Bysiau mini ysgolion

Diweddarwyd y dudalen: 09/05/2023

Nid ar chwarae bach y mae gyrru bws mini ysgol ac mae’n rhaid mai diogelwch disgyblion a staff yw’r brif ystyriaeth bob amser. Mae’r rheolau canlynol yn berthnasol i yrru bysiau mini’n achlysurol gan bob math o sefydliad addysgol.

Cafodd gyrwyr a lwyddodd mewn prawf categori B (prawf i yrru car arferol) cyn 1 Ionawr 1997 hawl awtomatig i yrru cerbydau yng nghategori D1 (cerbyd cludo teithwyr – Yn gyfyngedig i beidio â bod am dâl na gwobr).

Ers 1 Ionawr 1997, nid yw gyrwyr yn cael hawl awtomatig i yrru cerbydau yng nghategori D1 mwyach pan fyddant yn llwyddo mewn prawf i yrru car yng nghategori B.

Gall gyrrwr sy’n dal trwydded categori D1 lawn i yrru cerbyd sy’n cludo teithwyr (am dâl neu wobr) yrru unrhyw fws â hyd at 16 sedd teithiwr.

DS: Rydym ond yn caniatáu i'r rheiny sydd â thrwydded gyfyngedig D1 neu drwydded lawn i yrru bysiau mini.

Gellir rhoi Hawlen 19 i gorff nid er elw megis ysgol ac mae’n caniatáu gweithredu cerbyd cludo teithwyr heb gydymffurfio â deddfwriaeth statudol benodol, megis oriau gyrwyr a thrwyddedu gweithredwyr cerbydau.

Rydym wedi ein hawdurdodi i roi Hawlen 19 ar ran y Comisiynydd Traffig Ardal. Mae hawlenni’n orfodol ar gyfer bysiau mini ysgol ac mae’n rhaid eu harddangos yn glir yn ffenestr unrhyw gerbyd sy’n gweithredu dan ei nawdd.

Gellir ymgeisio am hawlenni trwy gysylltu â Huw Clement ar 01554 784140.

Cyfrifoldeb personol y gyrrwr yw sicrhau bod y bws mini mewn cyflwr addas i gael ei yrru ar y ffordd a bod y gwiriadau diogelwch dyddiol angenrheidiol wedi cael eu cwblhau a bod y manylion wedi cael eu rhoi yn llyfr diffygion y cerbyd.

Dylai gwiriadau gan y gyrrwr gynnwys:

  • Hawlen 19 yn cael ei harddangos
  • Lefel y tanwydd
  • Lefel yr olew
  • Teiars mewn cyflwr da ac yn cynnwys y pwysedd aer cywir
  • Sychwyr ffenestri/ golchwyr ffenestri blaen a chefn yn gweithio
  • Goleuadau/goleuadau brecio’n gweithio
  • Cyfeirwyr yn gweithio
  • Breciau (llaw a phedal) yn gweithio
  • Diffoddwr tân (sy’n ofynnol yn gyfreithiol)
  • Gwaith papur (yswiriant, trwydded yrru)
  • Gwregysau diogelwch yn gweithio’n iawn
  • Cit cymorth cyntaf â chyflenwad llawn (sy’n ofynnol yn gyfreithiol)

Cyfrifoldeb y gyrrwr yw unrhyw ddiffyg a ganfyddir gan yr heddlu os caiff y cerbyd ei stopio, a bydd y gyrrwr yn bersonol yn cael unrhyw ddirwy a / neu bwyntiau dilynol ar ei drwydded felly mae’n hanfodol bod y gwiriadau hyn yn cael eu cwblhau.

Lle canfyddir diffygion mae’n rhaid eu gwneud yn hysbys i Liam Cole, Derbynnydd y Gweithdy, ar 01554 784138.

Byddwn yn cynnal a chadw cerbydau'r Cyngor yn unol â’r holl ofynion cynnal a chadw statudol. Mae hyn yn cynnwys archwiliadau diogelwch rheolaidd, gwasanaethu, atgyweiriadau a phrofion blynyddol (MOT).

Mae’r ddarpariaeth hon ar gael ar yr amod bod Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn ei le. Dylai unrhyw ysgol sy’n gweithredu bws mini heb yn wybod i’r Awdurdod gyfleu hyn i’r Rheolwr Fflyd, Antonia Jones ar y cyfle cynharaf.

Y gyrrwr sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl deithwyr yn gwisgo gwregysau diogelwch.

Y gyrrwr sy’n gyfrifol am ymddygiad cyffredinol ei deithwyr. Fodd bynnag, ni ddylai sylw gyrwyr gael ei dynnu oddi ar eu prif ffocws ac felly, lle mae angen cymorth, dylai rheolwyr sicrhau bod cynorthwywyr teithwyr yn cael eu henwebu i gefnogi’r gyrrwr.

Y terfyn cyflymder ar gyfer bysiau mini (nad ydynt yn tynnu trelar) ar ffyrdd dosbarth A (lle nad oes arwydd i ddynodi terfyn cyflymder is) yw 50mya. Ar ffordd ddeuol mae’r terfyn cyflymder yn 60 mya ac yn 70mya ar draffyrdd. Wrth dynnu trelar mae’r terfyn cyflymder ar draffyrdd yn is, sef 60mya. Dylid nodi hefyd na ddylid defnyddio’r lôn allanol (y lôn oddiweddyd) ar draffordd â thair neu bedair lôn wrth dynnu trelar.

Mae dyfais cyfyngu ar gyflymder wedi’i gosod ar bob bws mini a gofrestrwyd ar ôl 1 Ionawr 2005 sy’n eu hatal rhag mynd yn gyflymach na 62mya.