Gwobrau Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gaerfyrddin

1139 diwrnod yn ôl

Llongyfarchiadau i ni! Rydym wedi cael ein henwi fel Cyflogwr Cymraeg y Flwyddyn yng Ngwobrau Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gaerfyrddin.

Mae'r wobr, a gynigir gan Brifysgol Aberystwyth, ar gyfer cyflogwyr sy'n cefnogi eu staff i ddysgu Cymraeg ar gyrsiau Dysgu Cymraeg. Mae'n gyfle i ddathlu ymdrech a chynnydd staff sy'n dysgu Cymraeg.

I gael gwybod mwy am ddysgu Cymraeg yn y gweithle ewch i'n tudalennau Dysgu a Datblygu