Teithio staff
Diweddarwyd y dudalen: 14/12/2023
Fel awdurdod rydym wedi arbed dros £2m o wariant cysylltiedig â theithio ers 2012, ond gan fod hawliadau teithio staff yn parhau i fod dros £1.7m, rydym yn parhau i edrych ar sut y gallwn leihau'r gwariant hwn.
Mae dadansoddiad diweddar o ddata teithio staff yn dangos bod milltiroedd staff a chostau cysylltiedig yn cynyddu tua 10% bob blwyddyn yn ôl pob golwg.
Mae llawer o fanteision yn gysylltiedig â lleihau teithio busnes, nid yn unig i'r cyngor o safbwynt ariannol ond hefyd i chi fel unigolyn ac i'n cymuned ehangach.
• gostyngiad mewn amser teithio
• mwy o hyblygrwydd a chydbwysedd gwell rhwng gwaith a bywyd
• gwell cynhyrchiant
• llai o draffig, yn enwedig yn ystod oriau brig
• llai o lygredd aer a sŵn
Lle mae angen ymweliadau a chyfarfodydd wyneb yn wyneb,
anogir rheolwyr a gweithwyr i ystyried yr opsiynau canlynol yn lle defnyddio car personol a chyflwyno hawliad teithio.
Car adrannol:
O ran argaeledd ceir adrannol, gall unrhyw aelod o staff archebu car adrannol corfforaethol sydd wedi'i leoli ym Mharc Myrddin, Caerfyrddin a Depo Trostre, Llanelli, Mae rhagor o fanylion am sut i archebu car adrannol ar gael yma.
Mae ceir tîm penodol hefyd ar gael mewn rhai gwasanaethau megis Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Cynllunio, TG a Thai a Diogelu'r Cyhoedd. Os nad ydych yn siŵr a oes gan eich tîm gerbyd adrannol neu os nad ydych yn siŵr sut i archebu cerbyd, gwiriwch gyda'ch rheolwr llinell.
Mae hygyrchedd ceir adrannol hefyd yn cael ei adolygu fel rhan o'r symudiad i gyfnerthu staff mewn adeiladau craidd ar draws y sir a bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i sicrhau bod digon o geir adrannol ar y safleoedd hyn.
Car Hurio:
Ar gyfer teithiau hirach, fel teithiau y tu allan i'r sir, anogir staff i ddefnyddio opsiwn hurio car gan yr ystyrir mai dyma'r opsiwn mwyaf cost-effeithiol ar gyfer teithiau milltiroedd uwch (e.e. dros 60 milltir). Mae rhagor o fanylion am sut i archebu car i'w hurio ar gael yma.
Trafnidiaeth Gyhoeddus:
Os ydych chi'n archebu mewn da bryd, gall teithio ar y bws neu'r trên fod yn ddewis da yn lle llogi ceir, a mantais arall yw bod modd i chi ymlacio yn ystod eich taith a chyrraedd eich cyrchfan wedi dadflino ac yn barod i fynd.
Beicio:
Os oes gennych ddiddordeb mewn lleihau eich dibyniaeth ar eich car a'ch bod yn gallu beicio i'r gwaith, beth am edrych ar y Cynllun Beicio i'r Gwaith ar gyfer staff.
Menter gan y cyngor yw'r cynllun hwn sydd wedi prynu dros 300 o feiciau hyd yn hyn. Mae'n galluogi staff i logi beic a/neu ategolion a gymeradwywyd am gyfnod o 12 mis gydag opsiwn i brynu'r beic yn llwyr ar ddiwedd y cyfnod.
Os hoffech fynd un cam ymhellach i helpu'r blaned a lleihau llygredd trwy brynu Cerbyd Allyriadau Isel, mae'r cyngor yn cynnig cynllun ildio cyflog drwy'r darparwr Tusker, sydd â sawl cerbyd trydan a hybrid ar gael.
Os ydych yn ymwybodol o broses neu dasg sy'n gofyn i chi fynd i swyddfa y credwch y gellid ei awtomeiddio a'i gwneud mewn ffordd fwy cynhyrchiol, cysylltwch â'r Tîm Trawsnewid
Mwy ynghylch Prosiect Zero Sir Gar