Ymchwilio i Ddamweiniau/Ddigwyddiadau
Diweddarwyd y dudalen: 22/05/2023
Mae ymchwiliadau'n hanfodol i ddarganfod pam, sut a phryd ddigwyddodd damwain/digwyddiad ac i bennu sut i atal damweiniau/digwyddiadau tebyg rhag digwydd.
Rydym yn ymroddedig i gofnodi, adrodd ac ymchwilio i bob damwain a digwyddiad sy'n cynnwys gweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth, contractwyr, ymwelwyr a'r cyhoedd. Bydd yr holl ymchwiliadau i ddamweiniau/digwyddiadau yn cael eu cynnal ar ran y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol.
Mae gwybodaeth ffeithiol yn hanfodol a rhaid ei chasglu drwy gyfweliadau, archwiliadau a datganiadau ysgrifenedig. Mae ymchwiliadau yn hanfodol i ddarganfod pam, sut a phryd ddigwyddodd damwain/digwyddiad ac i bennu sut i atal damweiniau/digwyddiadau tebyg rhag digwydd. Dylai'r rheolwyr gyfeirio at y pum cam isod ynghylch sut i ymchwilio i ddamwain/digwyddiad.
Pwrpas ymchwilio i ddamweiniau/digwyddiadau yw:
- Nodi'r achosion sylfaenol ac atal damweiniau/digwyddiadau rhag digwydd eto;
- Rhoi dealltwriaeth glir i'r holl randdeiliaid ynghylch y ffactorau uniongyrchol a sefydliadol sydd wedi arwain at y digwyddiad;
- Casglu tystiolaeth er mwyn galluogi ymgynghorwyr cyfreithiol i asesu datguddiad sifil a throseddol;
- Cydweithio a chynorthwyo'r awdurdodau o ran eu hymholiadau;
- Rhoi dealltwriaeth glir i'r cyfryngau ac i grwpiau er budd y cyhoedd o ran yr amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad;
Er mwyn sicrhau bod yr ymchwiliad yn gymesur â lefel y risg sydd ynghlwm wrth y damwain/digwyddiad, cytunwyd i ddefnyddio'r canlynol fel safon gyson ar gyfer ymchwiliadau ar draws yr awdurdod.
- Ni ddylid defnyddio darparwyr allanol i ymchwilio i ddamweiniau/digwyddiadau.
- Rhaid rhoi gwybod i Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch a byddant yn ymchwilio i'r canlynol:
- Damweiniau/digwyddiadau sy'n golygu bod gweithiwr yn absennol o'r gwaith neu'n methu â pharhau â'i weithgareddau arferol am fwy na 7 niwrnod;
- Anafiadau difrifol i weithwyr, defnyddwyr gwasanaeth, ymwelwyr, contractwyr neu aelodau'r cyhoedd sydd wedi digwydd o ganlyniad i weithgareddau gwaith neu mewn cysylltiad â gweithgareddau gwaith;
- Offer yn methu, gyda'r potensial i achosi anaf difrifol;
- Digwyddiadau peryglus (fel yr amlinellwyd yn y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus);
- Unrhyw ddamwain/digwyddiad arall y mae'r Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Adrannol yn ystyried bod angen ymchwilio iddo.
- Dylai Rheolwyr gael gwybod am ac ymchwilio i'r HOLL ddamweiniau/digwyddiadau nad ydynt yn cael eu cynnwys yn un o'r categorïau uchod.
Mae'n bosibl na fydd damweiniau/digwyddiadau bach a'r rhai a osgowyd o drwch blewyn yn gwarantu ymchwiliad llawn a manwl gan Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch, ond gallant fod yn rhybudd rhag damweiniau/digwyddiadau difrifol yn y dyfodol a'ch annog i gyflwyno camau er mwyn eu hatal rhag digwydd. Felly dylid ymchwilio i bob damwain/digwyddiad (gan gynnwys y rhai a osgowyd o drwch blewyn, digwyddiadau treisgar a digwyddiadau peryglus) a dylai'r manylion gael eu cofnodi.
Yn gyntaf, dylech sicrhau ei bod yn ddiogel i fynd i mewn i safle'r damwain/digwyddiad a sicrhau bod y person a anafwyd wedi derbyn yr holl ofal sydd ei angen arno. Mae'n bosibl y bydd angen i chi ddod â'r gweithgaredd i ben neu ei symud i leoliad arall wrth i'r safle gael ei archwilio.
Ni ddylid symud unrhyw eitem neu dystiolaeth berthnasol sy'n gysylltiedig â'r ddamwain/digwyddiad tan fod y safle wedi cael ei archwilio'n ofalus, a bod union leoliad yr eitem/tystiolaeth berthnasol wedi cael ei gofnodi a lluniau wedi cael eu cymryd lle bo'n bosibl. Dylid cadw'r dystiolaeth ar ôl hynny tan na fydd ei hangen bellach.
Yn gyntaf, rhaid i chi ddarganfod:
- Sut ddigwyddodd y ddamwain/digwyddiad?
- Pwy oedd a wnelo â'r ddamwain/digwyddiad?
- Beth ddigwyddodd?
- Ble ddigwyddodd y ddamwain/digwyddiad?
- Pryd ddigwyddodd y ddamwain/digwyddiad?
- Beth oedd yn digwydd adeg y ddamwain/digwyddiad? (e.e. pa weithgaredd oedd yn digwydd neu pa ddarn o offer oedd yn cael ei ddefnyddio adeg hynny?)
- A oedd unrhyw dystion? Os felly, casglwch enwau a chyfeiriadau a gofynnwch am ddatganiadau tyst i gyd-fynd â'r ymchwiliad (gellir casglu'r rhain yn ddiweddarach, ond dylid eu casglu cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod y datganiadau a roddir yn glir).
- Mae'n bosibl y byddai angen braslunio neu gymryd lluniau o'r safle er mwyn cynorthwyo'r ymchwiliad.
Lawrlwythwch: Templed o Ddatganiad Tyst (.doc)
Edrychwch am achosion uniongyrchol posibl. A wnaeth unrhyw weithredoedd neu amodau anniogel achosi'r digwyddiad?
Dyma enghreifftiau o'r rhain:
- Os defnyddiwyd offer adeg y ddamwain/digwyddiad – efallai nad oedd yr offer yn gweithio'n iawn?
- Diffyg gwaith cynnal a chadw neu ddim digon o olau yn y man lle digwyddodd y ddamwain/digwyddiad?
A oedd unrhyw achosion sylfaenol amlwg?
Er enghraifft:
- Diffyg gwybodaeth neu sgiliau ar ran y staff?
- Goruchwyliaeth amhriodol?
- Cynnal a chadw annigonol?
- A oedd yr unigolyn wedi derbyn hyfforddiant ynghylch sut i ddefnyddio'r peiriant?
- A gafodd yr unigolyn gyfarwyddiadau a gwybodaeth addas a digonol i gwblhau'r dasg neu'r gweithgaredd?
Ar ôl asesu'r hyn a ddigwyddodd a pham, a beth oedd yr achosion uniongyrchol ac anuniongyrchol posibl, dylech benderfynu pa gamau adferol y dylid eu cymryd er mwyn atal y damwain/digwyddiad rhag digwydd eto. Cofnodwch erbyn pryd y dylid cwblhau'r camau hyn a'u hadolygu'n rheolaidd.
Er enghraifft:
- A oes angen ailhyfforddi staff? Pryd?
- A oes angen cael gwared ar y darn o offer nad yw'n gweithio'n iawn a'i labelu'n briodol? Os felly, a ddylai hyn gael ei wneud ar unwaith?
- A oes angen aildrefnu'r amgylchedd gwaith?
- A oes angen adolygu'r gweithdrefnau gwaith?
- A oes angen adolygu eich asesiad risg?
Cwblhewch y ffurflen ddamweiniau/digwyddiadau, cofnodwch yr holl ymchwiliadau a'u hatodi i'r ffurflen ddamweiniau/digwyddiadau cyn anfon copi i'r xanolfan iechyd a diogelwch.
Os oes angen rhagor o wybodaeth neu ymchwiliad pellach, bydd eich Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch yn cysylltu â chi.
Bydd yr holl adroddiadau am ymchwiliadau i ddamweiniau/digwyddiadau a gynhaliwyd gan Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch yn cael eu cyflwyno i'r Pennaeth Gwasanaeth sy'n gyfrifol am safle'r ddamwain/digwyddiad. Dylai'r Pennaeth Gwasanaeth gydweithio ag Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch yr adran. Ni ddylid defnyddio darparwyr allanol i ymchwilio i ddamweiniau/digwyddiadau.
Ni chesglir adroddiadau nac ymchwiliadau i achosion damweiniau/digwyddiadau at ddibenion amddiffyn hawliadau sifil. Fodd bynnag, lle bo'n briodol, byddant yn cael eu cyflwyno i'r ymchwilydd hawliadau sy'n gweithredu ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin.
Iechyd a Diogelwch
Mwy ynghylch Iechyd a Diogelwch