Cynllun Beiciau Adrannol i Staff

Diweddarwyd y dudalen: 26/02/2024

Cynllun peilot yw hwn, ar gael i staff sy'n gweithio ym Mharc Myrddin yn unig ar hyn o bryd. Gweinyddir y cynllun gan y gwasanaeth Cymorth Busnes (ar lawr uchaf bloc 1).

Mae angen i lawer o staff deithio rhwng safleoedd ac ardaloedd lleol eraill yn ystod y diwrnod gwaith, felly er mwyn eich helpu i arbed amser yn ystod eich diwrnod mae gennym gynllun beiciau adrannol a fydd yn cyflymu'ch teithiau i'ch cyfarfodydd.

Gellir cynnig beiciau adrannol i weithwyr ar gyfer taith gwaith, fel cyfarfodydd lleol, teithio rhwng safleoedd ac ymweld â chleientiaid.

Mae gennym 9 beic hybrid y gallwch eu defnyddio beth bynnag yw eich maint, eich dillad neu eich lefel ffitrwydd.

Gallwn eich sicrhau nad oes ffordd gyflymach o deithio llai na 4 milltir o amgylch y dref.

Fydd angen i chi:

  • Sesiwn ymsefydlu (gan Iwan Richards)
  • Llenwi'r ffurflenni perthnasol yn ystod eich sesiwn ymsefydlu

Ar ôl i chi gofrestru, bydd angen i chi:

  • Archebu Beic Adrannol drwy Outlook
  • Llofnodi'r Ffurflen Cyrraedd a Gadael i nodi eich bod wedi mynd â'r Beic Adrannol a'r ategolion a'u dychwelyd (yn y Ffolder Beiciau Adrannol ym Mloc 7)

Dylech nodi mai dim ond yn ystod y diwrnod gwaith y caniateir i chi ddefnyddio'r Beiciau Adrannol (7am - 6.30pm), ar gyfer gweithgareddau gwaith yn unig ac mae'n rhaid i chi ddychwelyd y Beic Adrannol ar yr un diwrnod yr aethoch ag ef.

Darllenwch y nodiadau isod sy'n esbonio'r broses yn fwy manwl.

 

Mae'n rhaid i chi gwblhau sesiwn ymsefydlu fer, a gynhelir gan Iwan Richards, sy'n sicrhau eich bod yn hyderus o ran sut y mae'r Cynllun Beiciau Adrannol yn gweithio, sut i ddefnyddio'r offer (megis addasu sêt y beic a defnyddio'r clo) a'r hyn sydd o'n hamgylch.
Diben yr asesiad yw rhoi'r hyder i chi ddefnyddio'r beiciau adrannol ac ymgyfarwyddo â'r beiciau a'r hyn sydd o'n hamgylch.
Mae croeso i chi anfon neges e-bost at Kelly Thomas i ofyn am sesiwn ymsefydlu ar gyfer beicio. Ar ôl cwblhau'r sesiwn ymsefydlu a llenwi'r ffurflenni perthnasol, byddwch yn gallu archebu a defnyddio beic adrannol pan fydd yn gyfleus gennych.


Cewch ddewis o 9 beic hybrid sy'n amrywio o fframiau bach iawn i fframiau mawr iawn.
Mae'r beiciau hybrid yn cynnwys elfennau beiciau mynydd a beiciau ffordd. Mae gan feiciau hybrid deiars mawr sy'n fwy cul, a gwadnau llai na beiciau hamddenol, sy'n golygu ei bod yn haws i feicwyr fynd yn gyflymach ac yn bellach. Mae'r fframiau'n ysgafnach na'r rheiny ar feiciau hamddenol ac mae'r ystum feicio'n fwy tebyg i'r un a ddefnyddir ar feiciau mynydd.

Dyma'r beiciau sydd ar gael:
Beic 1 - camu drwodd, bach iawn
Beic 2 - camu drwodd, bach
Beic 3 - camu drwodd, bach
Beic 4 - bar croes, bach
Beic 5 - bar croes, canolig
Beic 6 - bar croes, canolig
Beic 7 - bar croes, canolig
Beic 8 - bar croes, mawr
Beic 9 - bar croes, mawr
Byddwch yn gallu pennu pa feic(iau) sydd fwyaf addas i chi yn ystod eich sesiwn ymsefydlu

Ar ôl i chi archebu beic drwy ddefnyddio'n calendr Outlook.
Bydd angen i chi gasglu eich allwedd i gael mynediad i Floc 7 o'r Swyddfa Cymorth Busnes (ar lawr uchaf bloc 1).
Wedyn bydd angen i chi lofnodi i ddangos eich bod wedi mynd â'r beic a'r ategolion a'u dychwelyd, bob tro y byddwch yn eu defnyddio.
Ceir yr ategolion a roddir ynghyd â'r beic mewn bag beicio yn y cwpwrdd offer. Ymysg cynnwys y bag hwn y mae clo beicio, rhwyd gwallt, helmed, fest lachar, goleuadau a chlipiau trowsus.
Bydd angen i chi lofnodi i gadarnhau eich bod yn mynd â'r eitemau hyn a'u dychwelyd bob tro y byddwch yn defnyddio beic adrannol.

Gellir gweld y ffurflenni ym Mloc 7 ger bwrdd hysbysiadau'r beiciau adrannol.

Llofnodi wrth adael: Drwy lofnodi yn y bocs wrth adael, rydych yn cadarnhau eich bod wedi derbyn y beic a'r ategolion (clo, goleuadau, helmed, fest lachar, clipiau trowsus) mewn cyflwr da.

Llofnodi wrth ddychwelyd: Drwy lofnodi yn y bocs wrth ddychwelyd, rydych yn cadarnhau eich bod wedi dychwelyd y beic a'r ategolion (clo, goleuadau, helmed, fest lachar, clipiau trowsus) mewn cyflwr da.

Dylech nodi mai dim ond yn ystod y diwrnod gwaith y caniateir i chi ddefnyddio'r Beiciau Adrannol (7am - 7pm), ar gyfer gweithgareddau gwaith ac mae'n rhaid i chi ddychwelyd y Beic Adrannol ar yr un diwrnod yr aethoch ag ef.

Mae'n rhaid i chi gwblhau sesiwn ymsefydlu ynghylch beicio cyn defnyddio'r cynllun beiciau adrannol.

Bydd yn ofynnol i chi roi gwybod i'r gwasanaeth Cymorth Busnes (ar lawr uchaf bloc 1) am unrhyw ddifrod a achosir i'r beic neu am unrhyw ddiffygion ddaeth i'r amlwg pan oeddech yn defnyddio'r beic adrannol.
Bydd y beiciau adrannol yn cael eu gwasanaethu'n rheolaidd heb godi unrhyw gost ar ddefnyddwyr y beiciau adrannol.

Fodd bynnag, bydd yn rhaid i'r holl ddefnyddwyr wirio bod y beiciau mewn cyflwr da cyn iddynt fynd â nhw. Yn arbennig, dylid gwirio'r canlynol:

  • Bod y brêcs wedi'u gosod yn iawn a'u bod yn gweithio
  • Bod y sêt a'r cyrn wedi'u gosod yn gadarn
  • Bod digon o aer yn y teiars - mae pwmp i feiciau yn y locer
  • Bod yr olwynion yn gadarn ar y ffrâm
  • Bod y goleuadau'n gweithio (os bydd yn debygol y bydd angen eu defnyddio)
  • Bod y gloch yn gweithio
  • Bod yna glo i feiciau

Ni chaniateir i chi ddefnyddio beiciau sydd wedi torri, beiciau sydd wedi'u difrodi neu sy'n ddiffygiol, nac os yw'r clo ar goll. Rhowch wybod am dyllau mewn teiars, nytiau/byllt rhydd neu broblemau mecanyddol i'r gwasanaeth Cymorth Busnes (ar lawr uchaf bloc 1) pan fyddwch yn casglu/dychwelyd yr allweddi.

Os ydych yn cael damwain â cherbyd arall a/neu os oes angen cymorth meddygol arnoch, ffoniwch 999.

Os yw eich beic yn torri i lawr neu os oes angen ei atgyweirio, gwthiwch y beic yn ôl i Barc Myrddin a rhowch wybod i'r Swyddfa Cymorth Busnes (ar lawr uchaf bloc 1) pan fyddwch yn dychwelyd yr allweddi.
Fodd bynnag, os na allwch ddychwelyd y beic i Barc Myrddin, rhowch y clo ar y beic. Cerddwch yn ôl i'r swyddfa i roi gwybod i'r tîm Cymorth Busnes, a fydd yn casglu'r beic cyn gynted â phosibl.
Mae pob locer yn cynnwys helmed, fest lachar a goleuadau beic (i'w defnyddio yn y tywyllwch).
Dim ond ar gyfer teithiau gwaith y caniateir i chi ddefnyddio'r beic ac mae'n ofynnol eich bod yn gwisgo helmed a fest lachar.

Mae'r Awdurdod wedi cymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau diogelwch y beiciwr a'r beiciau adrannol.

Dilynwch y rheolau canlynol wrth ddefnyddio beic adrannol:

  • Dylech bob amser gloi'r beic wrth rywbeth cadarn na ellir ei symud mewn lle amlwg os byddwch yn gadael y beic. Darperir clo beic i'w ddefnyddio gyda phob beic adrannol.
  • Os byddwch yn gadael y beic, sicrhewch eich bod yn mynd â holl ategolion y beic.
  • Defnyddiwch synnwyr da o ran diogelwch ffyrdd wrth ddefnyddio'r beic.

Os cymerir y rhagofalon hyn, ni ddisgwylir i staff fod yn bersonol atebol am brynu beic neu gydrannau newydd pe bai'r beic yn cael ei ddwyn neu ei ddifrodi yn ystod cyfnod yr archeb. Ni ddisgwylir i staff dynnu'r sêt rhyddhau cyflym.

Dylech nodi na allwch hawlio costau teithio am ddefnyddio'r Beic Adrannol.

Gellir gweld y llwybrau a argymhellir ar GeoDiscoverer.

Gwasgwch + i ychwanegu'r haen.
Dewiswch eich iaith drwy glicio +, sgroliwch i deithio, ffyrdd a pharcio a gwasgwch +.
Wedyn byddwch yn gallu gweld Teithiau Beicio Cynllun Beiciau Adrannol.
Bydd hyn wedyn yn eich galluogi i weld y llwybrau a argymhellir sydd ar gael i'r beiciau adrannol.

Ailgyfeiriwch ein llwybr argymelledig o Parc Myrddin i Cillefwr.

 

Ar ôl cwblhau eich sesiwn ymsefydlu, byddwch yn ymwybodol pa feic sydd ei angen a rhif(au) y beic, gallwch wedyn archebu beic adrannol drwy ddefnyddio'r calendr Outlook perthnasol.

  • Ar eich calendr Outlook, cliciwch ar 'agor calendr' ar y ddewislen uchaf
  • Dewiswch 'o'r llyfr cyfeiriadau' a theipiwch 'pool vehicle parc myrddin bicycle' yn y bocs chwilio
  • Dewiswch y beiciau sydd eu hangen - bydd y rheiny bellach yn ymddangos yn rhestr eich calendr a gallwch weld pan gaiff archeb ei gwneud
  • I archebu'r beic, dewiswch y dyddiad a'r amser yn eich calendr a chreu gwahoddiad cyfarfod a'i anfon at gyfeiriad y beic o'ch dewis

Sylwer:
Gellir addasu holl seddau'r beiciau felly peidiwch â phoeni os nad yw eich maint ar gael.

Ewch i'r Swyddfa Busnes Cymorth (ar lawr uchaf bloc 1) i gasglu'r allwedd, a'i dychwelyd i'r un lleoliad ar ôl i chi orffen.

Gall newidiadau i sut y mae gweithwyr yn teithio yn ystod y diwrnod gwaith arbed amser ac arian yn ogystal â rhoi buddion cymdeithasol ac amgylcheddol iddynt a gwella'u hiechyd. Gall cynyddu gweithgarwch corfforol hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a llesiant i weithwyr.

  • Arbed amser ac arian wrth deithio ar gyfer y gwaith
  • Annog mwy o weithwyr i roi cynnig ar gymudo
  • Cynnal delwedd gyhoeddus gadarnhaol
  • Gwella opsiynau teithio i staff a morâl
  • Gwella ffitrwydd staff
  • Lleihau problemau parcio

Un o'r pethau gorau am feicio yw y gallwch deithio dros bellter byr yn gyflym ac yn gyfleus. Hyd yn oed wrth feicio ar gyflymder cymedrol, gellir teithio tair milltir mewn 30 munud yn unig ar gyfartaledd, gan ddibynnu ar y dirwedd leol a'r unigolyn. Mae'r beiciau adrannol yn galluogi gweithwyr i fynd o ddrws i ddrws yn y modd mwyaf effeithiol, heb orfod dod o hyd i le i barcio car, eistedd mewn tagfeydd, na cherdded ac aros am drafnidiaeth gyhoeddus.
I lawer o weithwyr a chyflogwyr, mae amser yn werthfawr a dylid sylweddoli'n llawn pa mor bwysig yw arbed amser.

Mwynhau eich ardal

Ar ddwy olwyn ac wrth symud ar gyflymder cyfforddus, gallwch fwynhau eich ardal a gweld, arogli a chlywed pethau na fyddech yn sylwi arnynt mewn car. Ar feic, gallwch fynd ar lwybr gwahanol, gweld pethau newydd a bod yn dwrist yn eich tref eich hun. Mae pob taith yn antur.
Ni fyddwch byth yn cael eich rhwystro gan draffig a bydd gennych le parcio gwych bob amser
Bydd dewis beic adrannol i deithio pellter byr yn caniatáu i chi fynd heibio'r ciwiau o gerbydau wrth y goleuadau coch (sicrhewch eich bod yn gwylio'n ofalus am draffig sy'n troi i'r dde y mae'n bosibl na fyddant yn eich gweld). Mae'n gyfle i chi gael awyr iach a mwynhau'r golygfeydd oddi ar y ffyrdd, a hynny heb sôn am y ffaith y byddwch bob amser yn cael lle parcio gwych ac mae hyd yn oed yn bosibl y byddwch yn cyrraedd cyn eich cydweithwyr sy'n gyrru i gyfarfodydd/ymweliadau gwaith.

Manteision o ran Iechyd a Llesiant!

Mae beicio'n llosgi calorïau ac yn cael eich calon i guro'n gynt, mae'n ymarfer gwych i'ch coesau a'ch abdomen. Gall hefyd wella eich hwyliau, rhoi gwên ar eich wyneb a gwella'ch iechyd a llesiant yn gyffredinol.
Drwy feicio neu gerdded yn lle mynd yn y car, gallwch wneud ymarfer corff yn ystod eich diwrnod ac elwa ar y manteision o ran iechyd.
Mae beicio hefyd yn ffordd wych o hyrwyddo'r gweithgarwch corfforol y mae ei angen arnom o ddydd i ddydd i gadw'n iach. Gall gweithgarwch corfforol rheolaidd leihau'r risg o glefyd y galon, strociau a diabetes, lleihau straen a golygu y bydd llai o absenoldeb oherwydd salwch.

Manteision i'r Sefydliad

Mae'r arbedion ariannol uniongyrchol sy'n gysylltiedig â defnyddio beiciau adrannol yn cynnwys arbedion uniongyrchol o ran costau teithio ar gyfer ceir personol a'r costau o ran cynnal ceir cwmni.
Mae'n bosibl y bydd arbedion anuniongyrchol yn cael eu gwneud, er enghraifft, lle bo lleoedd parcio'n wag yn sgil defnyddio beiciau adrannol; gellir storio hyd at 10 beic yn ddiogel mewn un lle parcio car.

Mae cynnal cynllun beiciau adrannol yn dangos ymrwymiad i reolaeth amgylcheddol a chymdeithasol gadarnhaol.

Manteision i'r Amgylchedd

Mae'r manteision i'r amgylchedd yn sgil lleihau'r defnydd o gerbydau modur yn cael eu cydnabod fwyfwy. Drwy feicio, bydd gweithwyr yn lleihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr, cyfrannu at welliannau yn yr ansawdd aer, lleihau tagfeydd a gwella'u hamgylchedd lleol drwy leihau nifer y lleoedd parcio y mae eu hangen.

Llwythwch mwy