol Adrannol trwy Careline:- 01558 824248.
  2. Dylai’r Swyddog Ymateb Arweiniol Adrannol gysylltu â’r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol a’r Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch gan nodi ffeithiau hysbys y digwyddiad.
  3. Bydd y Pennaeth Gwasanaeth, mewn ymgynghoriad gyda’r Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch, yn penderfynu a oes angen gwneud cysylltiadau pellach ac a ddylid rhoi’r protocol digwyddiadau critigol ar waith. Bydd angen iddynt gysylltu ag ymgynghorwyr cyfreithiol i roi gwybod iddynt y gall digwyddiad critigol fod wedi digwydd.

Dylai’r Tîm Digwyddiad Critigol gynnwys o leiaf y canlynol:

  • Cyfarwyddwr / Pennaeth Gwasanaeth (Person Arweiniol / Prif Gyswllt);
  • Swyddog y Wasg;
  • Swyddog Adnoddau Dynol;
  • Ymgynghorydd Cyfreithiol;
  • Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch;
  • Pobl wedi’u cyfethol sy’n berthnasol i’r math o ddigwyddiad.

Bydd y Tîm Digwyddiad Critigol yn arwain y gwaith o fonitro’r camau gweithredu a gymerir gan yr holl bartïon mewn perthynas â’r broses ymchwilio. Dylai’r TDC sicrhau ei fod yn cadw:

  • cofnod o’r holl ddogfennaeth a gaiff ei chreu gan ymchwilwyr
  • copïau o’r holl ddogfennau gwreiddiol.

Dylai’r TDC gyfeirio at y camau isod ar gyfer rheoli digwyddiad critigol a sicrhau bod yr holl gamau gweithredu perthnasol yn cael eu cymryd.

Os ydych ar safle lle bu digwyddiad critigol dylech ddilyn y protocol digwyddiadau critigol. Unwaith y byddwch wedi cysylltu â’r digwyddiadau brys perthnasol, byddwch fel arfer yn cysylltu â’ch rheolwr yn y lle cyntaf. Bydd y ffordd y bydd eich rheolwr yn ymateb i hyn yn gosod y sylfeini ar gyfer y misoedd sydd i ddod.

Bydd y gweithle’n dod yn safle trosedd dynodedig tra bo’r Heddlu a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn casglu ac yn asesu tystiolaeth. Bydd yr effaith yn uniongyrchol a gallai effeithio ar barhad busnes eich gwasanaeth.

Yn dilyn hysbysu ynghylch y digwyddiad, mae’n rhaid i waith gael ei atal ar unwaith fel bod y safle’n gallu cael ei warchod. Dim ond er mwyn hwyluso’r broses o achub y sawl a anafwyd y dylid symud cyfarpar a pheirianwaith.

Bydd eich rheolwr yn cymryd pa bynnag wybodaeth y gall ei chael o safle’r ddamwain ac yn gwneud nodyn o’r manylion.

  • Beth ddigwyddodd a phryd? Mae’n debygol mai dim ond manylion cyfyngedig fydd ar gael ar y cam hwn. Mae’n bwysig cadw meddwl agored a pheidio â neidio i gasgliadau ond yn hytrach cofnodi dim ond yr hyn y gwyddys ei fod wedi digwydd.
  • Pwy fuodd yn gysylltiedig â’r digwyddiad? Casglwch enwau a manylion cyswllt y bobl a fu’n gysylltiedig.
  • A yw’r sawl a anafwyd wedi cael ei gludo i’r ysbyty? Os felly, pa ysbyty?
  • A fu unrhyw gyswllt eto gyda’r awdurdodau? Os felly, pwy? Beth sydd wedi cael ei ddweud? Fel rhan o’r ymchwiliad mewnol dylid cymryd datganiad tyst. Dylid cadarnhau enwau a manylion cyswllt yr uwch swyddog heddlu sydd â gofal am safle’r digwyddiad ac unrhyw fanylion gan Arolygydd Iechyd a Diogelwch EM sydd ar y safle o bosibl.
  • Cysylltwch ag Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch eich Adran er mwyn iddynt allu hysbysu ynghylch y digwyddiad a mynd i’r safle cyn gynted â phosibl i ddechrau ymchwilio i’r digwyddiad a chymryd datganiadau tystion.
  • Os nad yw’r sawl a anafwyd yn cael ei cyflogi’n uniongyrchol gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ond ei fod yn is-gontractwr, dylid cadarnhau enw’r is-gontractwr, a manylion cyswllt ei reolwr llinell.
  • Cysylltwch â Swyddog Adnoddau Dynol eich adran i drafod unrhyw gamau gweithredu y gall fod yn briodol eu cymryd mewn perthynas â’r cyflogai/cyflogeion yr ydych yn ei reoli/eu rheoli.

Deunydd i’w lawrlwytho: Log camau gweithredu (.doc). Defnyddiwch y templed hwn i grynhoi’r wybodaeth uchod a nodi manylion camau gweithredu

Gwasanaeth cyswllt teuluol yr heddlu a rheolwr y gwasanaeth yw’r bobl a fydd yn cysylltu agosaf â’r teulu fel arfer.

Dylai’r Adran Adnoddau Dynol ar y cyd â rheolwr y gwasanaeth benodi swyddog enwebedig i gysylltu â theulu’r sawl a anafwyd, ar unwaith ac wrth i faterion ddatblygu a pharhau i gysylltu â’r teulu a, lle y bo’n bosibl, rhoi iddynt fanylion sefydliadau a allai gynnig cymorth a bod yn gefn iddynt.

Bydd y modd y mae’r rhai a gafodd brofedigaeth yn cael eu trin ar yr adeg anodd hon yn cael effaith barhaus. Byddwch yn gyd-deimladol ac yn dosturiol gan rannu dim ond y ffeithiau sy’n hysbys ar y cam hwn gyda nhw.

Sicrhewch fod unrhyw gyflogeion a oedd yn rhan o’r digwyddiad critigol neu yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad critigol yn cael cymorth a chyngor ar unwaith. Gall hyn gynnwys cwnsela, cymorth rheolwr llinell neu gyngor cyfreithiol gan ddibynnu ar yr unigolyn a’i gysylltiad â’r ddamwain neu ei ran ynddi.

Bydd enw a manylion cyswllt yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch a’r swyddog arweiniol sy’n ymchwilio i’r digwyddiad ar gael i’r holl staff cysylltiedig.

Mae presenoldeb Cyfarwyddwr, Pennaeth Gwasanaeth a / neu Uwch Reolwr ar y safle neu mewn cyfarfodydd i annerch y gweithlu’n anfon neges bwysig o gefnogaeth.

Mae’n debygol iawn y bydd gan y wasg ddiddordeb mewn unrhyw ddamwain / digwyddiad sy’n arwain at anaf a allai fygwth bywyd neu fod yn angheuol.

Mae’n hanfodol bod llinellau cyfathrebu eglur yn cael eu sefydlu gyda Swyddfa’r Wasg (yr adain gyfathrebu) o fewn Adran y Prif Weithredwr yn meddu ar awdurdod llwyr i siarad ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin.

  • Sicrhau bod yr ardal / y broses weithio’n cael ei gwneud yn ddiogel / yn cael ei hynysu lle y bo angen;
  • Cwblhau ffurflen Damwain / Digwyddiad gyda chymaint o fanylion â phosibl;
  • Cymryd manylion tystion gan gynnwys rhifau cyswllt;
  • Cynghori’r holl bobl i gyfathrebu’n uniongyrchol gyda’r TDC ac atal yr holl gyswllt trwy’r e-bost;
  • Cynnal cyswllt ag ymchwilwyr;
  • Cadw log o dystiolaeth, dogfennaeth a datganiadau tystion a gymerir;
  • Cynghori, gan gynnal gyswllt â chynrychiolwyr cyfreithiol, ynghylch y dull gorau o gael datganiadau tystion;
  • Cynnal cyswllt â chynrychiolwyr cyfreithiol a monitro’r broses ymchwilio;
  • Rhoi diweddariadau rheolaidd i’r Prif Weithredwr, cynrychiolwyr cyfreithiol ac aelodau o staff / aelodau o’r teulu a.y.b.
  • Cynnal cyswllt â Swyddfa’r Wasg.
  • Cyfarwyddo tîm ymchwilio mewnol i gychwyn ymchwiliadau fel y bo’n ofynnol;
  • Monitro’r opsiynau sydd er budd pennaf staff a’r awdurdod;
  • Gweithredu adolygiad o asesiadau risg / prosesau gweithio / systemau gwaith diogel;
  • Trefnu cyfarfodydd perthnasol gydag ymchwilwyr, cynrychiolwyr cyfreithiol ac eraill fel y bo angen i drafod camau gweithredu pellach a gaiff eu cymryd;
  • Gweithredu unrhyw argymhellion a nodwyd.
Llwythwch mwy