Hurio cerbyd

Diweddarwyd y dudalen: 09/05/2023

Mae gennym gontractau â chyflenwyr ar gyfer hurio cerbydau neu beiriannau yn y tymor byr neu'r tymor hir. Mae pob math o gerbyd ar gael, gan gynnwys ceir a cherbydau mwy arbenigol i gyflawni'r rhan fwyaf o ofynion gweithredu.

Os oes angen i chi hurio cerbyd rhaid i chi lenwi ffurflen gais. Cyn hurio cerbyd, rhaid eich bod wedi archwilio pob opsiwn arall megis defnyddio cerbyd presennol.

  • Rhaid derbyn pob cais am hurio cerbyd 2 ddiwrnod gwaith cyn dechrau'r cyfnod hurio.
  • Rhaid cyflwyno pob cais trwy e-bost i ENVBSUFleet@sirgar.gov.uk
  • Rhaid defnyddio cerbydau hurio/cerbydau adrannol at ddibenion busnes yr Awdurdod yn unig.

Awdurdodi

Rhaid i unrhyw archeb am hurio cerbyd gael ei hawdurdodi gan lofnodwr penodedig sydd â chyfrifoldeb am hurio cludiant wedi'i ddirprwyo iddo gan reolwr / deiliad cyllideb yr adain honno.

Mae'n rhaid i'r gyrrwr ymgyfarwyddo â'r cerbyd a'r llyw, y brêcs ac ati cyn ei yrru, a dylai ofyn os yw'n ansicr ynghylch rhywbeth.

Ar gyfer cerbydau gweithredol, mae'n rhaid i chi gydymffurfio â'r Polisi Risg Ffyrdd ar Gyfer Fflyd y Cyngor.   (Atodiadau: Siart Llif Gwiriadau Trwydded Yrru)

Mae'r cyfrifoldebau statudol canlynol gan bob un sy'n defnyddio'r cerbydau:

  1. Archwilio cyn defnyddio: Mae'n haid i'r holl yrwyr sicrhau bod y cerbydau a ddarperir am y cyfnod hurio yn cael eu harchwilio rhag ofn eu bod yn ddiffygiol. Dylid archwilio'r teiars, lefelau hylif, cyflwr corff y cerbyd, pa mor lân ydyw, a faint o danwydd sydd ynddo (dylai fod yn llawn). Os deuir o hyd i unrhyw ddiffygion, mae'n rhaid rhoi gwybod amdanynt ar unwaith drwy ffonio 01554 784138. Mae'r gyrrwr yn gyfrifol am gydymffurfio â'r gyfraith.
  2. Wrth Ddefnyddio – Os caiff gyrrwr unrhyw hysbysiadau cosbau penodedig am droseddau gyrru yn ystod y cyfnod hurio, rhaid rhoi gwybod am y rhain drwy ffonio 01554 784140.
  3. Archwilio ar ôl Defnyddio - Ar ddiwedd y cyfnod hurio dylai'r defnyddiwr sicrhau bod y cerbyd yn cael ei ail-lenwi â thanwydd a'i lanhau, a'i fod yn rhoi gwybod am unrhyw ddiffygion drwy ffonio 01554 784138.

Adroddiadau ynghylch diffygion a thaflenni gwirio cerbyd:

Mae'n rhaid rhoi gwybod am bob diffyg yn unol â gweithdrefnau'r Awdurdod.
Er hwylustod, bydd llyfr cofnodi diffygion yn cael ei ddosbarthu i bob swyddog archebu cerbydau.
Mae'n rhaid i ddefnyddwyr cerbydau nodi unrhyw ddiffygion wrth gynnal archwiliadau cyn defnyddio.

Os caiff unrhyw ddiffygion eu nodi, dylid rhoi gwybod amdanynt yn syth drwy ffonio 01554 784138.

 

Dylid gyrru'r cerbydau mewn modd cyfrifol ac yn unol â'r gyfraith bob amser. Bydd y weithdrefn ddisgyblu ffurfiol yn ymdrin ag unrhyw gamddefnydd o gerbyd/beiriant a huriwyd. Nid yw'r yswiriant yn cwmpasu defnydd personol/preifat.

Mae'n rhaid i geisiadau am ddefnyddio cerbydau hurio nodi'n glir pryd y mae'r cyfnodau hurio'n dechrau ac yn gorffen.

Os oes rhaid ymestyn cyfnod hurio, mae'n rhaid i chi ffonio 01554 784145, oherwydd efallai bod trefniant wedi'i wneud ar gyfer y defnyddiwr nesaf.

Yn ystod oriau gwaith arferol, cysylltwch ag Adain Hurio'r Fflyd drwy ffonio 01554 784138.

I gael cymorth ar adeg arall, cysylltwch â'r cwmni hurio y gellir dod o hyd i'w fanylion ym mhob cerbyd ar gefn daliwr y disg treth neu ym mlwch menig y cerbyd.

Sicrhewch fod gennych yr holl wybodaeth berthnasol gan gynnwys maint y teiar, os bydd twll yn y teiar neu broblem â'r teiar.

Hefyd, rhaid rhoi gwybod i Adain Hurio'r Fflyd cyn gynted ag y bo'n ymarferol i wneud hynny.

Os bydd digwyddiad/damwain yn digwydd, hyd yn oed os nad oes difrod, sicrhewch eich bod yn nodi'r wybodaeth ganlynol:

  • Y dyddiad, yr amser, y lle (tynnwch fraslun sydyn o'r man/ffordd), y tywydd
  • Manylion y lleill a oedd yn rhan o'r digwyddiad/damwain: Enw, Cyfeiriad/Cwmni, Rhif Ffôn
  • Rhifau cofrestru'r cerbydau sy'n rhan o'r digwyddiad/damwain, y goleuadau a oleuwyd, ac ati

Peidiwch â gwneud unrhyw sylw ar bwy oedd yn gyfrifol am y digwyddiad/damwain.

Sicrhewch y rhoddir gwybod i Adain Hurio'r Fflyd am unrhyw ddigwyddiad/damwain drwy ffonio 01554 784138.

Os byddwch mor anffodus â bod mewn damwain lle mae difrod i eiddo neu anaf i rywun, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Heddlu am y mater.

Pan fyddwch wedi gorffen defnyddio'r cerbyd/peiriant, mae'n rhaid rhoi gwybod i Adain Hurio'r Fflyd yn ddi-oed.

Mae'n rhaid dychwelyd y cerbyd/peiriant i Adain Hurio'r Fflyd neu i leoliad y cytunir arno yn yr un cyflwr ag oedd pan gafodd ei hurio i chi.

Sicrhewch fod y tanc tanwydd yn llawn pan fyddwch yn dychwelyd y cerbyd.

Ymholiadau Cyffredinol: (01554) 784138.

Nam/diffygion: (01554) 784138.

Troseddau Moduro: (01554) 784140.

Ymestyn cyfnod hurio car: (01554) 784145.

Cerbyd yn torri i lawr y tu allan i'r oriau swyddfa: Cysylltwch â Thechnegwyr ar 07721 605917/07976 463579/07818 511712.