Canlyniadau’r Her Camau!

1097 diwrnod yn ôl

Mae ein Her Camau’r Gwanwyn wedi dod i ben. Diolch i bawb a ymunodd â'r her eleni – roedd gennym 78 o dimau wedi cymryd rhan – dros 400 o aelodau staff!

Ar ôl 3 wythnos o gamu, rhedeg, sgipio a cherdded, y Tîm â'r camau cyfartalog uchaf oedd Ysgol Gynradd St Mary’s, Llanelli. Llongyfarchiadau!

Yn ogystal â'r tîm sydd â'r camau cyfartalog uchaf yn derbyn gwobr, eleni rydym wedi ychwanegu gwobr i'r tîm a wellodd ar eu camau fwyaf rhwng wythnos 1 ac wythnos 3 yr her. Mae'r anrhydedd hwnnw'n mynd i SCIMP! Llongyfarchiadau i chi i gyd.

Hoffem ddiolch i chi i gyd unwaith eto am gymryd rhan a gobeithiwn eich bod wedi mwynhau'r her. Cadwch lygad ar ein tudalen Digwyddiadau a Gweithgareddau am gyfleoedd pellach i gymryd rhan – bydd ein Her Cam nesaf ym mis Tachwedd!

Cofiwch ei fod yn ddiwrnod ‘Ar Eich Traed Prydain’ heddiw (dydd Iau 29/04/2021), felly gwnewch yn siŵr nad ydych yn aros yn eich cadeiriau drwy'r dydd!