Cymorth i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle

1094 diwrnod yn ôl

Ydych chi'n chwilio am gymorth i helpu i wella eich sgiliau Cymraeg? Ar hyn o bryd rydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer nifer o wahanol gyrsiau, gan gynnwys:

Cyrsiau Codi Hyder Cymraeg Gwaith, sy'n rhoi cyfle i chi weithio gyda thiwtor i ddatblygu sgiliau a hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg at ddibenion gwaith.

Bydd eich tiwtor dynodedig yn gweithio gyda chi am gyfanswm o 12 awr, a gallai hyn fod yn awr yr wythnos dros 12 wythnos i gytuno ar a chreu cynllun gweithredu unigol a phwrpasol addas at eich anghenion.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener (7 Mai). E-bostiwch staffhub@sirgar.gov.uk i gael ffurflen gais.

Cynigir cyrsiau 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith rhithwir ar lefel Canolradd, Uwch a Gloywi ac maent yn cael eu hariannu'n llawn. Mae'r cyrsiau'n cynnwys 5 sesiwn addysgu dros gyfnod o 5 diwrnod o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm.

Mae Nant Gwrtheyrn hefyd wedi rhyddhau rhagor o ddyddiadau ar gyfer cyrsiau dwys 1 wythnos ar lefelau Canolradd, Uwch a Gloywi. Cyflwynir y cyrsiau dros bum diwrnod dwys rhwng 10am a 4pm.

Cofiwch fod cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn boblogaidd iawn, felly os oes gennych ddiddordeb anfonwch eich cais at staffhub@sirgar.gov.uk erbyn 11 Mai.

I gael rhagor o wybodaeth am yr uchod a rhagor o gymorth a chefnogaeth ynghylch dysgu Cymraeg yn y gweithle, ewch i'n tudalennau Dysgu a Datblygu