Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl: Gwnewch Gais Nawr!

1058 diwrnod yn ôl

Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad y rhaglen Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Pwrpas y rhaglen hon yw hyfforddi rhwydwaith o'n staff i fod yn Ddarparwyr Cymorth Cyntaf i Oedolion o ran Iechyd Meddwl wedi'u llwyr gymhwyso. Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i'r rheiny sy'n bresennol i ddarparu cefnogaeth a chymorth cychwynnol yn effeithiol i gydweithiwr mewn angen. Mae hwn yn brosiect hollbwysig a fydd yn ein helpu i barhau i gefnogi eich iechyd meddwl a'ch llesiant yn ogystal â chynyddu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lleihau stigma ynghylch iechyd meddwl yn y gweithle. 

Rôl wirfoddol yw hon sy'n agored i'r holl staff. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod rhagor am fod yn Ddarparwr Cymorth Cyntaf o ran Iechyd Meddwl, ewch i'r adran benodol ar y fewnrwyd nawr.  Rhoddir rhagor o wybodaeth am rôl Darparwr Cymorth Cyntaf o ran Iechyd Meddwl, gwybodaeth am hyfforddiant, gwybodaeth i reolwyr ac i ymgeiswyr, a chwestiynau cyffredin sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd. Ystyriwch natur y rôl hon yn ofalus cyn gwneud cais.  

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os hoffech drafod y rhaglen ymhellach, cysylltwch â'r Tîm Iechyd a Llesiant drwy anfon neges e-bost at iechyd&llesiant@sirgar.gov.uk.