Teithio a Pharcio
Diweddarwyd y dudalen: 09/05/2023
Y gyfraith ar ddefnyddio ffonau symudol wrth yrru
Ffonau Llaw
Mae defnyddio ffon symudol a llaw wrth yrru yn anghyfreithlon. Os cewch eich dal yn defnyddio ffon symudol a llaw wrth yrru, byddwch yn cael 6 phwynt cosb ar eich trwydded a dirwy o £200. Bydd rhaid I yrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV) a Cherbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSV) sy’n cael eu dal yn defnyddio’u ffonau symudol ddwywaith, neu sy’n cael 12 pwynt ar eu trwydded, fynd I’r Llys Ynadon.. Bydd gyrwyr hefyd yn cael eu hatgyfeirio’r comisiynydd traffig a gallant gael eu gwahardd rhag gyrru am isafswm o 4 wythnos.
Ffonau llawrydd
Mae defnyddio ffonau llawrydd yn gyfreithlon, ond mae’n gallu tynnu eich sylw ac felly mae’n gallu bod yn beryglus. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau unigol, gallai gyrwyr gael eu herlyn am ’fethu a rheoli’r cerbyd mewn modd priodol’.
Pam mae defnyddio ffon wrth yrru’n beryglus?
Mae’n tynnu eich sylw’n feddyliol—wrth yrru a defnyddio eich ffon mae angen I chi ganolbwyntio ar 2 dasg ‘meddwl’ ar yr un pryd. Mae’n tynnu eich sylw’n gorfforol—dim ond 1 llaw sydd gennych I lywio’r cerbyd wrth I chi ddal eich ffon. Mae’n tynnu eich llygaid oddi ar y ffordd—mae edrych ar eich ffon yn hytrach nag edrych ar y ffordd yn creu man dall gyrru.
Sut y mae hyn effeithio ar fy mherfformiad wrth yrru?
Yn llawer llai ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ar y ffordd o’u cwmpas. Yn methu a gweld arwydddion ffyrdd. Yn methu ag aros yn y lle iawn mewn lon a chadw at gyflymder cyson. Yn ymateb yn arafach ac yn cymryd mwy o amser i arafau.
Gwiriwch a yw cyflwr iechyd yn effeithio ar eich gyrru
Mae angen i chi ddweud wrth DVLA am rai cyflyrau meddygol gan y gallant effeithio ar eich gyrru.
Defnyddiwch yr A i Y i wirio a oes angen i chi roi gwybod am eich cyflwr a dod o hyd i'r ffurflen neu holiadur perthnasol.
Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 os na fyddwch yn dweud wrth DVLA am gyflwr meddygol sy’n effeithio ar eich gyrru.
Efallai y cewch eich erlyn os ydych mewn damwain o ganlyniad.
Rhaid i chi roi’r gorau i’ch trwydded os yw naill ai:
- mae eich meddyg yn dweud wrthych chi am roi'r gorau i yrru am dri mis neu fwy
- nad ydych yn cyrraedd y safonau gofynnol ar gyfer gyrru oherwydd eich cyflwr meddygol
Mewn rhai achosion, fel diabetes, mae canllawiau penodol ar gyfer gyrwyr lorïau, bysiau a choetsys.
Mae’n werth nodi bod cyflyrau meddygol hysbysadwy yn cynnwys y rhai a allai fod yn ‘anweledig’ ar y dechrau weithiau, fel gorbryder, iselder ac anhwylder straen wedi trawma. Mae gyrwyr proffesiynol yn cael eu hystyried yn grŵp risg uchel o ran iechyd meddwl.
Ydych chi wedi cael damwain mewn cerbyd gwaith? Ydych chi wedi rhoi gwybod i'ch cwmni yswiriant personol?
Rhaid i bob gyrrwr ddatgan pob damwain/hawl i'w cwmni yswiriant moduro. Os bydd yswiriwr yn darganfod bod gyrrwr wedi methu â rhoi gwybod am ddamwain, yna gallai polisi personol y gyrrwr gael ei ganslo, ac efallai y bydd yn ei chael hi'n anodd cael yswiriant yn y dyfodol.
Nid yw'n bosibl gwahanu eich gweithgareddau gyrru gwaith oddi wrth eich trefniadau preifat pan ddaw'n fater o yswiriant modur.
Cymerwch ofal bob amser, boed yn eich cerbyd eich hun neu mewn cerbyd a ddarperir gan y Cyngor.
Canllawiau i yrwyr: Cerbydau Nwyddau Mawr (Cerbydau dros 3,500kg)
Mae'r canllaw hwn yn eich helpu i ddeall a chydymffurfio ag ychydig o reolau a rheoliadau pwysig ynghylch ymddygiad a thrwyddedu gyrwyr yn y diwydiant cludo.
- Ymddygiad gyrwyr
- CPC gyrwyr a cherdyn tacograff
- Trwyddedu gyrwyr a chyflyrau meddygol
- Archwiliadau bob dydd
Diogelwch & Cynghorion Rifyrsio
Yn 2019/20, roedd 22% o’r holl wrthdrawiadau a riportiwyd yn yr awdurdod yn cynnwys rifyrsio. Costiodd y gwrthdrawiadau hyn oddeutu £22,972. Drwy sgiliau gyrru gwell gallwn leihau nifer y gwrthdrawiadau, gallwn arbed y costau diangen o gael cerbydau yn eu lle, arbed taliadau i drydydd partïon y mae eu cerbydau a’u heiddo wedi cael
eu difrodi gennym, ac yn bwysicach, lleihau’n sylweddol y posibilrwydd y bydd ein gweithwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol yn cael eu hanafu.
Sut allwch chi wirio pa mor hen yw'ch teiars?
Mae darganfod pa mor hen yw'ch teiars yn syml, gan fod gan deiars a weithgynhyrchwyd ar ôl y flwyddyn 2000 god pedwar digid gyda'r ddau ddigid cyntaf yn cynrychioli'r wythnos weithgynhyrchu a'r trydydd a'r pedwerydd digid yn cynrychioli'r flwyddyn.
Mae gan deiars a weithgynhyrchwyd cyn y flwyddyn 2000 god tri digid gyda'r ddau ddigid cyntaf yn cynrychioli'r wythnos gynhyrchu a'r trydydd digid yn cynrychioli'r flwyddyn. Felly mae 258 yn golygu wythnos 25 o 1998.
Os nad ydych yn siŵr am oedran eich teiars, mae eu cyflwr cyffredinol neu eu haddasrwydd i'w defnyddio yn ceisio arweiniad proffesiynol gan eich contractwr teiars neu'ch cyflenwr.
Polisi Risg Ffyrdd
Rydym wedi ymrwymo i sefydlu, cynnal a hyrwyddo safonau uchel o reoli iechyd a diogelwch er mwyn lleihau'r risgiau i weithwyr ac eraill sy'n deillio o ddefnyddio cerbydau modur.
Nod ein Polisi Risg Ffyrdd yw codi ymwybyddiaeth o risgiau ffyrdd galwedigaethol a lleihau’r risgiau cysylltiedig i weithwyr, Aelodau Etholedig, y cyhoedd, a’r Cyngor i lefel dderbyniol.
Mae’r polisi ar hyn o bryd yng nghanol ein cylch gwleidyddol ac nid yw wedi’i ryddhau’n swyddogol.
Dogfennau y cyfeirir atynt yn ein Polisi Risg Ffyrdd: