Trin Data Personol

886 diwrnod yn ôl

Fel Cyngor rydym yn casglu ac yn defnyddio amrywiaeth eang o wybodaeth am ein cwsmeriaid, ein cleientiaid, ein gweithwyr a'n trigolion er mwyn i ni gyflawni ein swyddogaethau gwahanol.

Os na fyddwn yn gofalu am y data personol hwn a'i fod yn cael ei golli, ei ddwyn, ei ddatgelu'n amhriodol neu ei gamddefnyddio mewn modd arall, gallai hyn gael effaith ddifrifol ar yr unigolion dan sylw yn amrywio o drallod, colled ariannol i niwed corfforol.

Mae camddefnyddio data personol hefyd yn torri polisi'r Cyngor a gallai arwain at gamau disgyblu.

Problem diogelu data gyffredin yw anfon e-byst at y person anghywir – felly gwiriwch gyfeiriadau ddwywaith bob amser cyn e-bostio data personol. Mae anfon data personol at y derbynnydd anghywir yn torri Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU a gallai'r Cyngor wynebu dirwy gan reoleiddiwr Diogelu Data'r DU, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, am achosion difrifol neu barhaus o dorri rheolau data personol.

Mae ein Polisi Trin Data Personol yn ein helpu ni i drin data personol yn ddiogel, i atal achosion o dorri rheolau a chydymffurfio â'n rhwymedigaethau diogelwch o dan y ddeddfwriaeth Diogelu Data. Gofynnir ichi neilltuo amser i ddarllen a deall y polisi hwn.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chwblhau'r modiwl e-ddysgu am ddiogelu data, drwy fynd i'r dudalen diogelu data