Canllaw Sefydlu Dilysu Aml-Ffactor ar gyfer Defnyddwyr Allanol

Diweddarwyd y dudalen: 23/07/2026

Fel rhan o’r ymdrechion parhaus i wella diogelwch mae Microsoft yn gwneud newid hanfodol i’r ffordd y rhennir ffeiliau’n allanol o’r OneDrive. Ni fydd dolenni a rannwyd cyn y newid hwn bellach yn gweithio, a bydd yn rhaid ail-gyfeirio defnyddwyr allanol.

Pryd fydd hyn yn digwydd:

• Daw’r newid gan Microsoft i rym yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst 2026, ni fydd defnyddwyr allanol yn gallu cael mynediad at ffeiliau neu ffolderi trwy ddolenni a rannwyd cyn y newid hwn.

Sut bydd hyn yn effeithio ar ddolenni a rannwyd:

• Ni fydd dolenni a rannwyd yn flaenorol drwy ddefnyddio'r Cod Dilysu Un Tro (OPC) bellach yn gweithio. Bydd yn rhaid i ddefnyddwyr allanol gofrestru ar gyfer dilysu aml-ffactor (MFA) yn lle defnyddio’r OPC. Bydd defnyddwyr allanol sy’n ceisio defnyddio’r dolenni a rannwyd cyn y newid hwn yn gweld neges gwall “Mae’n ddrwg gennym, digwyddodd rhywbeth. Mae’r sefydliad hwn wedi diweddaru’i osodiadau mynediad gwesteion.”

 

Beth sydd angen i chi ei wneud i baratoi:

• I adfer mynediad, mae'n rhaid i chi rannu'r ffeil neu ffolder eto, gyda'r defnyddwyr allanol.

• Rhannwch y cyfarwyddiadau hyn Canllaw Sefydlu Dilysu Aml-Ffactor gyda'r defnyddwyr allanol .