Canllawiau diogelwch

Diweddarwyd y dudalen: 09/05/2023

Y tri math o ddigwyddiadau yr oedd ein cerbydau a'n gyrwyr yn fwyaf tebygol o fod yn gysylltiedig â hwy a'r mesurau rheoli / argymhellion sydd bellach ar waith:

  • Rifyrsio: 35.71%
    Mae gosod synwyryddion rifyrsio a chamerâu ôl wedi helpu i reoli nifer y digwyddiadau, ond yr unig ffordd o gael gwared ar y risg yn gyfan gwbl yw sicrhau bod Bancsmon yn cynorthwyo’r gyrrwr wrth rifyrsio.
  • Gwrthdrawiad gyda gwrthrych sefydlog: 30.15%
    Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys gwrthdrawiad gydag adeiladau a dodrefn stryd. Rhaid i yrwyr arafu wrth nesáu at beryglon i asesu a yw’n ddiogel ac a oes digon o le i fynd heibio.
  • Taro cerbyd llonydd: 10.31%
    Ystyrir bod cyflymder gormodol o ystyried amodau’r ffordd, ynghyd ag ymwybyddiaeth annigonol o gerbydau eraill a defnydd gwael o ddrychau oll yn ffactorau sy’n cyfrannu.

    Mae dros dri chwarter yr holl wrthdrawiadau traffig ffyrdd lle'r oeddem ni ar fai yn cwympo o fewn un o'r categorïau hyn. Rhaid i staff goruchwyliol godi o ymwybyddiaeth o’r peryglon ac o’r mesurau ataliol yn rheolaidd a'u cyfleu i'r gweithlu symudol yn ystod sgyrsiau iechyd a diogelwch a sesiynau briffio eraill.

Mae'r canllawiau diogelwch hyn ar gyfer gyrwyr cerbydau sy'n eiddo i'r Cyngor gan gynnwys ceir adrannol / ceir hurio.

Wrth yrru ar isffyrdd a lonydd gwledig nid yw’n beth anghyffredin i ddod wyneb yn wyneb â pherygl ceffylau a marchogion. Cewch eich cynghori i roi sylw i'r pwyntiau canlynol wrth nesáu at geffylau a marchogion ar y ffordd:

  1. Arafwch pan fyddwch yn gweld ceffyl, a gyrrwch yn araf heibio iddo
  2. Rhowch ddigon o le iddynt a byddwch yn barod i stopio
  3. Peidiwch â dychryn anifeiliaid trwy ganu eich corn neu refio eich injan
  4. Cadwch olwg am arwyddion marchogion a byddwch yn ymwybodol na fyddant o bosibl yn symud i ganol y ffordd cyn troi i’r dde
  5. Plant yw marchogion ceffylau ac ebolion yn aml iawn – felly byddwch yn hynod ofalus
  6. Dylech drin ceffylau fel perygl posibl a disgwyl yr annisgwyl

Cofiwch!

Mae ceffylau’n anifeiliaid nerthol ond maent yn ddiamddiffyn, gellir eu dychryn yn rhwydd a gallant fynd i banig o amgylch cerbydau sy’n symud yn gyflym. Pan fyddwch yn gweld ceffylau ar y ffordd – arafwch os gwelwch yn dda.

Gall defnyddio ffôn symudol neu ddyfais debyg wrth yrru dynnu eich sylw oddi ar y ffordd. Mae’n anghyfreithlon gyrru cerbyd tra ydych yn defnyddio ffôn symudol a ddelir yn y llaw. Mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw ddyfais debyg (y mae’n rhaid ei ddal ar ryw bwynt) i wneud y canlynol:

  • Anfon neu dderbyn negeseuon llafar neu ysgrifenedig neu ddelweddau llonydd neu fyw
  • Cysylltu â’r rhyngrwyd
  • Gwneud neu dderbyn galwadau
  • Anfon neu dderbyn negeseuon llun a thestun

Polisi presennol yr Awdurdod yw gwahardd y defnydd o ffonau symudol a ddelir yn y llaw wrth yrru.

Hefyd, lle darperir offer llawrydd.

Dylai’r neges fod yn fyr a dim ond pan fo’r cerbyd wedi’i barcio mewn lle cyfreithlon, diogel, gyda’r injan wedi’i diffodd y dylid gwneud galwadau.

Y cosbau am ddefnyddio eich ffôn symudol wrth yrru

Os cewch eich dal yn defnyddio ffôn symudol a ddelir yn y llaw neu ddyfais debyg wrth yrru neu reidio, mae hyn yn anghyfreithlon.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i www.gov.uk

Mae gyrwyr yn gyfrifol am ddiogelwch eu cerbydau a'u hatal rhag symud bob amser. Mae hyn yn cynnwys yr adegau pan fo cerbydau wedi’u parcio. Yn ôl y gyfraith rhaid i gerbydau gael eu parcio mewn lleoliadau addas a chyfreithlon yn unig. Dylai gyrwyr nodi y gall methu â chydymffurfio â hyn arwain at eu bod yn cael eu herlyn.

Mae'r lleoliadau nas ystyrir eu bod yn addas yn cynnwys:

  • Ffordd gerbydau neu lain galed traffordd, ac eithrio mewn argyfwng
  • Croesfan i gerddwyr, gan gynnwys yr ardal sydd â llinellau igam-ogam
  • Clirffordd
  • Llwybr beicio
  • Gerllaw mynediad i ysgol
  • Unrhyw le lle byddech yn atal mynediad i'r Gwasanaethau Brys
  • Wrth neu gerllaw arhosfan fysiau neu safle tacsi
  • Wrth nesu at groesfan reilffordd
  • Ger ael bryn neu bont grom
  • Gyferbyn â chyffordd neu o fewn 10 metr (32 troedfedd) i gyffordd, ac eithrio mewn lle parcio awdurdodedig
  • Lle mae'r cwrbyn wedi cael ei ostwng i helpu defnyddwyr cadair olwyn a cherbydau symudedd â phŵer
  • O flaen mynediad i eiddo
  • Ar dro yn y ffordd

RHAID I CHI BEIDIO  lgadael eich cerbyd neu'ch trelar mewn safle peryglus neu lle gallai achosi unrhyw rwystr diangen ar y ffordd: Deddf Traffig Ffyrdd 1988, adran 22, Rheolau'r Ffordd Fawr a CUR rheoliad 10.

Rhaid cadw at y mesurau canlynol hefyd:

  • Peidiwch â pharcio gan wynebu yn erbyn llif y traffig
  • Arhoswch mor agos ag y gallwch at ochr y ffordd
  • RHAID i chi ddiffodd yr injan, y prif oleuadau a'r goleuadau niwl
  • RHAID  chi weithredu'r brêc llaw cyn gadael y cerbyd
  • Cymerwch yr allweddi allan o'r twll tanio a'u cadw'n ddiogel
  • RHAID i chi sicrhau nad ydych yn taro unrhyw un pan fyddwch yn agor eich drws. Cadwch lygad ar agor am feicwyr neu draffig arall

Mesurau ychwanegol pan fyddwch yn parcio ar fryn:

  • Unwaith y mae'r brêc llaw wedi'i weithredu a'r injan wedi'i diffodd, gallwch roi'r cerbyd mewn gêr. Gallwch roi'r cerbyd yn y gêr cyntaf neu'r gêr rifyrsio. Fodd bynnag, cofiwch bob amser roi'r cerbyd mewn gêr niwtral cyn tanio'r cerbyd.
  • Trowch yr olwyn lywio i mewn i'r cwrbyn. Mae hyn yn fesur ychwanegol i atal y cerbyd rhag rowlio i ffwrdd.

Cofiwch:

  • Roi eich holl bethau gwerthfawr allan o’r golwg a sicrhau bod eich cerbyd wedi’i ddiogelu.
  • Cloi eich cerbyd.
  • Peidiwch byth â gadael yr allwedd yn y twll tanio pan fo’r cerbyd yn cael ei adael heb rywun i ofalu amdano.
  • Peidiwch byth â gadael cerbyd heb rywun i ofalu amdano gyda’r injan yn rhedeg.
  • Caewch y ffenestri’n llwyr.

Mae’n ofyniad cyfreithiol ac yn bolisi gan yr Awdurdod bod yn rhaid i chi wisgo gwregys diogelwch lle mae un wedi’i osod ar unrhyw sedd mewn unrhyw gerbyd. Wrth yrru, dim ond un person y dylech ei gludo ym mhob sedd sydd wedi’i gosod.

Mae teithwyr 14 oed a throsodd yn gyfrifol am wisgo’u gwregys diogelwch eu hunain. O dan yr oedran hwn y Gyrrwr sy’n gyfrifol.

Mae’n rhaid i blant ddefnyddio’r sedd car gywir ar gyfer eu pwysau nes eu bod yn cyrraedd taldra o 135 centimetr neu eu 12fed pen-blwydd, pa un bynnag sy’n dod gyntaf. Gellir cael canllawiau arbenigol ynghylch gosod seddi ceir ar gyfer plant trwy gysylltu â’n Tîm Diogelwch Ffyrdd ar 01267 228284.

Eithriadau (Meddygol)

YGall eich meddyg benderfynu eich bod wedi eich eithrio rhag gorfod gwisgo gwregys diogelwch am resymau meddygol. Os felly, bydd yn rhoi ‘Tystysgrif Eithrio rhag Gorfod Gwisgo Gwregys Diogelwch’, y mae’n rhaid i chi:

  • Ei chadw yn eich cerbyd
  • Ei dangos i’r heddlu os cewch chi eich stopio

DS: Mae’n rhaid i chi wisgo gwregys diogelwch os ydych yn feichiog, oni bai fod eich meddyg yn ardystio eich bod wedi’ch eithrio am resymau meddygol. Fydd angen cysylltu a Antonia Jones, fydd angen i Antonia  rhoi gwybod i'r cwmni yswiriant.

Eithriad (Gweithredol)

Caniateir i griwiau cerbydau casglu gwastraff domestig ryddhau eu gwregysau diogelwch tra byddant yn gwneud casgliadau o ddrws i ddrws. Mae’r eithriad hwn yn bodoli dim ond lle mae’r cerbyd yn teithio dim mwy na 50 metr rhwng pob arhosiad. Y tu hwnt i’r pellter hwn, mae’n rhaid gwisgo gwregysau diogelwch.

Os ydych chi wedi’ch eithrio rhag gorfod gwisgo gwregys diogelwch, mae’n rhaid i chi hysbysu Adain Drafnidiaeth y Sir a fydd yn ei thro’n hysbysu ein Cwmni Yswirio Cerbydau Modur.

Ar bob adeg, gyrwyr sy’n gyfrifol am ofalu am lwyth eu cerbyd/trelar, a diogelwch y llwyth hwnnw ac mae’n rhaid iddynt arfer y gofal mwyaf posibl i atal y llwyth rhag cael ei golli, ei ddifrodi neu ei ddwyn. Dylid bob amser defnyddio’r dull diogelu priodol i atal y llwyth rhag dod yn rhydd.

Mae'r dulliau a ddefnyddir i ddiogelu llwyth yn cynnwys:

  • Rhwydi
  • Strapiau clicied
  • Rhaffau
  • Cadwyni
  • Plociau
  • Bordiau pen cerbyd
  • Cynwysyddion unigol

Dylai llwythi bob amser gael eu dosbarthu a’u diogelu dros Bwynt Llwytho Optimwm (OLP) y cerbyd i sicrhau dosbarthiad gwastad a dylid osgoi gorlwytho unrhyw echel sengl. Darperir hyfforddiant llwytho cerbydau fel rhan o ddatblygiad gyrfa’r gyrrwr proffesiynol.

Gorlwytho - Y cosbau

Mae Deddf Traffig Ffyrdd 1988 yn ei gwneud yn ofynnol i "ddefnyddwyr cerbydau" sicrhau nad yw eu cerbydau wedi'u gorlwytho. Os ceir bod cerbyd wedi cael ei orlwytho gall y gyrrwr a’r gweithredwr gael eu herlyn neu gael rhybuddiad.

Mae deddfwriaeth yn gosod dirwyon hyd at £5,000 am bob trosedd. Mae hynny’n golygu dirwy am bob echel a orlwythwyd, ac unrhyw orlwytho ar y cyfanswm pwysau. Hefyd, os yw’r cerbyd wedi’i orlwytho’n beryglus gall y gyrrwr wynebu cyhuddiad o yrru’n beryglus sydd ag uchafswm cosb o ddwy flynedd yn y carchar.

Mae troseddau eraill yn y Ddeddf Traffig Ffyrdd yn cynnwys gwrthod gadael i’r cerbyd gael ei bwyso a chreu rhwystr i swyddog sydd hefyd ag uchafswm dirwy o £5,000. Os yw’r cerbyd wedi’i orlwytho a bod hynny’n achosi i rywun gael ei ladd, gall y gyrrwr a’r gweithredwr wynebu carchar am ddynladdiad neu achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Gorfodi

Yn ogystal â’r Heddlu a’r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr sy’n gweithredu fel asiantaethau gorfodi hysbys, byddwn yn cynnal hapwiriadau yn y fan a’r lle ar ein cerbydau gan ddefnyddio cyfarpar pwyso symudol.

Bydd y gwiriadau’n cynnwys asesiadau cyffredinol o addasrwydd ar gyfer y ffordd ond byddant yn targedu’r arfer o orlwytho cerbydau yn benodol. Bydd adroddiadau’n cael eu cyflwyno i’r uwch reolwyr er mwyn iddynt hwy eu hystyried a gweithredu.