E-Trafodaeth Gweithgarwch Corfforol

1102 diwrnod yn ôl

Dyddiad: 28/04/2021
Amser: 11:00 – 11:30
 
Rydym yn cynnal y diweddaraf o'n sesiynau E-Drafodaeth ar ddydd Mercher 28 Ebrill, a'r pwnc fydd 'Gweithgarwch Corfforol'.
Tîm Actif Sir Gar fydd eich gwesteiwyr, a bydd yn trafod manteision Gweithgarwch Corfforol, yn rhoi cyngor ar sut i fod yn fwy egnïol yn gorfforol ac yn hyrwyddo digwyddiadau, gweithgareddau a mentrau y gallwch gymryd rhan ynddnynt.
Bydd cyfle hefyd i chi ofyn cwestiynau a gofyn am gyngor gan y tîm yn ystod y sesiwn.
Gallwch ymuno â'r sesiwn drwy ein Tudalen Digwyddiadau a Gweithgareddau. Cliciwch y botwm ymuno ar ddechrau'r digwyddiad.