Lansio Bws Bach y Wlad i fynd i'r afael â'r Bwlch Trafnidiaeth Wledig yn Sir Gâr

Rydym yn falch o lansio Bws Bach y Wlad, menter newydd sydd â'r nod o wella hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig ar draws y rhanbarth.

Bydd Bws Bach y Wlad, gwasanaeth sy'n mynd o bentref i bentref, yn rhoi buddion i breswylwyr gwledig drwy roi mwy o gyfleoedd iddynt ar gyfer teithio cyfleus a fforddiadwy. Gan weithredu fel cynllun peilot am 9 mis, pum niwrnod yr wythnos, bydd y gwasanaeth yn cynnig teithio rhatach am ddim a chyfraddau gostyngol i bobl ifanc, gan ei wneud yn fwy hygyrch i ystod ehangach o aelodau'r gymuned.

Bydd y gwasanaeth yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu preswylwyr lleol wrth gael mynediad at wasanaethau hanfodol fel gofal iechyd a siopa.

Er mwyn osgoi dyblygu a manteisio ar y rhwydwaith cyffredinol, bydd tîm y prosiect yn cydweithio'n agos â darparwyr Trafnidiaeth Cymunedol, Dolen Teifi. Nod y bartneriaeth strategol hon yw sicrhau bod gwasanaethau'r dyfodol yn ategu'r rhwydwaith a fwriadwyd, gan gynnig ateb trafnidiaeth di-dor ac integredig er budd y gymuned gyfan.